Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 21 Mehefin 2022.
Rwyf eisiau canolbwyntio ar y seilwaith cynllunio sy'n ymwneud â datblygiadau tai. Roeddwn yn siomedig iawn o glywed bod Cyngor Caerdydd wedi rhoi caniatâd cynllunio i 700 o gartrefi ar hen safle Brains, ychydig i'r de o orsaf Caerdydd Canolog—datblygiad 29 llawr—a'r unig gyfraniad i dai cymdeithasol yw £600,000 i adeiladu cartrefi mewn mannau eraill. Wel, mae hynny'n cyfateb i tua phum cartref. Felly, tybed pa gynlluniau a allai fod gan Lywodraeth Cymru i gryfhau'r rhwymedigaeth i gartrefu nid yn unig y bobl sy'n gallu fforddio prynu tai, ond y rhai sy'n aros ar y rhestr aros am dai.