Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 21 Mehefin 2022.
Mae'n rhaid i gymorth iechyd meddwl fod ar gael. Yn y canolfannau croeso, yn y ddau yr wyf i wedi ymweld â nhw, fe wnes i gyfarfod â nyrsys o'r timau iechyd meddwl cymunedol, a hefyd o ran anghenion eraill—archwiliadau iechyd i'r rhai sy'n mynychu'r canolfannau croeso. Nid oes unrhyw aros pan fyddwch chi'n mynd i ganolfan groeso, rydych chi'n cael gweld y timau. Ac, wrth gwrs, maen nhw'n cofrestru gyda meddygon teulu. Ond roedd y nyrsys yn dweud cymaint o fraint yr oedden nhw'n ei theimlo i allu cynnig y math hwn o gefnogaeth ar yr amser hwn. Dyna fynegiant o genedl noddfa gan weithwyr proffesiynol.
I'r rhai sy'n aros gyda theuluoedd noddi, byddaf yn ymchwilio ymhellach i hyn o ran y gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael, oherwydd yn amlwg, o ran y croeso yr ydym yn ceisio ei roi—y bwrdd iechyd, yr awdurdodau lleol—mae'n hanfodol ein bod ni'n gallu cael ein dwyn i gyfrif am yr hyn sy'n cael ei ddarparu, ond hefyd i roi sicrwydd i chi o hynny. Rwyf i'n sicr wedi canfod o fy adborth fod y gwasanaethau wedi gallu cael eu darparu.
Rwyf i am symud ymlaen i rai o'r pwyntiau eraill a wnaethoch chi ynglŷn â gwasanaethau pan fydd pobl yn cyrraedd yng Nghymru. Yn amlwg, o ran y ganolfan fiometrig a'r ffaith nad oedd gobaith cael apwyntiad a dim ond un sydd i'w chael yng Nghaerdydd, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hwnnw. Byddaf yn codi hynny gyda'r Gweinidog Ffoaduriaid, Arglwydd Harrington. Rwy'n cyfarfod ag ef a fy nghymar yn yr Alban bob wythnos neu bob pythefnos, a byddaf yn codi hyn gyda nhw. Ond hefyd, mae'n annerbyniol bod yr oedi hwn, oherwydd bod y rhai sy'n dod ac sy'n ffoaduriaid yn awyddus i weithio, maen nhw eisiau bwrw ymlaen â'u bywydau.
O ran dosbarthiadau Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill—mae'r Gweinidog addysg wedi ymuno â ni hefyd—rwy'n gwybod bod prifysgolion, awdurdodau lleol a'r trydydd sector yn cynnig cymorth, felly byddaf yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn a fydd yn digwydd dros wyliau'r haf. Byddaf yn sicr yn gwneud datganiad arall cyn diwedd y tymor hwn, rwy'n gobeithio—os nad ar lafar, yna'n ysgrifenedig, diweddariad—oherwydd bod Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn hanfodol ar gyfer integreiddio.
Yn olaf, hoffwn i ddiolch i chi am eich sylwadau ynglŷn â'r polisïau creulon tu hwnt y mae'r Llywodraeth hon yn y DU yn eu gweithredu wrth geisio anfon ceiswyr lloches i Rwanda, sy'n ymateb creulon ac annynol i'r rhai hynny sy'n ceisio noddfa yn y DU, ac yn gwbl groes i'n dull ni o fod yn genedl noddfa yng Nghymru. Mae Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig yn eglur bod y mesurau yn Neddf Cenedligrwydd a Ffiniau, y trawsforio, yn groes i'r confensiwn ffoaduriaid. Mae'r DU wedi arwyddo hynny. Ond yn ogystal â hynny, unwaith eto, y tagio hefyd. Efallai fod y niferoedd sy'n croesi'r sianel mewn cychod bach wedi bod yn uchel yn ddiweddar, ond mae nifer cyffredinol y ceiswyr lloches sy'n cyrraedd y DU wedi gostwng o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol, er gwaethaf y rhethreg—a rethreg yw hi—sy'n awgrymu fel arall. Mae'r rhai hynny sy'n cyrraedd yma i geisio noddfa yn chwilio amdani oherwydd eu bod nhw'n agored i niwed, a dylid eu trin nhw ag urddas a pharch, a pheidio â'u trin nhw fel troseddwr. Rwyf yn croesawu'r datganiad a'r sylwadau hynny sydd wedi condemnio hyn yn gyffredinol, gan gynnwys gan yr eglwys. Roeddwn i'n falch iawn o ddarllen y datganiad gan Esgob Llandaf, y Gwir Barchedig June Osborne. Dywedodd:
'Mae Wythnos Ffoaduriaid yn cynnig cyfle perffaith i ni i gyd, yn ysgolion, eglwysi a chymunedau, ddod at ein gilydd a dathlu'r cyfraniad anhygoel y mae'r ffoaduriaid a'r mudwyr hyn yn ei wneud i'n cymdeithas, gan fyfyrio hefyd ar gryfder y rhai sydd wedi profi dioddefaint di-ben-draw.... Mae deddfwriaeth newydd sydd wedi gwneud llawer sy'n ceisio diogelwch yn droseddwyr wedi amharu ar eleni, a'r wythnos hon rydym ni wedi gweld yr ymgais gywilyddus gyntaf i drawsforio ceiswyr lloches i Rwanda', a oedd, fel dywedodd y Prif Weinidog, wrth gwrs, yn ddiwrnod tywyll. Ond rydym yn gobeithio, fel yr ydych chi'n ei ddweud, fod y rhai sydd wedi ymgyrchu a'n galluogi ni i ddefnyddio eu sgiliau a'u cymorth cyfreithiol hefyd—. Wrth gwrs, mae hi mor bwysig bod hyn yn rhan o'n hymrwymiad i'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol.