Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 21 Mehefin 2022.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad os gwelwch yn dda? Daw'r cyntaf gan y Gweinidog iechyd ar gynyddu faint o apwyntiadau meddygon teulu sydd ar gael yng Nghymru. Gwn fod fy nghyd-Aelod Sam Kurtz wedi crybwyll hyn yn gynharach, ond un o bryderon mwyaf pobl yn fy rhanbarth yw'r anhawster a'r rhwystredigaeth y maen nhw'n eu hwynebu wrth wneud apwyntiadau i weld eu meddyg teulu. Mewn ymgais a gynlluniwyd i leddfu'r pwysau ar feddygon teulu a'u gadael gyda mwy o amser i weld y cleifion salaf a'r rhai sydd â phroblemau cymhleth, mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Sajid Javid, wedi cyhoeddi y bydd y gyfraith yn cael ei newid fel na fydd angen i gleifion weld eu meddyg teulu er mwyn cael caniatâd i fod i ffwrdd o'r gwaith mwyach. Bydd fferyllwyr, nyrsys, therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion yn cael pwerau i gyflwyno nodiadau ffitrwydd o dan ddiwygiadau a fydd yn rhyddhau llawer mwy o apwyntiadau meddygon teulu ac yn helpu i leddfu'r pwysau y mae meddygon teulu yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae'r symudiad wedi'i groesawu gan grwpiau cleifion a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu, gan y bydd yn caniatáu i fwy o gleifion yn y de-ddwyrain gael mwy o apwyntiadau meddygon teulu. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch sut y bydd hyn yn newid y ffordd yr ydym yn gweithio yma yng Nghymru, er budd meddygon teulu a chleifion fel ei gilydd?
Yr ail ran, Gweinidog, yw yr hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd am y cynllun dychwelyd ernes arfaethedig. Mae sawl busnes o bob rhan o fy rhanbarth i yn y de-ddwyrain a thu hwnt wedi bod mewn cysylltiad yn codi eu pryderon am y cynllun. Mae'r holl fusnesau yr wyf wedi siarad â nhw yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau amgylcheddol; fodd bynnag, maen nhw'n ofni y byddan nhw yn cael eu taro gan rwystrau masnachu sylweddol oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnwys gwydr yn y cynllun a mynd ar drywydd cynllun dychwelyd ernes digidol. Dywedodd un bragdy wrthyf y bydd y cynllun yn gosod costau sylweddol ar fusnesau, oherwydd, wrth gynnwys gwydr bydd angen labeli lluosog, ac o ganlyniad, bydd busnesau'n ei chael yn anodd talu'r costau cofrestru blynyddol, ffioedd cynhyrchwyr, yn ogystal â gofynion labelu. Maen nhw hefyd yn ofni mai dim ond brandiau byd-eang mawr fydd yn gallu addasu i'r rheolau newydd yn haws na busnesau annibynnol llai, ac y bydd llawer o gwmnïau'n dewis peidio â gwerthu eu cynnyrch yma yng Nghymru. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Gweinidog, pe baech yn gwneud datganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â phryderon dilys busnesau ledled Cymru. Diolch.