– Senedd Cymru am 5:53 pm ar 21 Mehefin 2022.
Y grŵp nesaf yw grŵp 13, y grŵp sydd yn ymwneud â gofynion cyflogeion a chyflogeion posibl. Gwelliant 43 yw'r gwelliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig y gwelliant.
Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 43 wedi'i gyflwyno i fynd i'r afael â phryderon a nodwyd gan undebau llafur ynghylch sut y bydd y comisiwn yn mynd i'r afael ag anghenion cyflogeion wrth gyflawni ei ddyletswyddau i sicrhau cyfleusterau ar gyfer addysg bellach a hyfforddiant. Ar hyn o bryd, mae adran 95 o'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i'r comisiwn roi sylw, ymhlith pethau eraill, i ofynion cyflogwyr mewn cysylltiad â'r addysg a'r hyfforddiant sy'n ofynnol mewn gwahanol sectorau cyflogaeth. Mae'r gwelliant hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r comisiwn roi sylw i ofynion cyflogeion a darpar gyflogeion, yn ogystal â gofynion cyflogwyr. Bydd y gwelliant yn sicrhau bod y comisiwn yn ystyried anghenion a buddiannau cyflogeion i wrthbwyso buddiannau cyflogwyr wrth gyflawni ei ddyletswyddau i sicrhau cyfleusterau priodol a rhesymol ar gyfer addysg bellach a hyfforddiant. Galwaf felly ar Aelodau i gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i.
Does gyda fi ddim neb sydd eisiau siarad yn y grŵp yma. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 43? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes, felly derbynnir gwelliant 43.
Gwelliant 90.
Laura Jones, a yw'n cael ei gynnig?
Ydy gwelliant 90 yn cael ei symud, Laura Jones?
A yw'n cael ei gynnig?
Ydy.
A oes gwrthwynebiad i welliant 90? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 90. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 90 wedi'i wrthod.
Gwelliant 91. Ydy e'n cael ei symud?
Ydy, mae'n cael ei symud gan Laura Jones. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 91? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, cymrwn ni bleidlais ar welliant 91. Agor y bleidlais.
Gwelliant 91 yw hwn.
Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 91 wedi ei wrthod.
Gweinidog—ydy'r Gweinidog yn cynnig gwelliant 44?
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 44?
A oes gwrthwynebiad i welliant 44?
Nac oes. Felly, mae gwelliant 44 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 45. Ydy e'n cael ei gynnig?
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 45? Nac oes. Felly, mae gwelliant 45 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 46, Gweinidog.
Yn cael ei symud. Felly, oes gwrthwynebiad i 46? Nac oes. Felly, mae 46 yn cael ei dderbyn.
Gwelliant 92 sydd nesaf, yn enw Laura Jones.
A yw'n cael ei gynnig?
Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 92? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, mae yna bleidlais ar welliant 92. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 92 wedi'i wrthod.
Gwelliant 93. Ydy'n cael ei symud, Laura Jones?
Yn cael ei symud, ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 93? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu 93. Felly, bydd yna bleidlais ar welliant 93. Agor y bleidlais.
Gwelliant 93.
Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 93 wedi'i wrthod.
Gwelliant 94, Laura Jones.
Ydy e'n cael ei symud? Ydy. Ydy e'n cael gael ei dderbyn neu ei wrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu. Felly, fe wnawn ni gael pleidlais ar welliant 94. Agor y bleidlais.
Gwelliant 94.
Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 94 wedi'i wrthod.
Gwelliant 47 sydd nesaf, Gweinidog. Ydy e'n cael ei symud?
Ydy. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 47? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 47 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 95, Laura Jones. Ydy e'n cael ei symud?
Ydy, mae'n cael ei symud. Oes yna wrthwynebiad i welliant 95? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gymrwn ni bleidlais ar welliant 95. Agor y bleidlais.
Gwelliant 95.
Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 95 wedi ei wrthod.
Gwelliant 48, Gweinidog. Ydy e'n cael ei symyd?
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 48? Oes gwrthwynebiad? Na, does dim gwrthwynebiad. Felly, does dim angen pleidlais. Mae'n cael ei dderbyn.
Gwelliant 49, Gweinidog. Ydy e'n cael ei symud?
Ydy. Oes gwrthwynebiad i 49? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 49.
Pumdeg, Gweinidog. Ydy e'n cael ei symud?
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 50? Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 50.
Pumdeg un, Gweinidog. Yn cael ei symud?
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 51? Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae 51 yn cael ei dderbyn.
Pumdeg dau, Gweinidog. Yn cael ei symud?
Ydy, yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 52.
Pumdeg tri, Gweinidog. Yn cael ei symud?
Ydy. Felly, oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 53.
Pumdeg pedwar, Gweinidog. Yn cael ei symud?
Ydy. Oes gwrthwynebiad i 54? Nac oes. Felly, mae 54 yn cael ei dderbyn.
Gweinidog, gwelliant 55. Ydy e'n cael ei symud?
Ydy. Gwelliant 55, a oes gwrthwynebiad? Na, dim gwrthwynebiad. Felly, mae gwelliant 55 yn cael ei dderbyn.
Gwelliant 56. Ydy e'n cael ei symud, Gweinidog?
Ydy e'n cael ei wrthwynebu? Nac oes, does dim gwrthwynebiad. Felly, mae gwelliant 56 yn cael ei dderbyn.
Pumdeg saith, Gweinidog. Symud?
Ydy. A oes gwrthwynebiad? Nac oes, dim gwrthwynebiad. Felly, mae 57 yn cael ei dderbyn.
Pumdeg wyth, Gweinidog. Yn cael ei symud?
Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Na, dim gwrthwynebiad. Felly, mae 58 yn cael ei dderbyn.
Pumdeg naw. Yn cael ei symud, Gweinidog?
Ydy. Felly, oes gwrthwynebiad i 59? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 59.
Chwedeg. Yn cael ei symud, Gweinidog?
Ydy. Oes gwrthwynebiad i 60? Na, does dim gwrthwynebiad i 60. Felly, mae'n cael ei dderbyn.
Gweinidog, gwelliant 61. Ydy e'n cael ei symud?
Oes yna wrthwynebiad? Nac oes, does dim gwrthwynebiad. Felly, mae'n cael ei dderbyn—gwelliant 61, felly.
Gwelliant 62 sydd nesaf. Ydy e'n cael ei symud?
Ydy. Felly, oes gwrthwynebiad i 62? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.
Gwelliant 96 sydd nesaf, yn enw Laura Jones.
Yn cael ei symud gan Laura Jones. Oes gwrthwynebiad i welliant 96? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe fydd yna bleidlais ar welliant 96. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 96 wedi ei wrthod.
Gwelliant 97. Ydy e'n cael ei symud, Laura Jones?
Ydy, mae'n cael ei symud. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 97? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 97. Agor y bleidlais.
Gwelliant 97.
Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 97 wedi ei wrthod.
Gwelliant 98. Yn cael ei symud, Laura Jones?
Symud, ydy. Felly, oes gwrthwynebiad i welliant 98? [Gwrthwynebiad.] Oes. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 98. Agor y bleidlais.
Gwelliant 98.
Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 98 wedi ei wrthod.
Gwelliant 99. Ydy e'n cael ei symud?
Ydy, mae'n cael ei symud. Oes yna wrthwynebiad i welliant 99? [Gwrthwynebiad.] Oes. Ac felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 99. Agor y bleidlais.
Gwelliant 99.
Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac mae gwelliant 99 wedi ei wrthod.
Gwelliant 100.
Laura Jones, a yw'n cael ei gynnig?
Symud, ydy. Felly, oes gwrthwynebiad i welliant 100? [Gwrthwynebiad.] Fe gawn ni bleidlais ar welliant rhif 100. Agor y bleidlais.
Gwelliant 100.
Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, ac 38 yn erbyn.
Rŷn ni nawr yn mynd i gymryd toriad byr o ryw 20 munud cyn i ni ailgychwyn.