Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 22 Mehefin 2022.
Rwyf wedi ymrwymo i edrych y tu hwnt i gladin, gan fabwysiadu ymagwedd gyfannol at ddiogelwch adeiladau. Mae hyn yn cynnwys newid rheoliadau sy’n llywodraethu rheoli adeiladu, deddfwriaeth a mynd i’r afael â materion presennol sy'n ymwneud â diogelwch adeiladau drwy gronfa diogelwch adeiladau Cymru. Mae'r gwaith o gael gwared ar gladin deunydd cyfansawdd alwminiwm (ACM) oddi ar y rhan fwyaf o adeiladau uchel iawn wedi'i gwblhau, gyda chynlluniau ar waith ar gyfer y gweddill.