3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Wythnos Ffoaduriaid 2022: Iacháu

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:03, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Dinas noddfa ryfeddol yw Abertawe. Rwy'n cofio ymweld â'r ddwy brifysgol a Choleg Gŵyr a'r gwaith maen nhw wedi ei wneud. Rwy'n credu bod Julie James wedi cymryd rhan hefyd, yn rhinwedd ei hetholaeth hi mae'n debyg. Mae'r ffynnu yno yn wirioneddol, ac rwy'n siŵr y bydd yr arddangosfa yn un fywiog a grymus. Yn wir, fe soniodd Joel James am y ffyrdd yr ydym ni yn dathlu cyfraniadau diwylliannol a chelfyddydol ein ffoaduriaid yn ystod Wythnos Ffoaduriaid yn aml, ac rydym yn gwneud hynny i gydnabod eu sgiliau, eu talent, a'r gwersi diwylliannol a'r hyn a ddysgwn o hynny.

Mae eich cwestiynau yn allweddol o ran y ffordd y gallwn ni ein galw ein hunain yn genedl noddfa, onid ydyn nhw? O ran cefnogaeth, yn enwedig i'r rhai hynny, fel yr ydych yn sôn, sydd wedi bod ar deithiau peryglus ac wedi dioddef trawma wrth ddod yma—wrth gwrs, ddoe, fe wnaeth y Prif Weinidog a minnau gwrdd â llawer yng nghanolfan groeso'r Urdd, ac fe ymwelodd y Cwnsler Cyffredinol a minnau â chanolfan groeso arall—gan adael hefyd, o ran yr Wcrainiaid, eu gwŷr a'u partneriaid sy'n ymladd yn y rhyfel ar ôl, y teithiau y buon nhw arnyn nhw, mae'n rhaid i'r bywyd newydd yn ein gwlad ni fod yn bwerus o ran y gefnogaeth yr ydym yn ei rhoi. Mewn gwirionedd, gair cryf a oedd yn dod o enau lawer o'r ffoaduriaid ddoe oedd eu bod nhw'n teimlo bod eu profiad yn yr Urdd yn eu 'hiacháu' nhw. Nid oedden nhw'n gwybod o reidrwydd mai'r gair hwn fu'r thema. Roedden nhw'n teimlo ei fod yn eu hiacháu—yr amgylchedd, y gofal a'r tosturi.