– Senedd Cymru am 7:11 pm ar 21 Mehefin 2022.
Grŵp 19 sydd nesaf, y grŵp yma—y grŵp olaf o welliannau—yn ymwneud â chweched dosbarth. Gwelliant 161 yw'r prif welliant. Rwy'n galw ar Laura Jones i gyflwyno gwelliant 161.
Diolch, Llywydd. Yn olaf, hoffwn i siarad am fy ngwelliannau yn y grŵp yn gyntaf. Fel y disgrifiais o'r blaen, mae fy ngrŵp a minnau yn anghytuno'n sylfaenol â phŵer dal Llywodraeth Cymru i ad-drefnu chweched dosbarth. Mae'n rhaid i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol fod yn ganolog i'r broses, a bod mewn cydweithrediad, nid yn ddim byd mwy nag ôl-ystyriaeth. Mae gwelliant 161 yn hepgor llinellau o'r Bil sy'n darparu ar gyfer pwerau i'r comisiwn ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth, a oedd o ganlyniad i ddiwygiad i Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Yn ychwanegol at hyn, diben gwelliant 162 yw hepgor gwelliant sy'n ychwanegu amod sy'n ymwneud â gwrthwynebiadau i gynigion yng nghyd-destun cymeradwyo Gweinidogion Cymru.
Rwyf hefyd yn cyflwyno gwelliant 163 i ddileu Pennod 3A er mwyn mynd i'r afael â'r ymdrech ddi-baid i gipio pwerau bach dros ad-drefnu chweched dosbarth. Mae hyn yn dilyn pryderon a godwyd yn y cam blaenorol am yr effaith ar chweched dosbarth, gan gynnwys pryderon a godwyd gan y rhai yn y sector, yn enwedig NASUWT. Er eu bod wedi nodi sicrwydd blaenorol y Gweinidog nad yw'r cynigion yn nodi diwedd addysg chweched dosbarth, dyna mae'n ei wneud mewn gwirionedd, pan fydd y dewis o ddilyn addysg ôl-orfodol yn yr ysgol eisoes wedi ei ddileu mewn sawl awdurdod lleol—Blaenau Gwent, Merthyr a Thorfaen.
Mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd gymryd camau i liniaru'r risg y bydd dysgwyr ac athrawon Cymraeg yn gadael. Mae NASUWT eisoes wedi derbyn adroddiadau bod hyn yn digwydd, yn enwedig ger y ffin â Lloegr. Mae'n rhaid i ni gofio bod Safon Uwch yn opsiwn poblogaidd a bod 70 y cant o'r ddarpariaeth Safon Uwch a ariennir yn gyhoeddus mewn chweched dosbarth.
Yn olaf, mae gwelliant 165, sy'n gysylltiedig â gwelliannau 161, 162, 163 a 164, yn ceisio dod â darpariaethau sy'n ymwneud â chweched dosbarth yn y Bil yn unol â darpariaethau presennol Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, sy'n ymwneud ag ysgolion cynradd ac uwchradd, fel y mae argymhelliad 29 y pwyllgor Plant a Phobl Ifanc o'r cyfnod diwethaf yn ei awgrymu.
O ran gwelliant y Gweinidog, byddaf yn ymatal ar y gwelliant hwn. Mae gwelliant 76 yn debyg i welliant 77 yn y grŵp blaenorol, ac mae'n ganlyniad i basio gwelliant yng Nghyfnod 2. Ni wnaethom gymeradwyo'r gwelliant hwnnw yng Nghyfnod 2, ac rydym yn anghytuno'n sylfaenol â safbwynt yr agwedd hon ar y Bil. Ac felly, er ei fod yn welliant cymoni i lanhau'r Bil, ni allaf unwaith eto gefnogi hyn fel mater o egwyddor. Anogaf Aelodau eraill y Senedd i wrando ar y safbwyntiau hyn. Diolch.
Mae'r grŵp yma yn cynnwys gwelliannau sy'n ymwneud â dosbarthiadau chwech. Byddwn ni'n cefnogi gwelliannau 76 a 77 tra'n pleidleisio yn erbyn y gweddill. Y rheswm yw ein bod ni'n teimlo bod y cynigion nawr a fydd yn dod ger bron y comisiwn yn gorfod cael eu—. They will require approval; dwi ddim yn cofio'r gair Cymraeg—
—gan Weinidogion Cymru o ganlyniad i welliannau a wnaed yng Nghyfnod 2, y gwnaethom ni eu cefnogi. Rwy'n falch bod gwelliannau wedi'u gwneud yn hyn o beth o ran chweched dosbarth yn ystod Cyfnod 2, a bod y Gweinidog wedi mynd i'r afael â'r ystod lawn o bryderon a godwyd gan Blaid Cymru ac eraill yn y maes hwn.
Mae dosbarthiadau chwech yn chwarae rhan bwysig ac unigryw o fewn addysg cyfrwng Cymraeg, gan ddiogelu'r model trochi a sicrhau parhad hanfodol i ddatblygiad sgiliau iaith y dysgwyr sydd wedi derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a'u caniatáu hefyd i gyfrannu i ethos Cymraeg eu hysgolion ac i fod yn fodelau rôl ieithyddol a diwylliannol i ddisgyblion iau. Mae'n hanfodol bod y darpariaethau o fewn y Bil yn cefnogi atebolrwydd democrataidd lleol a chenedlaethol, a bod modelau lleol sy'n gweddu anghenion eu cymunedau yn cael eu caniatáu. Felly, rydym ni'n teimlo bod y newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yng Nghyfnod 2, sy'n ymwneud, er enghraifft, â defnyddio'r term 'ailstrwythuro' yn hytrach na 'rhesymoli', yn cwrdd â'r galw, a bod dewisiadau ac anghenion dysgwyr, ac yn enwedig dysgwyr cyfrwng Cymraeg, nawr yn cael eu diogeli, gan y bydden nhw'n cael eu cyfeirio at Weinidogion Cymru pe bai yna wrthwynebiad dilys.
Mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf i'n rhannu optimistiaeth y siaradwr blaenorol am y mesurau diogelu sydd ar waith yn y Bil. Rwyf i'n credu, yn y bôn, y dylai pobl gael mynegi dewis ynglŷn â'r ddarpariaeth y maen nhw'n dymuno ei mynychu yn eu hardal nhw. Rwy'n credu y dylai dysgwyr gael pob cyfle i fwynhau ystod eang o ddarpariaeth, p'un a ydyn nhw'n dymuno ymgymryd â'u dysgu ôl-16 ychwanegol mewn sefydliad addysg bellach neu goleg, neu'n dymuno mynychu chweched dosbarth lleol. Ond y realiti yw nad yw'r dewisiadau hynny ar gael ym mhob rhan o'r wlad, ac rydym ni wedi gweld erydiad y dewis hwnnw dros y blynyddoedd.
Un agwedd arall ar erydu'r dewis hwnnw yw'r diffyg dewis sydd ar gael, nid yn unig o ran addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg mewn rhai rhannau o Gymru, ond hefyd addysg mewn ysgolion ffydd mewn rhai rhannau o Gymru hefyd; mae'r Gwasanaeth Addysg Gatholig, yr Eglwys yng Nghymru, yn dymuno gallu cynnig mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ôl-16 ddysgu mewn amgylchedd lle mae nodwedd ffydd, ac nid yw hynny'n gyfle yr wyf i'n gweld yn cael ei hyrwyddo'n weithredol yn y Bil hwn, ac mewn gwirionedd rwy'n credu bod y mathau hynny o gyfleoedd, lle maen nhw ar gael, o dan fygythiad o bosibl, ac nid wyf yn gweld yr amddiffyniadau sydd ar waith o'r gwelliannau sydd wedi eu hawgrymu gan y Gweinidog.
Felly, dyna pam yr wyf i'n siarad o blaid y gwelliannau sydd wedi eu cyflwyno gan Laura Anne Jones. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod yn rhaid i ni roi'r mesurau diogelu hyn ar waith fel bod dewis dysgwyr yn rhywbeth sy'n hollbwysig, wrth symud ymlaen, ac nid yn rhywbeth sy'n cael ei wthio i'r ymylon.
A gaf i ddiolch i Sioned Williams am ei sylwadau cefnogol ynglŷn â'r gwelliannau? Rwy'n credu bod pethau wedi symud ymlaen cryn dipyn ers i Laura Anne Jones fynegi'r pryderon y mae wedi eu hailadrodd yn y ddadl hon heddiw, ac mae'r cysyniad o ad-drefnu, y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn y cwestiwn, eisoes wedi ei ddileu yn llwyr o'r ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n credu bod hynny'n gosod ysgyfarnog nad yw'n adlewyrchu realiti'r Bil sy'n dod i Gyfnod 3. Ac rwy'n gobeithio y gallaf gynnig sicrwydd i Darren Millar nad yw'r pryderon y mae ef wedi eu mynegi yn effeithio o gwbl ar y cynigion yn y ddadl heddiw, oherwydd eu bod nhw mewn gwirionedd yn diogelu'r mathau o drefniadau y mae'n sôn amdanyn nhw, yn hytrach na'u rhoi mewn perygl.
Byddaf yn siarad yn gyntaf, os caf i, am y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i, gwelliant 76, sy'n dileu darpariaeth sy'n diwygio Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a fyddai wedi galluogi'r comisiwn i gyfeirio unrhyw gynigion a wneir gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol wirfoddol neu sefydledig sy'n effeithio ar addysg chweched dosbarth fel y'i diffinnir ac sy'n destun gwrthwynebiad dilys i Weinidogion Cymru i wneud penderfyniad. Gan y bydd angen i Weinidogion Cymru gymeradwyo pob cynnig o'r fath sy'n ddarostyngedig i wrthwynebiad dilys bellach, o ganlyniad i welliant a wnes i yng Nghyfnod 2, nid oes angen y ddarpariaeth hon.
Gan droi at y gwelliannau eraill yn y grŵp hwn, gwrthodaf welliannau 163 a 164 a gwelliannau 161 a 165 hefyd, sy'n ganlyniadol i'r gwelliannau hynny. Mae'r rhain i gyd yn ailadrodd gwelliannau a gyflwynwyd ac a wrthodwyd yng Nghyfnod 2, ac mae fy rhesymau dros eu gwrthod yn aros yr un fath. I grynhoi ar gyfer y cofnod heddiw, mae'r gwelliannau hyn yn dileu'r Bennod 3A newydd y mae'r Bil yn ei mewnosod ar hyn o bryd yn Rhan 3 o Ddeddf 2013, ac yn hytrach yn cadw pwerau presennol Gweinidogion Cymru i ad-drefnu addysg chweched dosbarth, ac yn ymestyn y pwerau hynny i'r comisiwn.
Mae'r Bil yn mewnosod Pennod 3A newydd yn Neddf 2013, yn hytrach na diwygio'r ddarpariaeth bresennol, er mwyn adlewyrchu'n well y newidiadau i'r dirwedd reoleiddiol a achoswyd gan sefydlu'r comisiwn. Bydd y darpariaethau yn y Bennod newydd hon yn galluogi'r comisiwn i fabwysiadu dull mwy strategol, gan gynnig persbectif ehangach i ddarpariaeth chweched dosbarth mewn ysgolion. Drwy'r darpariaethau, sefydlir fframwaith deddfwriaethol sy'n galluogi'r comisiwn i fabwysiadu'r farn strategol hon a chyfarwyddo awdurdodau lleol i gyflwyno cynigion, gan sicrhau'r cysylltiad yn ôl i'r lefel leol. Drwy ddileu'r gwelliant i Ddeddf 2013 a fewnosodais yn y Bil yng Nghyfnod 2, mae gwelliant 162, a gyflwynwyd yn enw Laura Anne Jones, yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gymeradwyo pob cynnig sy'n effeithio ar addysg chweched dosbarth, hyd yn oed pan nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud. Mae hyn yn ychwanegu biwrocratiaeth ddiangen. Os nad oes gwrthwynebiadau dilys i'r cynnig, nid wyf i'n gweld pa fudd sy'n cael ei ychwanegu drwy fynnu bod angen i Weinidogion Cymru gymeradwyo cynnig o'r fath, ac felly galwaf ar yr Aelodau i gefnogi gwelliant 76, a gyflwynwyd yn fy enw i, ac i wrthod yr holl welliannau eraill yn y grŵp.
Laura Jones i ymateb.
Iawn. Diolch, Llywydd. Rwy'n cytuno â'r cyfan a ddywedodd fy nghyd-Aelod Darren Millar yn gynharach a'i bryderon am ysgolion ffydd a phob chweched dosbarth, ac nid wyf i'n credu o hyd fod y mesurau diogelu yn y Bil yn mynd yn ddigon pell. Darpariaeth ormodol ddylai fod yr unig ran sy'n bwysig yma. Rwyf i o'r farn bod gwrthod y gwelliannau yn y grŵp yn arbennig o rwystredig, mewn gwirionedd, ac mae ymgais parhaus Llywodraeth Cymru i geisio cael rhagor o bwerau dros addysg chweched dosbarth yng Nghymru yn rhywbeth y mae fy ngrŵp a minnau yn pryderu yn ei gylch. Mae'r Llywodraeth wedi gwrando'n rhannol ar bryderon, ond mae'n rhaid iddi wrando'n llwyr ar bryderon NASUWT, Cyngor y Gweithlu Addysg, Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru a Chymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru, nad ydyn nhw'n hapus o hyd â'ch gwelliannau, Gweinidog, ac nid wyf i'n deall pam na allwch chi gefnogi'r gwelliannau hyn. Rwy'n siŵr y bydden nhw'n ychwanegu at y mesurau diogelu yr ydych chi'n dweud eich bod yn dymuno eu cael. Diolch.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 161? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 161. Agor y bleidlais.
Gwelliant 161.
Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 161 wedi ei wrthod.
Gwelliant 162. Yn cael ei gynnig—yn cael ei symud, Laura Jones?
Ydy. Felly, oes gwrthwynebiad i welliant 162? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 162. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, gwelliant 162 wedi ei wrthod.
Gwelliant 76. Ydy e'n cael ei symud gan y Gweinidog?
Ydy. Gwelliant 76, oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 76. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 76 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 163. Yn cael ei symud gan Laura Jones?
Symud, ydy. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 163. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 163 wedi ei wrthod.
Gwelliant 164. Yn cael ei symud, Laura Jones?
Ydy. Felly, oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar 164.
Agor y bleidlais ar welliant 164.
Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 164 wedi'i wrthod.
Gwelliant 165, Laura Jones—symud?
Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Ac felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 165. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Mae gwelliant 165 yn cael ei wrthod.
Gweinidog, gwelliant 77, yn eich enw chi. Ydy e'n cael ei symud?
Ydy. Gwelliant 77, oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 77. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Gwelliant 77 yn cael ei dderbyn.
Yn olaf, gwelliant 119. Yn cael ei symud?
Yn cael ei symud gan Laura Jones. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gawn ni bleidlais—pam lai—ar welliant 119. Agor y bleidlais.
Gwelliant 119.
Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 119 wedi'i wrthod.
Dyna ni. Dyna ddiwedd ar ein cyfres ni o bleidleisiau. Dŷn ni wedi, felly, cyrraedd ein hystyriaeth o Gyfnod 3 o'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), a dwi'n datgan y bernir bod pob adran o'r Bil a phob atodlen iddo wedi'i dderbyn. Daw hynny â'n gwaith ni ar Gyfnod 3 i ben am heddiw. Diolch yn fawr i chi i gyd am eich cydweithrediad.