Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 21 Mehefin 2022.
Wel, Llywydd, diolch i'r Aelod am y diddordeb y mae ef hefyd yn ei gymryd yn etholaeth Gorllewin Caerdydd. Rhoddaf sicrwydd iddo y byddaf yn adrodd ei safbwyntiau i'r Aelod etholedig ac y byddan nhw'n cael eu cymryd o ddifrif fel y dylen nhw, gan gynnwys yr holl waith sy'n mynd ymlaen i sicrhau bod yr amwynderau yno y mae angen eu darparu ar gyfer poblogaeth o'r fath sydd wedi dewis mynd i fyw yn natblygiad Plasdŵr. Yn hytrach na bod yn ddinasyddion 'blin' yng Nghaerdydd, fel yr awgryma'r Aelod, mae'r rhain yn bobl sy'n gwario miloedd lawer o bunnau yn wirfoddol i fanteisio ar y cyfle sydd wedi'i greu ar eu cyfer.