– Senedd Cymru am 2:23 pm ar 21 Mehefin 2022.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad os gwelwch yn dda? Daw'r cyntaf gan y Gweinidog iechyd ar gynyddu faint o apwyntiadau meddygon teulu sydd ar gael yng Nghymru. Gwn fod fy nghyd-Aelod Sam Kurtz wedi crybwyll hyn yn gynharach, ond un o bryderon mwyaf pobl yn fy rhanbarth yw'r anhawster a'r rhwystredigaeth y maen nhw'n eu hwynebu wrth wneud apwyntiadau i weld eu meddyg teulu. Mewn ymgais a gynlluniwyd i leddfu'r pwysau ar feddygon teulu a'u gadael gyda mwy o amser i weld y cleifion salaf a'r rhai sydd â phroblemau cymhleth, mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Sajid Javid, wedi cyhoeddi y bydd y gyfraith yn cael ei newid fel na fydd angen i gleifion weld eu meddyg teulu er mwyn cael caniatâd i fod i ffwrdd o'r gwaith mwyach. Bydd fferyllwyr, nyrsys, therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion yn cael pwerau i gyflwyno nodiadau ffitrwydd o dan ddiwygiadau a fydd yn rhyddhau llawer mwy o apwyntiadau meddygon teulu ac yn helpu i leddfu'r pwysau y mae meddygon teulu yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae'r symudiad wedi'i groesawu gan grwpiau cleifion a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu, gan y bydd yn caniatáu i fwy o gleifion yn y de-ddwyrain gael mwy o apwyntiadau meddygon teulu. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch sut y bydd hyn yn newid y ffordd yr ydym yn gweithio yma yng Nghymru, er budd meddygon teulu a chleifion fel ei gilydd?
Yr ail ran, Gweinidog, yw yr hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd am y cynllun dychwelyd ernes arfaethedig. Mae sawl busnes o bob rhan o fy rhanbarth i yn y de-ddwyrain a thu hwnt wedi bod mewn cysylltiad yn codi eu pryderon am y cynllun. Mae'r holl fusnesau yr wyf wedi siarad â nhw yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau amgylcheddol; fodd bynnag, maen nhw'n ofni y byddan nhw yn cael eu taro gan rwystrau masnachu sylweddol oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnwys gwydr yn y cynllun a mynd ar drywydd cynllun dychwelyd ernes digidol. Dywedodd un bragdy wrthyf y bydd y cynllun yn gosod costau sylweddol ar fusnesau, oherwydd, wrth gynnwys gwydr bydd angen labeli lluosog, ac o ganlyniad, bydd busnesau'n ei chael yn anodd talu'r costau cofrestru blynyddol, ffioedd cynhyrchwyr, yn ogystal â gofynion labelu. Maen nhw hefyd yn ofni mai dim ond brandiau byd-eang mawr fydd yn gallu addasu i'r rheolau newydd yn haws na busnesau annibynnol llai, ac y bydd llawer o gwmnïau'n dewis peidio â gwerthu eu cynnyrch yma yng Nghymru. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Gweinidog, pe baech yn gwneud datganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â phryderon dilys busnesau ledled Cymru. Diolch.
Diolch. O ran eich cwestiwn cyntaf ynghylch cynyddu apwyntiadau meddygon teulu drwy'r ffordd a awgrymwyd gennych—nid meddyg teulu yn unig sy'n gwneud rhai pethau—byddwch yn ymwybodol bod y Gweinidog wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda phob gweithiwr gofal sylfaenol proffesiynol—felly, fferyllwyr, er enghraifft, yr ydym wedi cynyddu nifer y darpariaethau a wnânt. Nid wyf yn ymwybodol bod hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn edrych arno. Yn amlwg, mae hi yn y Siambr a bydd hi wedi clywed eich cwestiwn, ond, os oes ganddi unrhyw beth pellach i'w ychwanegu, fe ofynnaf iddi ysgrifennu atoch.
Mewn ymateb i'ch cais am ddatganiad ynghylch cynllun dychwelyd ernes gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, mae hwn yn ddarn o waith sydd bellach wedi bod yn mynd rhagddo'n helaeth. Pan oeddwn yn ôl yn y portffolio ychydig flynyddoedd yn ôl, y cynllun dychwelyd ernes, roeddem yn gweithio arno ledled y DU, ynghyd â Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban hefyd. Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn y bydd rhai cwmnïau wedi'i ddweud wrthych. Mae'r rheini'n sicr yn ymatebion yr wyf i'n eu cydnabod, a phryderon dilys. Fodd bynnag, mae'r cynllun yn cael ei weithredu. Rydym hefyd yn gwneud cryn dipyn yn ymwneud â chyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, ac rwy'n siŵr, pan fydd y cynllun wedi'i gyflawni, y bydd y Gweinidog yn hapus i wneud datganiad ysgrifenedig.
Diolch, Llywydd. Trefnydd, ddoe, mi wnes i ymweld efo banc bwyd Rhondda a dwi wedi cael nifer o brifathrawon hefyd yn cysylltu efo fi, yn poeni'n ddirdynnol am deuluoedd yn y rhanbarth dwi'n ei gynrychioli, ac yn benodol yn poeni beth fydd y sefyllfa dros yr haf. Yn amlwg, mae’r Gweinidog a’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd yna gymorth ar gael o ran prydau ysgol am ddim i deuluoedd sydd eisoes yn derbyn prydau ysgol am ddim, ond un o’r pryderon sydd wedi’i godi efo fi ydy am y rhai hynny sy’n disgyn yn y bwlch, a hefyd y rhai hynny sydd efallai ddim yn mynd i allu elwa o'r rhaglenni sy'n cael eu rhedeg yn yr ysgolion dros yr haf oherwydd costau trafnidiaeth. Mi glywsom ni dystiolaeth yr wythnos diwethaf fel pwyllgor plant a phobl ifanc o ran bod trafnidiaeth yn rhwystr rŵan i bobl ddod i’r ysgol ac yn cael effaith ar bresenoldeb, felly dim ond gwaethygu bydd hynny yn yr haf heb drafnidiaeth i ysgolion ar gael hefyd. Felly, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg cyn yr haf inni gael deall felly beth fydd ar gael i deuluoedd, fel bod yr eglurder yna.
Gaf i hefyd dynnu eich sylw chi, os gwelwch yn dda—? Mi fyddwch yn ymwybodol ein bod yn derbyn, fel Aelodau’r Senedd, nodyn yn rhoi gwybod os yw Gweinidog yn ein hetholaeth neu ein rhanbarth. Mae’r rhain yn ddefnyddiol iawn fel ein bod ni'n gallu paratoi, neu ragrybuddio Gweinidog os ydyn ni hefyd yn bresennol, ond nid ydy'r manylion wastad yn y datganiadau hyn. Rydyn ni dim ond yn cael gwybod gan rai Gweinidogion eu bod nhw yn y rhanbarth ar ddyddiad arbennig, ond ddim efo unrhyw syniad lle. Felly, a gaf i ofyn bod yna gysondeb o ran y wybodaeth yma? Diolch.
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, rwy'n gwybod, yn gwneud llawer iawn o waith i gefnogi nid yn unig ysgolion o ran darparu bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol yn lle prydau ysgol am ddim, ond hefyd cynlluniau elusennol. Felly, nid wyf yn siŵr a oes unrhyw waith pellach i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn ei gylch cyn gwyliau'r ysgol, ond yn sicr fe wnaf hynny—. Mae'r ddau Weinidog yn y Siambr a byddan nhw wedi clywed eich cais.
Yn sicr, dylech gael eich hysbysu bob amser—dylai pob Aelod—pan fydd Gweinidog yn eich etholaeth neu'ch rhanbarth, ac fe wnaf yn sicr ofyn i swyddfeydd preifat gael eu hatgoffa ei bod yn bwysig iawn bod yr wybodaeth hon yn mynd allan, ac i sicrhau bod swyddogion yn ymwybodol hefyd, oherwydd mae cysondeb yn bwysig iawn. Ac rwy'n credu ei bod hefyd yn braf i Aelodau roi gwybod i Aelodau eraill pan fyddan nhw yn eu hetholaethau hefyd.
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o rai o'r materion sy'n ymwneud â Grŵp Bryn yng Ngelligaer yn fy etholaeth i, sy'n effeithio ar gymunedau Gelligaer, Pen-y-bryn a Nelson. Roedd gennym bwyllgor cyswllt effeithiol iawn a sefydlwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a ddaeth i ben ychydig cyn i'r pandemig ddechrau. Rwy'n ceisio ailsefydlu'r pwyllgor cyswllt, gyda chefnogaeth drawsbleidiol cynghorwyr lleol, ac rwy'n cael llawer o wrthwynebiad gan swyddogion y cyngor, am resymau na allaf eu deall. Un o'r pethau y maen nhw'n ei ddweud yw y byddai pwyllgor cyswllt rywsut yn anghyfreithlon. Hoffwn gael datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar hynny, oherwydd nid wyf yn credu bod hynny'n wir.
A fyddai'r Trefnydd yn cefnogi egwyddor pwyllgorau cyswllt o dan yr amgylchiadau hyn? Mae'n gwybod yn ei brîff arall pa mor ddefnyddiol y maen nhw wedi bod, ac a fyddai'n ei gwneud yn glir, mewn gwirionedd, fod hon yn ffordd ddefnyddiol iawn o ddatrys rhai o'r materion hynny sy'n effeithio ar y cymunedau hynny?
Diolch. Ydw, yn sicr, o safbwynt cynllunio, rwy'n cytuno'n llwyr fod pwyllgorau cyswllt o'r fath yn ddefnyddiol iawn yn ymarferol. Maen nhw'n helpu i ddad-ddwysáu tensiynau cymunedol lle mae busnesau'n gweithredu'n agos iawn at gymunedau. Ac rwy'n sicr yn meddwl, lle maen nhw'n gweithio'n dda—ac maen nhw'n gweithio'n dda mewn llawer o leoedd—maen nhw yn sicr yn helpu gyda hynny. Yn sicr, dydyn nhw ddim yn anghyfreithlon. Rwy'n credu ei bod yn drueni nad ydych wedi gallu cael y gefnogaeth drawsbleidiol honno, a byddwn i'n eich annog i barhau i wneud hynny, ond rwy'n siŵr bod canllawiau ar gael i'ch cynorthwyo.
Gweinidog, hoffwn ofyn i'r Llywodraeth drefnu dadl ar wasanaethau bysiau a'u rôl bwysig o ran cefnogi teithio llesol, gydag effeithiau cadarnhaol ar yr amgylchedd a chysylltu cymunedau. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y cwmni bysiau, Easyway, y byddan nhw'n rhoi'r gorau i fasnachu ar 31 Gorffennaf, sy'n ergyd enfawr i'r cymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd wedi dibynnu ar eu gwasanaethau bysiau. Byddwn yn colli tri llwybr ac, yn ôl y cyngor, nid oes yr un cwmni arall wedi cyflwyno ei hun i lenwi'r bwlch. Mae angen dadl arnom ynghylch sut y mae'n bosibl cyrraedd ein targedau ar gyfer gweithredu ar deithio llesol a newid hinsawdd pan fo ein gwasanaethau bysiau mor rhanedig. Diolch yn fawr, Gweinidog.
Diolch i chi, ac mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Rwy'n siŵr bod pob un ohonom ni, fel Aelodau o'r Senedd hon, yn cael llawer iawn o ohebiaeth am wasanaethau bysiau gan ein hetholwyr. Fel y gwyddoch chi, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rhywfaint o ddeddfwriaeth ynghylch teithio ar fysiau yn ystod tymor y Llywodraeth hon.
Hoffwn ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, ar y datganiad blaenoriaethau ac amcanion strategol i Ofwat. Rwy'n deall y bydd yn cael ei osod gerbron y Senedd yr wythnos nesaf, ond, yn y gorffennol, does dim dadl wedi bod ar y broses, ond yn ddiweddar, yn San Steffan, fe gafwyd dadl. Hoffwn sicrhau bod ASau yn cael yr un cyfle i drafod a herio'r broses, oherwydd mae'n helpu i benderfynu sut y caiff ein systemau dŵr eu rheoleiddio, sut y caiff yr amgylchedd ei ddiogelu, sut y caiff cwsmeriaid sy'n agored i niwed eu diogelu neu fel arall yn eu biliau dŵr, os oes ei angen arnyn nhw. Maen nhw'n bethau difrifol iawn, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno, ac ni ddylid dim ond eu derbyn. Rydym wedi cael dadleuon yn ddiweddar ar lifogydd, ar systemau gorlifo stormydd, ac effaith carthion yn ein hafonydd. Gwyddom fod angen gwaith buddsoddi mawr i ddiogelu'r rheini ac i ddiogelu rhag newid hinsawdd, ac mae hyn mewn gwirionedd yn fater o ddiogelwch y cyhoedd ac mae angen buddsoddi yn awr.
Felly, a gawn ni ddadl ar hyn, os gwelwch yn dda, oherwydd rwy'n ofni na fydd gwneud penderfyniad ar sail Cymru a Lloegr yn gweithio ac na fydd yn gwneud synnwyr, oherwydd nid yw Dŵr Cymru yn gwmni sy'n anfon elw i gyfranddalwyr yn unig; maen nhw'n ailfuddsoddi, maen nhw'n cefnogi cwsmeriaid sy'n agored i niwed? Y datganiad blaenoriaethau strategol yw'r unig gyfle sydd gennym i sicrhau bod y broses a'r penderfyniad terfynol yn gwneud synnwyr i Gymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, yn enwedig o ran Dŵr Cymru. Ni fydd amser i wneud datganiad o'r fath yn amser busnes y Llywodraeth cyn toriad yr haf, ond byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd ystyried cais am ddatganiad ysgrifenedig.
Trefnydd, rwyf wedi cael e-bost yn ddiweddar gan wirfoddolwr yn swyddfa Caerdydd yr elusen gyfreithiol Support Through Court, sydd, am yr wyth mlynedd diwethaf, wedi cael ei ariannu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Nid problem i Gaerdydd yn unig yw hon; gwirfoddolwyr yw'r rhain sy'n cefnogi pobl ledled Cymru sy'n gorfod mynd i'r afael â'r system cyfiawnder sifil. Ac mae'n ymddangos bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn bwriadu newid y ffordd y maen nhw'n ariannu'r system cyfiawnder sifil, ac maen nhw yn awr yn mynd i fod â system o gystadleuaeth, sy'n golygu y gellid gorfodi'r nifer fach o wirfoddolwyr, a gefnogir gan swm bach iawn o arian, i roi'r gorau i'w gweithgareddau a chau, sy'n golygu y gallai'r 5,000 o gleientiaid a gefnogwyd ganddynt y llynedd, a'r 700 o gysylltiadau wyneb yn wyneb y maent wedi'u cael gydag unigolion hyd yn hyn eleni—gallai'r gwasanaeth hwnnw ddiflannu. Felly, tybed a allem ni gael datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ynghylch beth fyddai goblygiadau colli cyllid i Support Through Court, oherwydd mae hyn yn beth hynod o anodd i unrhyw un orfod ei wneud, ac nid yw cymorth cyfreithiol yn cwmpasu y rhan fwyaf o bobl. Felly, rwy'n credu bod hwn yn fater difrifol iawn, tybed a allem ni gael datganiad cyn gynted â phosibl.
Diolch. Rydych yn sicr wedi codi mater pwysig iawn, ac rwy'n gwybod ei fod yn fater sy'n peri pryder gwirioneddol i Lywodraeth Cymru fod y gwasanaeth a ddarperir gan Support Through Court yng nghanolfan cyfiawnder sifil Caerdydd, mae'n ymddangos, mewn perygl gwirioneddol o gael ei dynnu'n ôl. Nid oes sicrwydd y byddai'n cael ei ddisodli. Rwy'n ymwybodol bod y Cwnsler Cyffredinol wedi codi'r mater hwn yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog cyfiawnder newydd, yr Arglwydd Bellamy, am ansicrwydd cyllid yn y dyfodol, i bwyso a mesur pa mor bwysig oedd hyn. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynghori y bydd arian grant y sector gwirfoddol yn y dyfodol ar gyfer helpu ymgyfreithwyr i ddeall prosesau llysoedd drostynt eu hunain wrth fynd i'r llys yn destun cystadleuaeth agored, fel y dywedoch chi. Felly, yr hyn nad yw'n glir ar hyn o bryd yw'r hyn y bydd yn ei olygu i ddarpariaeth gwasanaethau yng Nghymru. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ymrwymo i barhau i ymgysylltu â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a bydd yn ystyried y cais am ddatganiad.
Ganol mis Mai, gofynnodd James Evans gwestiwn amserol am y ffaith bod y Llywodraeth wedi prynu Fferm Gilestone yn ei etholaeth. Mewn ymateb, pwysleisiodd Gweinidog yr economi bwysigrwydd diogelu brand y Dyn Gwyrdd, a phwysleisiodd fod a wnelo'r pryniant â chadw gŵyl y Dyn Gwyrdd yng Nghymru. Tanlinellodd y Gweinidog bwysigrwydd y brand a'r ŵyl. Fodd bynnag, yn ei ymateb wythnos yn ddiweddarach, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn ymwneud â datblygu elfennau eraill ym musnes y Dyn Gwyrdd, ac nid yr ŵyl. Felly, rwyf i a llawer o bobl eraill wedi bod yn pendroni pa un ydyw: ai'r cynnig yw ei brydlesu i'r cwmni at ddibenion yr ŵyl, neu ei brydlesu i'r cwmni at ddibenion eraill, a beth yw'r dibenion eraill hynny? Yn olaf, rwy'n sylwi bod y Gweinidog wedi dweud ar y pryd nad oedd y Llywodraeth yn talu mwy na gwerth y farchnad am Gilestone, a'r swm a dalwyd oedd £4.25 miliwn. Fodd bynnag, mae'r llyfryn gwerthu hwn yn y fan hyn yn dangos ei fod ar werth am £3.25 miliwn—£1 filiwn yn llai na'r hyn y talodd y Llywodraeth amdano. Felly, a gaf i ofyn i Weinidog yr economi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y cynllun busnes ar gyfer Gilestone, a hefyd egluro'r hyn a wnaeth y Llywodraeth i gadarnhau bod gwerth yr eiddo'n gywir?
Diolch. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn dal i aros am y cynllun busnes, a'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn amdano ac yn ei ddisgwyl o'r cynllun busnes hwnnw yw i'r Dyn Gwyrdd nodi'r gweithgareddau sydd i'w cynnal drwy gydol y flwyddyn ar y safle. A bydd hynny'n cynnwys hefyd sut y bydd y tir yn parhau i gael ei ffermio. Felly, fel yr wyf yn ei ddweud, rydym yn dal i aros am y cynllun busnes hwnnw.
Wrth i bawb fynd allan am yr haf i wneud y gorau o'r awyr agored sydd gennym yma yng Nghymru, a allem ni gael datganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn y gorffennol ac yn y dyfodol, i Adventure Smart Cymru? Mae'n wefan wych, yn llwyfan, yn bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n ceisio hyrwyddo gweithgareddau awyr agored diogel ac iach—cerdded bryniau, beicio mynydd, padlfyrddio, canŵio, cychod, nofio dŵr agored, a mwy—drwy roi gwybodaeth ddibynadwy a chyfoes am ddiogelwch i bobl ynghylch sut i wneud y gorau o'r awyr agored, ond i wneud hynny'n ddiogel ac i leihau cymaint â phosibl, mae'n rhaid imi ddweud, yr effaith ar griwiau achub mynydd neu wasanaeth gwylwyr y glannau, neu unrhyw un arall, drwy beidio â chael eu hunain i drafferthion hefyd.
A allem ni hefyd gael datganiad am yr adolygiad estynedig o'r polisi teithio gan ddysgwyr yng Nghymru? Mae wedi'i ymestyn, am resymau da, i gymryd mwy o syniadau ar gylch gwaith wedi'i ymestyn ychydig. Fe wnes i gwrdd â rhieni neithiwr yn fy etholaeth i fy hun, a oedd yn awyddus i fynegi eu barn am y meini prawf 3 milltir ar gyfer ysgolion uwchradd a sut y mae'n rhaid i hyn fod yn gysylltiedig â llwybrau diogel i ysgolion hefyd. Rwy'n awyddus i ddweud y byddai 2 filltir, yn eu barn nhw, yn fwy priodol, yn enwedig i rai o'r plant iau. Felly, byddai'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny a phryd y byddwn yn clywed yn ôl o'r adolygiad hwnnw yn ddefnyddiol iawn.
Diolch. Rwy'n credu eich bod newydd ein hatgoffa ni, er gwaethaf llawer o fanteision i unigolion, ac wrth gwrs i Gymru, y dylem ni fod yn ymwybodol iawn o'r risgiau posibl sy'n gysylltiedig â hamdden awyr agored, ac mae hysbysu ac addysgu ymwelwyr ynghylch mwynhau'r awyr agored yn ddiogel yn agwedd bwysig iawn ar yr hyn a wnawn i hyrwyddo'r awyr agored yma yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu a hyrwyddo'r cod cefn gwlad a chyfres o godau sy'n benodol i weithgareddau, yn ogystal ag ymgyrchoedd ariannu sy'n hyrwyddo hamdden gyfrifol, fel ymgyrch Addo Croeso Cymru.
O ran polisi teithio gan ddysgwyr, fel y gwnaethoch chi sôn, cynhaliwyd adolygiad cychwynnol o'r Mesur yn ôl yn 2020-21, a daeth hynny i ben ar ddiwedd tymor blaenorol y Llywodraeth, flwyddyn yn ôl. Felly, o'r adolygiad cychwynnol, roedd yn glir iawn, rwy'n credu, fod angen adolygiad manylach a mwy trylwyr o'r Mesur. Felly, rwy'n gwybod bod swyddogion ar hyn o bryd yn sefydlu rhaglen ymgysylltu gynhwysfawr a fydd yn sicrhau bod yr holl randdeiliaid perthnasol i'r adolygiad ehangach o deithio gan ddysgwyr yng Nghymru yn cael y cyfle hwnnw i gyfrannu'n llawn a chael eu cynnwys. Felly, bydd rhanddeiliaid yn cael eu gwahodd yn fuan i amrywiaeth o ddigwyddiadau ymgysylltu a fydd yn edrych yn fanylach ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 ar ei ffurf ar hyn o bryd, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod gennym etholwyr—os ydyn nhw hefyd eisiau cyfrannau at yr adolygiad hwnnw, byddai croeso mawr i hynny.