Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 21 Mehefin 2022.
Diolch i Peter Fox am gydnabod y camau sy'n cael eu cymryd gan Dŵr Cymru ar Afon Wysg mewn ymateb i'r pryderon a fynegwyd gan drigolion lleol. Fel y gŵyr Peter Fox, mae'n rhaglen waith tri cham, gyda £10 miliwn i'w fuddsoddi. Mae cam 1, y gwaith yng ngorsaf bwmpio carthffosydd Brynbuga, eisoes ar y gweill, a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Tachwedd, yna gyda gwaith pellach i barhau dros y ddwy flynedd nesaf.
O ran rheoleiddio, Llywydd, wrth baratoi ar gyfer cwestiynau heddiw, a'r cwestiwn a ddaw'n ddiweddarach ar y papur trefn gan Laura Anne Jones, fe wnes i ddarganfod—oherwydd nid dyma fy mhrif ffynhonnell arbenigedd bob amser—mai cynllunio draenio a gwastraff dŵr yw'r unig faes heb statws statudol yn y sector dŵr. Felly, o ran yr adolygiadau pum mlynedd a gynhaliwyd gan Ofwat—yr adolygiad o brisiau—y perygl yw nad yw cynllunio draenio a dŵr gwastraff yn cael yr un lefel o flaenoriaeth ag agweddau eraill sydd â rhwymedigaeth statudol y tu ôl iddyn nhw. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau pwerau drwy Ddeddf yr Amgylchedd 2021 Llywodraeth y DU i ddod â rheoliadau o flaen y Senedd i roi'r cynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff ar sail statudol yma yng Nghymru. Rydym ar hyn o bryd yn treialu'r cynlluniau rheoli hynny ar sail anstatudol. Byddwn yn dysgu o ganlyniad i wneud hynny—dyma'r ffordd y mae diwydiant wedi gofyn i ni fwrw ymlaen—ac yna bwriadwn gyflwyno'r rheoliadau o flaen y Senedd y flwyddyn nesaf, yn 2023. Bydd hynny'n golygu y bydd y cynlluniau hynny ar sail statudol yma yng Nghymru mewn pryd ar gyfer adolygiad nesaf Ofwat o brisiau yn 2024, sy'n golygu y bydd yn rhaid eu cymryd yr un mor ddifrifol â'r rhwymedigaethau eraill y mae Ofwat yn eu pwyso a'u mesur pan fydd yn dod i'w gasgliadau.
Rwy’n gobeithio y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i drigolion yn etholaeth yr Aelod fod y fframwaith rheoleiddio, yn ogystal â'r buddsoddiad sy'n cael ei roi ar waith, hefyd yn cael ei gryfhau yma yng Nghymru er mwyn mynd i'r afael â'r hyn yr wyf yn cytuno'n llwyr â Peter Fox sy'n fater difrifol iawn sy'n gofyn am weithredu ar draws ystod o sefydliadau ac unigolion.