Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 21 Mehefin 2022.
Rwy'n cytuno â'r Aelod ynglŷn â'r angen am fuddsoddiad sylweddol iawn, ond daw'r buddsoddiad gan gwmnïau dŵr. Nhw sy'n gyfrifol, nid Llywodraeth Cymru. Mae arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi, ac mae gennym £40 miliwn eisoes yn cael ei wario yn y maes hwn dros y tair blynedd nesaf, ond nid Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol. Y cwmnïau dŵr sy'n gyfrifol am hyn, ac rydym yn ffodus iawn yng Nghymru o gael cwmni dŵr nid-er-elw fel na chaiff miliynau a miliynau o bunnau eu tynnu oddi ar dalwyr biliau er mwyn elw. Dyma'r eironi, Llywydd, onid e? Mae gennym ddiwydiant dŵr sy'n eiddo i'r cyhoedd yn y Deyrnas Unedig; ond mae'n eiddo i Lywodraeth Ffrainc a Llywodraeth yr Almaen, nid ein Llywodraeth ni, lle byddai'r elw hwnnw'n cael ei ailfuddsoddi, fel y mae yng Nghymru, ac rydym yn ffodus o fod yn y sefyllfa honno.
Rwy'n gobeithio y bydd yr adolygiad pum mlynedd nesaf yn gweld y math o newid sylweddol mewn buddsoddiad wrth ymdrin â'r problemau. Rwy'n cytuno â'r Aelod, ac rwy'n cytuno â Peter Fox, fod y rhain yn faterion difrifol ac rydym yn haeddu cael dadl ddifrifol yn eu cylch yng Nghymru. Ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni fod yn barod i wynebu rhai sgyrsiau heriol. Byddaf yn cadeirio uwchgynhadledd yn Sioe Frenhinol Cymru ar lygredd ffosffad yn ein hafonydd. Ddoe, cyhoeddodd y Gweinidog ganfyddiadau ymchwil sydd wedi'u cynnal gan ymchwilwyr annibynnol a ariannwyd gan Dŵr Cymru i Afon Wysg. Edrychodd ar lefelau dyddiol ffosfforws yn yr afon. Mae 21 y cant o'r llwythi dyddiol hynny o ganlyniad i waith trin carthion. Mae'r rheini'n hen weithiau heb y lefelau modern o soffistigeiddrwydd, ac mae angen eu huwchraddio fel y gellir lleihau hynny. Daw deuddeg y cant o'r hyn y mae'r ymchwilwyr yn ei ddisgrifio fel categorïau eraill: tanciau carthion, dŵr ffo trefol. Daw un y cant o ardaloedd all-lif carthion cyfunol, a daw 67 y cant o ganlyniad i ddefnydd amaethyddol o'r tir ar hyd glannau'r afon.
Dyna pam mae angen cael sgwrs aeddfed, heb feio gyda'n cydweithwyr sy'n ffermwyr. Rwy'n mynd i fod yn gwbl glir am hynny. Nid wyf yn rhoi'r ffigurau hyn i chi gan fy mod yn dymuno pwyntio bys, ond dim ond i egluro'r ffaith, os ydym ni am gael yr effaith ar ein hafonydd y gwn y bydd yr Aelod eisiau ei gweld, ac mae hynny'n cael ei rannu o amgylch y Siambr, mae'n rhaid i chi gael sgwrs aeddfed pryd y mae'r holl fuddiannau sydd â rhan i'w chwarae yn barod i fod yn rhan o'r sgwrs honno, i gydnabod y camau y gallan nhw eu cymryd. Gyda'i gilydd, bydd hynny'n arwain at wneud y gwahaniaeth.