Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 21 Mehefin 2022.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw ac rwy'n credu y bydd pawb yn y fan hon yn cytuno yn llwyr â'r rhan fwyaf o'ch safbwyntiau. Hoffwn i ddechrau drwy ddweud bod cydnabod sefyllfa ffoaduriaid yn rhan sylfaenol o'n dynoliaeth ac mae'n iawn i ni gymryd camau i helpu'r rhai sy'n ffoi rhag gwrthdaro ac erledigaeth, ac mae Wythnos Ffoaduriaid yn amser i ni fyfyrio ar ein gweithredoedd ein hunain o ran sut yr ydym wedi helpu'r rhai hynny sydd wedi cyrraedd mewn angen ac wedi gofyn am ein cymorth.
Mae hi'n llethol meddwl bod nifer y bobl sydd wedi eu dadleoli drwy rym yn fyd-eang yn fwy na 100 miliwn erbyn hyn, a hoffwn i dalu teyrnged i bawb sy'n gweithio yn ddiflino i helpu ffoaduriaid ledled y byd. Mae yna gymaint ohonyn nhw o hyd na fyddwn ni byth yn gwybod amdanyn nhw sydd wedi rhoi cymaint i helpu eraill. Mae Wythnos Ffoaduriaid yn gyfle gwych i ddod â chymunedau at ei gilydd ac annog gwell dealltwriaeth, ac nid oes ffordd well na thrwy ddigwyddiadau celfyddyd, diwylliant ac addysgol i ddathlu cyfraniad ffoaduriaid i'r Deyrnas Unedig.
Gyda hyn mewn golwg, mae'r thema 'iacháu' eleni yn eithaf trawiadol. Pan edrychwn ni ar y gwrthdaro yn Wcráin, fel gyda chymaint o wrthdaro arall, er mai'r pryder uniongyrchol yw cael pobl i ddiogelwch, mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol o'r cwestiynau hirdymor ynghylch sut yr ydym yn ymdrin ag adfer ac ailadeiladu bywydau ffoaduriaid, a sut yr ydym yn lliniaru effeithiau'r gwrthdaro heb guddio'r dioddefaint nac anghofio'r trawma. Mae'r broses hon, yn y pen draw, yn ymwneud â maddeuant, ond mae hyn yn llawer haws ei ddweud na'i wneud, yn enwedig pan fo cymaint o boen, dioddefaint a niwed wedi ei achosi.
Mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol iawn y dylai'r broses iacháu ymestyn nid yn unig i'r trawma seicolegol o ffoi o'ch gwlad neu gael eich gwahanu oddi wrth deulu neu golli anwyliaid, ond hefyd i golli cymuned, a'r posibilrwydd o golli hunaniaeth, a cholli cartref, a bod yr holl faterion hyn yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Mae'n rhaid i ni gofio hefyd y bydd effeithiau llawer o'r materion hyn yn gudd. Mae'n ddigon posibl y bydd iselder, hunanladdiad, teuluoedd yn chwalu, Anhwylder Straen Wedi Trawma a phroblemau iechyd yn bwrw cysgod ar fywydau pobl wrth iddyn nhw geisio gwella o'u profiadau.
Mae pob cenedl yn y byd sy'n ymdrin â ffoaduriaid yn wynebu problemau tebyg, gan mai anaml y bydd ffoaduriaid yn chwilio am loches mewn niferoedd bychain. Yn aml, mae ffoaduriaid yn dianc am eu bywydau yn eu miloedd ac, fel yr ydym wedi ei weld o'r gwrthdaro rhwng Wcráin a Rwsia, yn eu miliynau. Mae hyn yn creu problemau o ran sut y mae gwledydd sy'n ymateb yn ymdrin â'r niferoedd llethol. Er ein bod ni i gyd yn cael ein taro gan drafferthion arswydus y ffoaduriaid, mae angen i ni fod yn ymwybodol bod gan Lywodraethau y dasg annymunol o geisio ymdrin â ffoaduriaid gorau y gallan nhw, yng ngoleuni'r sefyllfa y maen nhw ynddi, sy'n aml yn gymhleth iawn. Ac mae'n rhaid iddyn nhw wneud hynny'n wrthrychol, sydd, yn anffodus, yn arwain at eu cyhuddo o ddiffyg cydymdeimlad a charedigrwydd yn aml, ond mae'n rhaid i ni gofio, pan fydd y prosesau cywir ar waith, eu bod nhw'n cyflawni llawer mwy, ac er nad yw'r systemau bob amser yn gweithio ar y dechrau, mae yna gyfle bob amser i werthuso, myfyrio a gwella. Ac mae hyn, Gweinidog, yn dod â mi at fy nghwestiwn cyntaf.
Yn 2017, fe wnaethoch chi ysgrifennu at Kevin Foster, Gweinidog Ffiniau'r Dyfodol a Mewnfudo, yn annog Llywodraeth y DU i ddiwygio ei deddfwriaeth i roi hawl i geiswyr lloches weithio mewn unrhyw alwedigaeth yn y DU pe bai eu cais wedi cymryd mwy na chwe mis ar ôl i'r dystiolaeth lawn gael ei chyflwyno, a hoffwn i'n fawr gael gwybod a fu yna unrhyw ddiweddariad o ran hawl ceiswyr lloches i weithio. Yn ail, hoffwn i wybod pa fwriadau sydd gan Lywodraeth Cymru i ymestyn y cynllun trafnidiaeth am ddim, ac a oes unrhyw gynlluniau gennych chi i ehangu cwmpas y cynllun ar gyfer ceiswyr lloches? Yn drydydd, tybed, Gweinidog, o gofio mai swyddi gwirfoddol yw un o'r ffyrdd gorau o ddysgu, deall ac integreiddio i wlad newydd, a ellir cynnig mwy o gyfleoedd gwirfoddoli i geiswyr lloches a ffoaduriaid. Ac yn olaf, Gweinidog, a fyddech chi'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd o ran ymrwymiad y genedl noddfa i ddatblygu sgiliau hanfodol a llythrennedd digidol? Diolch i chi.