Iechyd Meddwl Amenedigol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:16, 21 Mehefin 2022

Wel, diolch yn fawr i Siân Gwenllian, a diolch iddi am gyd-noddi’r digwyddiad yr wythnos nesaf. O bopeth dwi wedi’i glywed, mae flwyddyn gyntaf yr uned yn Ysbyty Tonna wedi bod yn un lwyddiannus, ac, wrth gwrs, rŷm ni’n trio tynnu gwersi mas o’r profiadau yna. Ac, wrth gwrs, hefyd, Lywydd, dwi’n deall y pwyntiau y mae’r Aelod yn eu gwneud am ddarpariaeth cleifion mewnol yn y gogledd. Mae llawer o waith wedi’i wneud eisoes gan y pwyllgor gwasanaethau arbenigol ar y mater hwn.

Er mwyn i uned annibynnol weithredu, byddai angen iddi fodloni’r safonau sy’n ofynnol gyda’r colegau brenhinol perthnasol. Mae hynny’n cynnwys nifer y cleifion sydd eu hangen i gynnal uned arbenigol o’r math hwn. Dyna’r peth mae pobl yn y gogledd yn ei drafod ar hyn o bryd: allwn ni sefydlu uned yn y gogledd ble bydd y colegau brenhinol yn fodlon rhoi caniatâd i honno symud yn ei blaen? Mae’r trafodaethau hynny yn parhau, a dwi’n gwybod bod pob cyfle yn cael ei gymryd i gyflymu’r broses o gytuno ar gyfres o gynigion ymarferol.