Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 21 Mehefin 2022.
Diolch yn fawr, Joel James. A diolch i chi am eich cefnogaeth, mewn egwyddor, i'r datganiad, ac i ni fod yn genedl noddfa. Diolch i chi am gydnabod Wythnos Ffoaduriaid, a hefyd, rwy'n siŵr, yn ymhlyg yn llawer o'ch sylwadau, am y ffaith mai 'iacháu' yw'r thema ar gyfer Wythnos Ffoaduriaid, ac mae hynny'n arbennig o bwysig o ran y trawma y mae cynifer o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ei wynebu pan fyddan nhw'n dod yma wrth i ni eu croesawu i'r wlad hon.
Rwy'n credu, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, nad oeddem yn rhagweld, ond fe wnaethom ymateb yn llawn, fel gwlad, i ffoaduriaid o Affganistan a'u dyfodiad yma, gan weithio ar sail Tîm Cymru, a oedd yn cynnwys rhai o'r lluoedd arfog mewn gwirionedd a fu'n rhan o'r cynllun i adsefydlu dinasyddion o Affganistan, lle'r oedd cyfieithwyr a oedd wedi bod yn gweithio gyda nhw, gyda'r rhai a leolwyd yng Nghymru, i sicrhau ein bod yn gallu darparu'r cymorth gorau posibl i ffoaduriaid o Affganistan. Rydym wedi croesawu tua 700 o bobl o Affganistan ac mae llawer ohonyn nhw, y rhan fwyaf ohonyn nhw, wedi ymsefydlu ledled Cymru erbyn hyn. Ac yn ogystal â hynny, erbyn hyn, wrth gwrs, rydym yn cefnogi ffoaduriaid o Wcráin hefyd.
Yr hyn sy'n bwysig, a bydd hynny'n ateb rhai o'ch cwestiynau, yw mai ystyr ein gweledigaeth yw bod Cymru nid yn unig yn groesawgar i fudwyr, ond ein bod hefyd yn manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil mudo i helpu gyda ffyniant ein heconomi a'n cymunedau ni. Mewn gwirionedd, ystyr hyn yw bod yn genedl noddfa a bod â'r gallu i helpu'r rhai sydd ar wasgar neu sydd wedi ailsefydlu yng Nghymru i sicrhau eu bod nhw'n cael manteisio ar y gwasanaethau hynny ac y gallan nhw integreiddio i gymunedau o'r diwrnod cyntaf un. Ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, bod yr wybodaeth ar gael iddyn nhw am eu hawliau a'r hyn sy'n ddyledus iddyn nhw, gan gynnwys adrannau ar iechyd, addysg a chyflogaeth, ac mae llawer o hynny ar gael ar ein gwefan.
Rydych chi'n gofyn am y rhaglen hawliau lloches. Dyfarnwyd cyllid i Gyngor Ffoaduriaid Cymru yn ddiweddar ar gyfer gwasanaeth noddfa Cymru, sy'n disodli'r rhaglen hawliau lloches, sydd ar waith o 1 Ebrill 2022 am o leiaf dair blynedd. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig dangos ein bod ni'n symud ymlaen, gan ddysgu gwersi o ran sut rydym wedi ariannu'r gwasanaethau hyd hynny, ond gan sicrhau hefyd mai gwasanaeth noddfa Cymru yw hanfod y gwaith y maen nhw'n ei wneud.
Yn fy natganiad, fe wnes i sylw am y ffaith ein bod ni wedi bwrw ymlaen â'n cynllun trafnidiaeth am ddim ni, ac mae'n bwysig cydnabod mai cynllun treialu oedd hwnnw, sy'n cael ei werthuso ar hyn o bryd, ac rydym yn ei ddatblygu o ran cydnabod y bu'n bwysig iawn i'n ffoaduriaid, yn enwedig y rhai sy'n dod o Wcráin, ochr yn ochr â'n holl ffoaduriaid sydd yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, dim ond o ran gwerthuso'r cynllun trafnidiaeth, ein bod ni'n edrych ar y cynllun treialu. Cynhaliodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru gynllun treialu trafnidiaeth am ddim i geiswyr lloches o fis Ionawr hyd fis Mawrth. Cynhaliwyd arolygon gyda'r rhai hynny a oedd yn defnyddio'r cynllun treialu i amgyffred manteision ac effaith cael cludiant am ddim i geiswyr lloches, nodwyd cyllid a chafodd ei ymestyn i roi rhagor o drafnidiaeth am ddim i bobl, ond roedd hyn hefyd yn ymwneud â sicrhau y gallem ni drafod â'n cydweithwyr ym maes trafnidiaeth, oherwydd bod hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid iddyn nhw ei ymgorffori yn eu polisïau a'u cynlluniau. Mae'r adborth cychwynnol wedi dod i'r casgliad bod trafnidiaeth am ddim wedi helpu ceiswyr lloches i fanteisio ar gyfleoedd nad ydyn nhw'n bosibl ar eu cyllideb wythnosol. Ac mae'n ymwneud â gallu ymweld â mannau o ddiddordeb, cadw apwyntiadau gofal iechyd, dosbarthiadau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill, ac ymweld â ffrindiau—a'r cyfan yn bwysig o ran integreiddio a lles.
Rwy'n credu bod hynny hefyd yn ateb eich cwestiwn ynglŷn â chyfleoedd gwirfoddoli, oherwydd yn sicr, mae hyn yn rhywbeth, mae gwasanaeth noddfa Cymru a llawer o'r sefydliadau sy'n gweithio ledled Cymru, gan gynnwys awdurdodau lleol a'r trydydd sector, yn annog ffoaduriaid a cheiswyr lloches i wirfoddoli. Gan fynd yn ôl at waith adsefydlu llwyddiannus iawn y teuluoedd a'r ffoaduriaid a ddaeth i Gymru o Syria, ac rwy'n cofio yn fy etholaeth i fy hun hyd yn oed, pa mor bwysig oedd hi fod yr awdurdod lleol yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli i ffoaduriaid o Syria a oedd yno eu hunain, yn awyddus i ymgysylltu a chynnig cefnogaeth yn y ffordd honno. A hefyd, rydym ni wedi gweld hynny yn ddiweddar iawn gyda llawer o'r ffoaduriaid o Wcráin sydd wedi dod i Gymru sydd eu hunain yn awyddus i gyfrannu, yn amlwg, ac yn chwilio am waith ac i fod yn annibynnol, ond hefyd i wirfoddoli. Ac yn sicr fe welsom ni lawer a oedd yn cynnig bod yn wirfoddolwyr, yn enwedig gyda phethau fel cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, ond hefyd yn cefnogi ei gilydd, y plant a'r teuluoedd, yn ein canolfannau croeso.
Felly, rydym yn symud ymlaen ar bob un o'r pwyntiau a wnaethoch chi, ond gan gydnabod, ac rwy'n gobeithio eich bod chithau'n gwneud hynny hefyd, fod hyn yng nghyd-destun cyfnod heriol iawn pan fo angen i ni sicrhau bod ein gwerthoedd o fod yn genedl noddfa, yr wyf i'n sicr yn eu rhannu â Gweinidogion Llywodraeth y DU ar bob cyfle posibl—eu bod nhw'n cael eu cymryd o ddifrif a bod yr amgylchedd gelyniaethus yn gwbl groes i hynny, a bod y polisïau hynny gan Lywodraeth y DU, yr wyf i wedi sôn amdanyn nhw, yn gwbl wrthun i'n hysbryd a'n cyflawniad ni o fod yn genedl noddfa.