Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:45, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, gadewch imi egluro i arweinydd yr wrthblaid pam nad yw trenau'n rhedeg yng Nghymru: y rheswm am hynny yw bod ei Lywodraeth wedi creu anghydfod gyda Network Rail, ac mae Network Rail wedi symud rhai o'r staff, a allai fod wedi bod ar gael i redeg trenau yng Nghymru, er mwyn cadw trenau i redeg yn Lloegr. Tybed a yw'n cefnogi'r mesur hwnnw, a oedd yn benderfyniad gan ei Lywodraeth ef, i wrthod y cyfle i bobl yng Nghymru deithio—lle nad oes anghydfod—drwy symud y gweithwyr hynny i ofalu am yr hyn sy'n amlwg iddyn nhw yn fwy o flaenoriaeth nag y bydd dinasyddion Cymru byth.

Yr undebau llafur—Llywydd, wrth gwrs, mae'r undebau llafur eisiau negodi ac eisiau negodi ynghylch arferion gweithio diogel ar gyfer y dyfodol, ond yr arferion gweithio diogel. Pan edrychwch chi ar yr hyn y mae Network Rail yn ei gynnig ar hyn o bryd, ni fyddwn i eisiau teithio ar drên gyda gyrrwr sydd newydd weithio am 16 awr yn olynol. Ni fyddwn i eisiau bod ar drên lle na allwn fod yn ffyddiog bod y trefniadau diogelwch a'r bocsys signalau yr hyn y mae angen iddyn nhw fod.

Llywydd, dim ond drwy negodi y caiff unrhyw anghydfod yn y pen draw ei ddatrys. Yr hyn yr wyf i eisiau ei weld yw Llywodraeth y DU yn defnyddio'r pŵer sydd ganddi, y pŵer cynnull sydd ganddi, cyhyrau'r trefniadau ariannu sydd ganddi, i gael pobl o gwmpas y bwrdd ac i sicrhau bod y trafodaethau hynny'n ailddechrau ac yn mynd tuag at gasgliad y cytunwyd arno. Absenoldeb Llywodraeth y DU sy'n gwrthod arfer y cyfrifoldebau hynny sy'n gyfrifol am y problemau y mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio teithio heddiw.