Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 21 Mehefin 2022.
Prif Weinidog, mae'n amlwg nad ydych chi wedi bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae ysgrifennydd cyffredinol yr RMT wedi'i ddweud, pan ddywedodd ar goedd na fyddai'n negodi gyda Llywodraeth Geidwadol, sy'n ymddangos yn rhyfedd o ystyried bod ganddyn nhw fandad i lywodraethu—[Torri ar draws.] Rwy'n gwerthfawrogi bod y bleidlais gyflogres yn cynhyrfu tipyn, ac rwy'n siŵr y bydd y pleidiau Llafur etholaethol yn cael y rhoddion y maen nhw'n eu haeddu—[Torri ar draws.]