3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Wythnos Ffoaduriaid 2022: Iacháu

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 3:10, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Yn wir. Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am eich datganiad ac am eich gwaith. Rwyf i o'r farn bod Cymru wedi cymryd camau breision ar y ffordd yr ydym yn croesawu ceiswyr lloches a ffoaduriaid yma ac yn gofalu amdanyn nhw ac yn darparu'r gwasanaethau angenrheidiol iddyn nhw pan fyddan nhw yn ein gwlad. Mae'n dda iawn gweld hynny, ac rwy'n credu bod y genedl noddfa yn darparu fframwaith a phwyslais da iawn i'r math hwn o waith.

Gweinidog, mae Dwyrain Casnewydd yn ardal amrywiol. Roedd hi'n ddiddorol iawn i mi gyfarfod â menyw ifanc, ffoadur o Wcráin, yn y parkrun lleol yng Nghasnewydd. Roedd hi yno gyda'r fenyw sy'n ei lletya, fel petai, ac mae hi'n amlwg eu bod nhw'n tynnu ymlaen yn dda iawn ac roedd yr aelwyd yn mwynhau crempogau tatws Wcrainaidd, sy'n flasus iawn yn ôl pob tebyg. Meddyg yw'r fenyw ifanc ac mae hi'n gwella ei Saesneg ac yn edrych ymlaen yn fawr at wneud ei chyfraniad i wasanaeth iechyd gwladol Cymru. Roedd yn ddarlun cadarnhaol iawn yn wir, a da iawn oedd gweld hynny. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi clywed straeon cadarnhaol tebyg am ffoaduriaid o Affganistan, er enghraifft. Mae hi'n gwbl briodol bod y bobl hyn yn cael y lefel honno o wasanaeth a chroeso, ond nid yw'r un peth yn wir ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches o bob rhan o'r byd ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod cysondeb o ran yr ansawdd hwnnw. Yn hynny o beth, Gweinidog, hoffwn i adleisio'r sylwadau a wnaed am Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn fawr iawn, gan fy mod i'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod y ddarpariaeth yn gyson dda ledled Cymru gyfan.

Rwy'n credu hefyd y gallwn ni wneud mwy ynglŷn ag Wythnos Ffoaduriaid ac efallai y gallem ni sefydlu ymgyrch ehangach i gyfleu'r negeseuon priodol o ran ceiswyr lloches a ffoaduriaid, gan weithio gyda'r wasg leol ac eraill efallai, oherwydd bod llawer o gamsyniadau, camwybodaeth, ac mae hynny'n tanseilio'r math o groeso yr ydym ni'n dymuno ei weld yn ein cymunedau. Gall straeon cadarnhaol am y cyfraniadau y mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn eu gwneud fod yn rymus iawn o ran helpu i lunio canfyddiadau yn y ffordd briodol, Gweinidog, ond rwy'n credu bod angen cydlynu ac arwain hynny, ac rwy'n credu mai swyddogaeth i Lywodraeth Cymru yw honno.