Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 21 Mehefin 2022.
Ers i ni ddathlu Wythnos Ffoaduriaid y llynedd, fe ddaeth helyntion y rhai sy'n cael eu gorfodi i adael eu gwlad er mwyn ffoi rhag rhyfel neu erledigaeth yn fwy i'r amlwg nag erioed o'r blaen, gyda'r mudo o Affganistan a'r rhyfel yn Wcráin i enwi dim ond dau ymysg llawer o ddigwyddiadau ledled y byd sy'n effeithio ar gynifer o bobl. Rwyf i wedi rhoi sawl datganiad ar ein cefnogaeth i bobl o Wcráin yn ddiweddar, ac rwyf am barhau i wneud hynny. Serch hynny, hoffwn i ganolbwyntio heddiw ar ein cefnogaeth ehangach ar gyfer ein ceiswyr noddfa yma.
Mae hi'n fraint i ni gynnig noddfa i'r rhai sy'n dod i Gymru, a mabwysiadu dull caredig o integreiddio, gan ystyried yr enbydrwydd y maen nhw wedi'i wynebu. Mae gan Gymru enw da o ran croesawu ffoaduriaid ers amser maith, a byddwn yn parhau i werthfawrogi ac elwa ar eu sgiliau, ac edmygu eu hysbryd entrepreneuraidd a rhannu eu traddodiadau. Yn ystod yr Wythnos Ffoaduriaid hon rydym yn datgan unwaith eto ein huchelgais i wneud Cymru yn genedl noddfa. Rwyf wedi fy nghalonogi yn fawr iawn wrth weld sut y mae hyn wedi ei wireddu dros y tair blynedd diwethaf, ers i mi lansio ein cynllun cenedl noddfa ym mis Ionawr 2019—cynllun nad yw'n eiddo i Lywodraeth Cymru yn unig, ond i'r holl bobl a sefydliadau sy'n rhan o'n cenedl ac sy'n awyddus i roi yr hyn a allan nhw i gyflawni bwriad dyngarol. Rydym wedi gweld hyn drwy ymateb ysbrydoledig i bandemig COVID, yr allfudo o Affganistan ac yn ddiweddar yn y rhyfel yn Wcráin: aelodau'r cyhoedd, awdurdodau lleol, elusennau, arweinwyr ffydd a sefydliadau ledled Cymru yn dod i'r adwy i gefnogi'r rhai y mae angen cymorth arnyn nhw. Mae'r caredigrwydd hwn yn ymgorffori ystyr bod yn genedl noddfa.
Mae ein dull unigryw ni yng Nghymru, y cyfeirir ato'n aml yn ddull 'tîm Cymru' wedi arwain at lawer o ffyrdd arloesol o weithio. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i Urdd Gobaith Cymru am ymgorffori eu hymateb a'u hamcanion dyngarol hir sefydlog drwy gamu i'r adwy a chynnig llety dros dro i'r rhai sydd mewn angen dybryd, o Affganistan yn gyntaf ac o Wcráin yn awr. Rwyf i wedi ymweld â dwy o'n canolfannau croeso ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin, gan gynnwys un yr Urdd ddoe, gyda'r Prif Weinidog, gan dystio i'r croeso cynnes y maen nhw'n ei ddarparu i ffoaduriaid o Wcráin a'r gefnogaeth hollgynhwysol gan yr awdurdod lleol, staff y bwrdd iechyd a gwirfoddolwyr. Bydd llawer o deuluoedd yn cofio eu harhosiad gyda'r Urdd, ac mae llawer wedi mynd ymlaen i ddysgu Cymraeg yn rhan o'u taith ailsefydlu nhw. Mae'r Urdd, felly, yn deilwng iawn o ennill gwobr arbennig y Prif Weinidog yng ngwobrau Dewi Sant eleni.
Unwaith eto, dewiswyd thema addas ar gyfer Wythnos Ffoaduriaid eleni: iacháu. Er y bydd gan bob ceisiwr noddfa ei stori bersonol ei hun, mae gan bob un ohonyn nhw nod cyffredin sef goroesi a bod â'r dewrder i ailadeiladu eu bywydau. Ac rydym yn gwybod bod rhan o'r broses iacháu i lawer ohonyn nhw yn ymwneud â'r gallu i ailgychwyn eu bywydau ac integreiddio yn eu cymuned. Rydym yn awyddus i hynny ddechrau o'r diwrnod cyntaf y byddan nhw'n cyrraedd yma. Mae'r cynllun cenedl noddfa yn nodi'r camau yr ydym yn eu cymryd i sicrhau bod yr anghydraddoldebau y mae'r cymunedau hyn yn destun iddyn nhw yn cael eu lleihau, a bod y gallu i fanteisio ar gyfleoedd yn cynyddu, a bod y berthynas rhwng y cymunedau hyn a'r gymdeithas ehangach yn cryfhau.
Rhoddodd ein prosiect AilGychwyn llwyddiannus, a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022, gymorth i 853 o ffoaduriaid dros y tair blynedd. Rydym wedi parhau i ariannu canolfannau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill yng Nghymru i sicrhau bod ceiswyr noddfa a ffoaduriaid yn gallu mynd i ddosbarthiadau yng Nghymru i wella a mireinio eu sgiliau iaith. Rydym yn gweithio i annog busnesau i ystyried recriwtio ffoaduriaid i wneud eu gweithleoedd yn rhai cynhwysol i'w hanghenion.
Mae ysgolion yn dechrau ymgeisio am statws ysgol noddfa, drwy ddarparu man diogel a chroesawgar i bawb, gan wneud i blant deimlo eu bod nhw'n rhan o gymuned yr ysgol, gan helpu gyda'r broses iacháu. Ym mis Mawrth, roeddwn i wrth fy modd yn ymuno ag Ysgol St Cyres ym Mhenarth, i gyflwyno eu gwobr iddyn nhw wrth ddod yn ysgol noddfa.
Rydym wedi parhau i ddarparu cyllid i Gyngor Ffoaduriaid Cymru a'i bartneriaid i ddarparu ein gwasanaeth noddfa Cymru a gwasanaethau symud ymlaen. Rydym wedi ariannu Cyfiawnder Lloches hefyd er mwyn parhau i ddarparu cyngor cyfreithiol a Chyfiawnder Tai Cymru er mwyn ehangu capasiti cynnal ledled Cymru. Rydym wedi rhoi cysylltiad i'r rhyngrwyd am ddim ym mhob llety lloches ledled Cymru drwy gydol pandemig COVID-19, ac rydym yn parhau i wneud hynny, sydd wedi golygu bod pobl wedi gallu cysylltu ag aelodau eu teulu, a pharhau â'u hastudiaethau, a pharhau i gael gafael ar wybodaeth a'r newyddion diweddaraf hanfodol o ran iechyd. Fe wnaethom ddarparu cludiant am ddim i ffoaduriaid i'w galluogi i integreiddio â chymunedau Cymru, ac rydym yn adolygu cam nesaf y cynlluniau hynny ar hyn o bryd.
Mae pob cam gweithredu unigol—rwyf wedi amlinellu rhai ohonyn nhw yn y datganiad hwn—yn dod â ni'n nes at fod yn genedl noddfa ac yn ailgadarnhau enw da ein gwlad am fod yn groesawgar a gofalgar. Rydym yn sefyll gyda ffoaduriaid o bob cwr o'r byd, ni waeth sut y gwnaethon nhw gyrraedd yma. Bydd polisi Llywodraeth y DU i anfon pobl i Rwanda a Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 yn niweidiol i'r broses iacháu ac yn achosi ymraniad. Ein dyletswydd foesol ni yw galluogi pobl i geisio diogelwch a chael croeso cynhwysol yma yng Nghymru.
Dylid canolbwyntio ar wella'r system lloches, ac nid ar ddarganfod ffyrdd newydd o wneud y system yn fwy heriol a hirwyntog i bobl sy'n chwilio am ddiogelwch. Mae penderfyniad y Swyddfa Gartref i ddefnyddio tagio electronig yn wrthun ac yn gwbl groes i'n safbwynt ni yn genedl noddfa. Dylai'r bobl hyn sy'n agored i niwed sy'n dod i'n gwlad ni i chwilio am ddiogelwch a noddfa gael eu trin ag urddas a pharch, nid eu tagio a'u gwneud yn droseddwyr. Mae'n rhaid datblygu llwybrau diogel a chyfreithiol i geiswyr lloches allu hawlio lloches o'r tu allan i'r DU, gan ddiddymu'r angen am deithiau peryglus ac amharu ar fodel busnes y rhai sy'n smyglo pobl.
Mae dynion, menywod a phlant yn cyrraedd y DU oherwydd cysylltiadau teuluol neu berthnasau presennol, eu gallu i siarad Saesneg, neu o ganlyniad i gysylltiadau diwylliannol sy'n aml yn gysylltiedig â hen wladychiaeth Brydeinig. Rydym yn cydsefyll â ffoaduriaid o bob cwr o'r byd, ni waeth sut y maen nhw wedi cyrraedd yma. Rydym yn dathlu'r ffordd y maen nhw'n cyfoethogi ein cymunedau yng Nghymru, yn ogystal â'r ffordd y mae eu hiachâd eu hunain yn troi'n llwyddiant, a sut rydym ni yn elwa ar hyn o fod yn genedl noddfa.