Ansawdd Dŵr yn Nalgylch Afon Wysg

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 1:58, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog, am eich ymateb, ac mae ansawdd dŵr yn fater pwysig i gymunedau ledled y wlad ac i Aelodau yn y Siambr hon. Dim ond yr wythnos diwethaf yr oeddem ni'n trafod canfyddiadau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar y pwnc, a'u hadroddiad yr oedd ei ddarllen yn ddigon i sobri rhywun. Yfory, byddwn yn trafod adroddiad yr un pwyllgor ar Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n codi cwestiynau am eu cynnydd ar fesurau i fonitro a rheoli llygredd dŵr. Yn ddiweddar, ym Mrynbuga, gorymdeithiodd cannoedd o drigolion lleol mewn protest gan ei gwneud yn glir eu bod wedi cael digon ar weld Afon Wysg yn cael ei llygru fel y mae hi ar hyn o bryd, ac maen nhw'n mynnu bod rhywun yn gweithredu.

Rwy'n cydnabod ac yn croesawu'r ffaith bod Dŵr Cymru yn cymryd camau yn arbennig i leihau effaith gorlifo ar Afon Wysg a'r dalgylch cyfagos. Mae'r gwaith sydd ar y gweill ar orsaf bwmpio Brynbuga, yn ogystal â'r bwriad i osod offer tynnu ffosfforws ychwanegol, yn gam i'r cyfeiriad cywir, ond mae rheoleiddio'n hanfodol i newid parhaol. Prif Weinidog, a ydych chi'n ffyddiog bod gan y rheolyddion y capasiti a'u bod yn cymryd camau digonol i fynd i'r afael â'r materion hyn ar Afon Wysg, ac, yn wir, holl ddalgylchoedd afonydd Cymru? Prif Weinidog, pa neges a allwch chi ei rhoi i roi sicrwydd i gymunedau yn nalgylch afon Wysg fod y Llywodraeth yn rheoli'r sefyllfa hon?