1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mehefin 2022.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i uwchraddio'r system garthffosydd yn nalgylchoedd afonydd Gwy ac Wysg? OQ58216
Diolch i Laura Anne Jones am y cwestiwn yna, Llywydd. Roedd preifateiddio'r diwydiant dŵr gan Lywodraethau Ceidwadol blaenorol yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb am y system garthffosydd i gwmnïau dŵr. Mae rhai systemau carthffosydd, fel tanciau carthion, yn parhau i fod yn gyfrifoldeb unigolion preifat.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'n dda gweld bod MS lleol, Peter Fox, hefyd yn gofyn cwestiwn ynghylch afonydd heddiw, gan atgyfnerthu pa mor bwysig yw'r mater hwn i'n cymuned leol. Prif Weinidog, y penwythnos diwethaf, roeddwn yn bresennol yn yr orymdaith a amlinellwyd gan Peter Fox i achub ein hafonydd, ochr yn ochr â'r ymgyrchydd lleol Angela, cynghorwyr lleol, trigolion, pysgotwyr, cŵn, fy nheulu fy hun a llawer o blant lleol, y mae pob un ohonyn nhw'n mwynhau ein hafonydd, i gyd yn dangos cryfder y teimlad sydd ar y mater hwn. Prif Weinidog, rwyf wedi tyfu i fyny wrth ymyl—chwarae a physgota yn—Afon Wysg, ac yn awr rwy'n mynd â fy mhlant i lawr i'r afon a gwelwn fwy o lygredd, llai o bysgod a llawer iawn o algâu gwyrdd yn tyfu. Mae'n drist iawn gweld ei ddirywiad cyflym.
Roedd yn gyhoeddiad i'w groesawu'n fawr gan Dŵr Cymru, fel yr ydych wedi amlinellu eisoes, o £10 miliwn o gyllid a gaiff ei fuddsoddi yn afon Wysg i wella'r gwaith trin dŵr, ac yn y gorlif stormydd cyfunol—buddsoddiad yr oedd ei angen yn ddirfawr am amrywiaeth o resymau: achub bioamrywiaeth, bywyd gwyllt a nifer llai o bysgod. Ond, Prif Weinidog, rydych, yn rhannol, wedi ateb fy nghwestiwn eisoes yn gynharach am reoli afonydd a'n fframwaith rheoleiddio sydd ar waith, ac, wrth gwrs, rwy'n croesawu hynny'n fawr iawn, gan fod rheoli afonydd yn eich awdurdodaeth, eich bod wedi ystyried hyn ac wedi gwrando ar Lywodraeth y DU a'r hyn y maen nhw yn ei wneud o dan y Bil amgylchedd newydd, ac ailadrodd rhai o'r pethau hyn, a byddwch yn awr yn treialu ar sail anstatudol, fel yr ydych chi wedi amlinellu, gan obeithio y daw hynny'n statudol yn 2024. Byddem yn croesawu hynny. Mae angen i ni fynd i'r afael â'r mater hwn cyn i'n hafonydd farw.
Prif Weinidog, rwy'n siŵr y cytunwch â mi fod angen i ni ystyried yn ofalus y system garthffosiaeth hefyd. Rydym wedi gweld buddsoddiad sylweddol—
Mae angen i chi ddod at eich cwestiwn nawr. Rydych wedi amlinellu'r hyn a ofynnwyd ac a atebwyd o'r blaen; os wnewch chi ofyn eich cwestiwn, os gwelwch yn dda.
Diolch, Llywydd. A ydych chi'n cytuno â mi fod angen i ni weld buddsoddiad sylweddol gan y Llywodraeth hon yng Nghymru rywbryd i ddisodli neu adnewyddu'r system garthffosiaeth hen ffasiwn yng Nghymru, gan weithio gyda'r rhai a amlinellwyd gennych yn eich ateb blaenorol, fel ei bod yn addas i'r diben ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol?
Rwy'n cytuno â'r Aelod ynglŷn â'r angen am fuddsoddiad sylweddol iawn, ond daw'r buddsoddiad gan gwmnïau dŵr. Nhw sy'n gyfrifol, nid Llywodraeth Cymru. Mae arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi, ac mae gennym £40 miliwn eisoes yn cael ei wario yn y maes hwn dros y tair blynedd nesaf, ond nid Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol. Y cwmnïau dŵr sy'n gyfrifol am hyn, ac rydym yn ffodus iawn yng Nghymru o gael cwmni dŵr nid-er-elw fel na chaiff miliynau a miliynau o bunnau eu tynnu oddi ar dalwyr biliau er mwyn elw. Dyma'r eironi, Llywydd, onid e? Mae gennym ddiwydiant dŵr sy'n eiddo i'r cyhoedd yn y Deyrnas Unedig; ond mae'n eiddo i Lywodraeth Ffrainc a Llywodraeth yr Almaen, nid ein Llywodraeth ni, lle byddai'r elw hwnnw'n cael ei ailfuddsoddi, fel y mae yng Nghymru, ac rydym yn ffodus o fod yn y sefyllfa honno.
Rwy'n gobeithio y bydd yr adolygiad pum mlynedd nesaf yn gweld y math o newid sylweddol mewn buddsoddiad wrth ymdrin â'r problemau. Rwy'n cytuno â'r Aelod, ac rwy'n cytuno â Peter Fox, fod y rhain yn faterion difrifol ac rydym yn haeddu cael dadl ddifrifol yn eu cylch yng Nghymru. Ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni fod yn barod i wynebu rhai sgyrsiau heriol. Byddaf yn cadeirio uwchgynhadledd yn Sioe Frenhinol Cymru ar lygredd ffosffad yn ein hafonydd. Ddoe, cyhoeddodd y Gweinidog ganfyddiadau ymchwil sydd wedi'u cynnal gan ymchwilwyr annibynnol a ariannwyd gan Dŵr Cymru i Afon Wysg. Edrychodd ar lefelau dyddiol ffosfforws yn yr afon. Mae 21 y cant o'r llwythi dyddiol hynny o ganlyniad i waith trin carthion. Mae'r rheini'n hen weithiau heb y lefelau modern o soffistigeiddrwydd, ac mae angen eu huwchraddio fel y gellir lleihau hynny. Daw deuddeg y cant o'r hyn y mae'r ymchwilwyr yn ei ddisgrifio fel categorïau eraill: tanciau carthion, dŵr ffo trefol. Daw un y cant o ardaloedd all-lif carthion cyfunol, a daw 67 y cant o ganlyniad i ddefnydd amaethyddol o'r tir ar hyd glannau'r afon.
Dyna pam mae angen cael sgwrs aeddfed, heb feio gyda'n cydweithwyr sy'n ffermwyr. Rwy'n mynd i fod yn gwbl glir am hynny. Nid wyf yn rhoi'r ffigurau hyn i chi gan fy mod yn dymuno pwyntio bys, ond dim ond i egluro'r ffaith, os ydym ni am gael yr effaith ar ein hafonydd y gwn y bydd yr Aelod eisiau ei gweld, ac mae hynny'n cael ei rannu o amgylch y Siambr, mae'n rhaid i chi gael sgwrs aeddfed pryd y mae'r holl fuddiannau sydd â rhan i'w chwarae yn barod i fod yn rhan o'r sgwrs honno, i gydnabod y camau y gallan nhw eu cymryd. Gyda'i gilydd, bydd hynny'n arwain at wneud y gwahaniaeth.