Part of the debate – Senedd Cymru am 7:11 pm ar 21 Mehefin 2022.
Diolch, Llywydd. Yn olaf, hoffwn i siarad am fy ngwelliannau yn y grŵp yn gyntaf. Fel y disgrifiais o'r blaen, mae fy ngrŵp a minnau yn anghytuno'n sylfaenol â phŵer dal Llywodraeth Cymru i ad-drefnu chweched dosbarth. Mae'n rhaid i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol fod yn ganolog i'r broses, a bod mewn cydweithrediad, nid yn ddim byd mwy nag ôl-ystyriaeth. Mae gwelliant 161 yn hepgor llinellau o'r Bil sy'n darparu ar gyfer pwerau i'r comisiwn ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth, a oedd o ganlyniad i ddiwygiad i Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Yn ychwanegol at hyn, diben gwelliant 162 yw hepgor gwelliant sy'n ychwanegu amod sy'n ymwneud â gwrthwynebiadau i gynigion yng nghyd-destun cymeradwyo Gweinidogion Cymru.
Rwyf hefyd yn cyflwyno gwelliant 163 i ddileu Pennod 3A er mwyn mynd i'r afael â'r ymdrech ddi-baid i gipio pwerau bach dros ad-drefnu chweched dosbarth. Mae hyn yn dilyn pryderon a godwyd yn y cam blaenorol am yr effaith ar chweched dosbarth, gan gynnwys pryderon a godwyd gan y rhai yn y sector, yn enwedig NASUWT. Er eu bod wedi nodi sicrwydd blaenorol y Gweinidog nad yw'r cynigion yn nodi diwedd addysg chweched dosbarth, dyna mae'n ei wneud mewn gwirionedd, pan fydd y dewis o ddilyn addysg ôl-orfodol yn yr ysgol eisoes wedi ei ddileu mewn sawl awdurdod lleol—Blaenau Gwent, Merthyr a Thorfaen.
Mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd gymryd camau i liniaru'r risg y bydd dysgwyr ac athrawon Cymraeg yn gadael. Mae NASUWT eisoes wedi derbyn adroddiadau bod hyn yn digwydd, yn enwedig ger y ffin â Lloegr. Mae'n rhaid i ni gofio bod Safon Uwch yn opsiwn poblogaidd a bod 70 y cant o'r ddarpariaeth Safon Uwch a ariennir yn gyhoeddus mewn chweched dosbarth.
Yn olaf, mae gwelliant 165, sy'n gysylltiedig â gwelliannau 161, 162, 163 a 164, yn ceisio dod â darpariaethau sy'n ymwneud â chweched dosbarth yn y Bil yn unol â darpariaethau presennol Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, sy'n ymwneud ag ysgolion cynradd ac uwchradd, fel y mae argymhelliad 29 y pwyllgor Plant a Phobl Ifanc o'r cyfnod diwethaf yn ei awgrymu.
O ran gwelliant y Gweinidog, byddaf yn ymatal ar y gwelliant hwn. Mae gwelliant 76 yn debyg i welliant 77 yn y grŵp blaenorol, ac mae'n ganlyniad i basio gwelliant yng Nghyfnod 2. Ni wnaethom gymeradwyo'r gwelliant hwnnw yng Nghyfnod 2, ac rydym yn anghytuno'n sylfaenol â safbwynt yr agwedd hon ar y Bil. Ac felly, er ei fod yn welliant cymoni i lanhau'r Bil, ni allaf unwaith eto gefnogi hyn fel mater o egwyddor. Anogaf Aelodau eraill y Senedd i wrando ar y safbwyntiau hyn. Diolch.