Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 21 Mehefin 2022.
Does dim byd tebyg i herio'r bleidlais gyflogres i'r undebau, nac oes, pan fydd eich rhai chi eich hun yn curo eu desgiau. Ni chlywais i nhw'n curo eu desgiau pan oedden nhw i fod i gefnogi eu hetholwyr a oedd yn sownd ar drenau na allen nhw ddarparu gwasanaeth gan Trafnidiaeth Cymru. A phan ewch chi i orsaf Caerdydd Canolog heddiw, neu'r rhwydwaith rheilffyrdd yn y gogledd neu'r canolbarth, nid oes trenau'n rhedeg, Prif Weinidog. Rwy'n sylwi na ddywedoch chi eich bod yn cefnogi'r streiciau, sydd i'w groesawu, Prif Weinidog, ond yn sicr, mewn oes pan fo angen i'r system trafnidiaeth gyhoeddus ddod yn ôl yn fyw ar ôl COVID, mae angen i ni symud oddi wrth arferion gwaith y 1950au a symud i'r 2020au—arferion sy'n gweld pobl yn peidio â rhannu faniau i gyrraedd yr un safle i weithio, arferion sy'n dyfarnu na ddylid defnyddio dronau oherwydd iechyd a diogelwch, neu na ddylid defnyddio apiau ar ffonau i anfon negeseuon at weithwyr mewn lleoliadau bregus. Siawns na chytunwch chi â mi ar hynny, Prif Weinidog—bod angen diweddaru arferion gwaith yn ein rheilffyrdd, boed hynny yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, fel bod gennym rwydwaith rheilffyrdd diogel a dibynadwy.