Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 21 Mehefin 2022.
Diolch yn fawr iawn. Nid wyf i'n credu bod angen i mi roi ateb. Nid cwestiynau oedden nhw; roedd yn ddatganiad pwysig tu hwnt. Rwy'n credu bod hynny'n amlygu pwysigrwydd y ffaith fy mod i'n gwneud datganiad yma heddiw ynglŷn ag Wythnos Ffoaduriaid Cymru, a'n bod ni, mewn gwirionedd, wedi cael cydnabyddiaeth drawsbleidiol gref o ystyr bod yn genedl noddfa.
Dim ond un pwynt y byddwn i'n ei wneud. Ardderchog o beth yw eich bod chi wedi cael y meddyg o Wcráin yn ffoadur yn eich etholaeth chi. Fe wnes i gyfarfod â deintydd a oedd mewn canolfan groeso yn eich ardal chi hefyd mewn gwirionedd. Fe allen nhw weithio yn ein GIG, oni allen nhw, felly mae cysylltiadau eisoes yn cael eu trefnu rhyngddyn nhw a'r sefydliad Displaced People in Action, sydd wedi cefnogi meddygon sy'n ffoaduriaid dros y 22 mlynedd diwethaf, oherwydd fe wnes i helpu i sefydlu hwnnw pan oeddwn i'n Weinidog iechyd flynyddoedd lawer yn ôl. Felly, mae llawer o'r meddygon hynny sy'n ffoaduriaid yn gweithio yn y GIG erbyn hyn. Ond, yn aml mae yna rwystrau i'r cyfraniad y mae ffoaduriaid yn awyddus i'w wneud, yn dymuno'n daer i'w wneud. Mae'n rhaid i ni chwalu'r rhwystrau hynny. Byddwn yn edrych ar Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill a chysondeb y cynnig hwnnw ledled Cymru. Yn anffodus, o ran y cyllid yr ydym yn ei gael oddi wrth Lywodraeth y DU ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin, nid oes cyllid ar gyfer Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill. Roedd i'w gael ar gyfer ffoaduriaid o Affganistan; ond nid oes cyllid ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin. Felly, unwaith eto, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i'r arian hwnnw.