Part of the debate – Senedd Cymru am 6:58 pm ar 21 Mehefin 2022.
Diolch, Llywydd. Gweinidog, diolch i chi am roi mwy o eglurder ac am yr hyn yr ydych chi wedi'i ychwanegu eisoes, ond nid yw eglurder pellach o fewn Bil byth yn beth drwg. Yr unig ddiben y gallaf ddychmygu ar gyfer ei wrthod yw cadw amwysedd bwriadol o fewn elfennau o'r Bil, sydd, yn yr achos hwn, yn arwain at hepgor dysgu oedolion yn y gymuned lle credaf yn wirioneddol y dylai fod yn bresennol, a gofynnaf i'r Aelodau ystyried hyn. Diolch.