Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 22 Mehefin 2022.
Diolch. Lywydd, hoffwn ddatgan buddiant ar y mater hwn.
Fy nghwestiwn i chi, Weinidog, yw bod gennyf etholwyr mewn adeiladau sy’n aros i’w heiddo gael ei wneud yn ddiogel, fel rydych newydd ei amlinellu. Ar hyn o bryd, maent yn aros am y broses honno, ac yn y cyfamser, nid ydynt yn gallu gwerthu eu heiddo, symud i eiddo mwy o faint—mae hyn yn cael effaith ar lu o faterion, yn amlwg, ac mae'n effeithio ar y farchnad dai. Beth rydych yn ei wneud a pha gamau gweithredol a roddir ar waith gennych i sicrhau bod y broses honno’n cael ei chyflymu neu ei chwblhau cyn gynted â phosibl er mwyn iddynt allu cael tystysgrifau tân fel y gallant werthu eu heiddo? Diolch.