Defnydd Tir

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 22 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joel James Joel James Conservative 2:01, 22 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae ‘Cymru Sero Net: Cyllideb Garbon 2' yn nodi:

‘Er mwyn gwireddu'r uchelgais sero net, bydd angen defnyddio mwy o bren mewn sectorau fel y sector adeiladu yn lle'r deunyddiau gweithgynhyrchu ynni uchel a ddefnyddir ar hyn o bryd, fel dur a choncrid.' a hefyd bod y Llywodraeth hon yn bwriadu datblygu strategaeth ddiwydiannol newydd ar gyfer pren:

‘er mwyn datblygu economi coed ac annog mwy o ddefnydd o bren ym maes adeiladu’

Ond rwy’n pryderu nad yw hyn yn arbennig o dryloyw o ran sut y caiff ôl troed carbon pren ei gyfrif. Mae'n awgrymu rywsut fod pren a ddefnyddir i adeiladu yn ddi-garbon mewn rhyw fodd, ond mewn gwirionedd mae'n gynnyrch gweithgynhyrchu sydd angen mewnbwn ynni ar gyfer cynaeafu a chludo, ac ar ben hynny ceir y carbon a ryddheir o aflonyddu ar bridd. Yna mae angen ei brosesu gan ddefnyddio gludion a deunydd cadw cemegol ynni-ddwys, ac nid yw hyn yn cyfrif cylchred oes carbon yn ystod y cyfnod y defnyddir yr adeilad. Weinidog, cefais fy siomi gan eich ymateb i fy nghwestiwn ysgrifenedig ynghylch allyriadau carbon o bridd, oherwydd tynnodd sylw at y dystiolaeth annigonol sydd ar gael i gefnogi cynllun y Llywodraeth hon wrth symud ymlaen. Yn wir, erbyn i’ch strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren ddechrau dwyn ffrwyth ymhen 40 i 50 mlynedd, bydd y diwydiant concrit eisoes wedi’i ddatgarboneiddio’n llwyr. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog, pa ystyriaeth y mae’r Llywodraeth hon wedi’i rhoi i fesur potensial y diwydiant concrit yn y broses atafaelu carbon? Ac a wnaiff y Gweinidog gytuno i gyfarfod â mi a chynrychiolwyr y diwydiant i drafod sut y gall concrit chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatgarboneiddio Cymru? Diolch.