Iechyd Meddwl Amenedigol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:15, 21 Mehefin 2022

Diolch yn fawr. Wythnos nesaf, mi fyddai’n cyd-noddi digwyddiad i nodi pen-blwydd cyntaf yr uned mamau a babanod yn y de, sef Uned Gobaith. Fel dŷch chi’n gwybod, cafodd yr uned yma ei hagor yng nghanol y pandemig, a does yna ddim dwywaith ei bod hi wedi wynebu heriau oherwydd hynny, ond hefyd mae hi yn datblygu i fod yn adnodd gwerthfawr i famau sy’n datblygu problemau iechyd meddwl o gwmpas cyfnod geni plentyn.

Mae cynifer ag un o bob pedair menyw yn gallu datblygu problem o’r fath. Dwi felly’n bryderus ar ran mamau yn fy etholaeth i, ac ar draws y gogledd, nad oes yna fynediad at uned arbenigol yn agos at gartref i’r mamau rheini. A wnewch chi ymrwymo i ddatblygu cefnogaeth arbenigol mewn man addas? Rydych chi’n sôn am nyrs, ond mae eisiau lleoliad addas ar gyfer merched y gogledd. A wnewch chi roi blaenoriaeth i symud ymlaen efo creu’r ddarpariaeth yma? Mae ar y gweill ers tro. Mae angen gweld gweithredu.