Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 21 Mehefin 2022.
Rwy'n edrych ymlaen at ymweld ag arddangosfa Cartref oddi Cartref Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn ddiweddarach yr wythnos hon, sy'n dathlu'r bobl a'r sefydliadau sydd wedi bod â rhan o'r gwaith o wneud Abertawe yn ddinas noddfa ers dros 10 mlynedd.
Y cam cyntaf yn unig yw cyrraedd man diogel, wrth gwrs—cam peryglus a blinderus yn aml—ar siwrnai faith i ffoaduriaid, yn llythrennol ac yn ffigurol, sydd, fel yr ydym wedi'i weld yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn cael ei gwneud hyd yn oed yn galetach gan Lywodraethau fel y rhai hynny sydd mewn grym yn San Steffan, sy'n annyneiddio ffoaduriaid, yn eu dibrisio ac yn gwadu hawliau dynol y rhai sydd yn aml wedi bod yn destun trais ac erledigaeth ar y daith honno at noddfa a normalrwydd, taith na all y rhan fwyaf ohonom hyd yn oed ddechrau ei hamgyffred. Ar ôl byw trwy hynny, ar ôl ymdopi â hynny, yna fe geir y dasg anhygoel o anodd ond allweddol o wneud bywyd newydd mewn gwlad newydd, y cam cyntaf i iacháu, a'r hyn sy'n peri rhwystredigaeth ac yn amhosibl heriol lawer gormod o ffoaduriaid yw methu â gwneud hynny.
Rydym wedi gweld erbyn hyn sut y mae Cymru wedi croesawu'r cyfle i ddarparu cymorth a noddfa i'r rhai hynny sy'n ffoi o Wcráin a gwledydd eraill, fel Affganistan a Syria yn y gorffennol. Mae'r ymateb gan bobl gyffredin yng Nghymru wedi bod mor galonogol, ond clywsom gan y Gweinidog yr wythnos diwethaf am rai o'r anawsterau ynglŷn â rhannau eraill o'r daith tuag at fywyd newydd. Ychydig wythnosau yn ôl, gofynnais i chi, Gweinidog, am y cymorth sydd ar gael i ffoaduriaid sy'n dod i Gymru o ran iechyd meddwl. Yn benodol, roeddwn i'n awyddus i chi rannu ffigurau o ran amseroedd a rhestrau aros ar gyfer rhai hynny sy'n ceisio manteisio ar gymorth y gwasanaethau hynny, ar ôl y cyhoeddiad bod rhai ffoaduriaid, ar lefel y DU, yn aros hyd at ddwy flynedd i gael cymorth trawma. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a wnewch chi rannu ffigurau neu amcangyfrifon â ni heddiw ynglŷn â'r sefyllfa ar hyn o bryd yng Nghymru. Yn eich ymateb hefyd, fe wnaethoch chi sôn bod Llywodraeth Cymru yn ystyried opsiynau i ddarparu cymorth iechyd meddwl a lles ychwanegol yn y canolfannau croeso, felly roeddwn i'n meddwl tybed a fu unrhyw gynnydd yn hyn o beth a beth fydd yr amserlen ar gyfer hynny.
Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i fynegi diolch Plaid Cymru i'r ymgyrchwyr, y sefydliadau a'r cyfreithwyr hawliau dynol a lwyddodd i herio ac atal yr awyren gyntaf a oedd am fynd â'r ceisiwyr lloches hynny o'r DU i Rwanda o dan bolisi ffiaidd, anfoesol, yr ydym yn gwybod y byddai wedi bod â chanlyniadau dinistriol a pheryglus i'r rhai hynny sy'n frodyr ac yn chwiorydd i ni. Cynhaliodd Meddygon Heb Ffiniau sesiynau iechyd meddwl gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches a oedd wedi eu trawsforio drwy rym o Awstralia oherwydd polisi tebyg, i ganolfannau cadw amhenodol ar ynys Nauru. Canfu'r Meddygon Heb Ffiniau rai o'r achosion mwyaf enbyd o ddioddefaint iechyd meddwl mewn 50 mlynedd o brofiad o gefnogi ffoaduriaid. Roedd plant mor ifanc â naw oed yn ystyried hunanladdiad, yn hunan-niweidio neu hyd yn oed yn ymgeisio hunanladdiad. Os bydd Llywodraeth Dorïaidd San Steffan yn parhau i chwarae gemau gwleidyddol gyda bywydau'r rhai sy'n ceisio ein cymorth a'n hamddiffyniad, byddwn yn rhoi'r bobl hyn mewn perygl o chwalfa ddychrynllyd o ran eu hiechyd meddwl, fel gwelsom ni yn Awstralia.
Mae'r cynllun treialu tagio a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yr ydych wedi cyfeirio ato, yr un mor frawychus. Mae Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig wedi dweud bod mwyafrif clir y bobl sy'n cyrraedd y DU ar gychod bychain yn ffoaduriaid sy'n dianc rhag gwrthdaro neu erledigaeth ac nid, fel y mae Llywodraeth San Steffan yn ei ddadlau, yn groes i'w data ei hun, ymfudwyr economaidd. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod modd cyflawni ein dyhead i fod yn genedl noddfa yng ngoleuni polisïau mor farbaraidd? Sut mae'r Llywodraeth am sicrhau ei bod yn gallu amddiffyn pawb sy'n ceisio diogelwch mewn ffordd gyfartal yng Nghymru?
Yn olaf, mae etholwr sy'n lletya ffoadur o Wcráin wedi cysylltu â mi. Mae hi wedi bod yn ceisio trefnu apwyntiad yn y ganolfan drwydded breswylio fiometrig agosaf yng Nghaerdydd ers wythnosau, fel sy'n ofynnol er mwyn cael caniatâd i aros a pharhau i fod â hawl i gael gwasanaethau ar ôl y chwe mis cyntaf. Dywedodd wrthyf, 'Hyd y gwn i, Caerdydd yw'r unig le yng Nghymru y gallwch chi gael cerdyn preswylio biometrig, a hyd yma, mae hi'n amhosibl gwneud apwyntiad. Y ganolfan agosaf sy'n cynnig apwyntiadau yw llyfrgell Barnstable, sydd, fel y mae'r frân yn hedfan, yn ôl y cyfrifiadur, tua 50 milltir i ffwrdd.' Ond, wrth gwrs, mewn gwirionedd, mae hynny'n nes at 150 milltir ac yn daith chwe awr yno ac yn ôl. Dywedodd fy etholwr wrthyf hefyd nad oes lleoedd ar gael ar gwrs Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill tan fis Medi lle mae hi'n byw ym Mhort Talbot ar gyfer y fenyw o Wcráin sy'n aros gyda hi, ac mae hynny hefyd yn atal ei hymdrechion i ymgartrefu yn ei chartref newydd. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod pobl yn gallu trefnu'r apwyntiadau ar gyfer fisa a'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw a bod y straen o geisio gwneud bywyd newydd i'w hunain yn cael ei ysgafnu gymaint â phosibl? Diolch.