Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 22 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:26, 22 Mehefin 2022

Wel, mae hi wedi bod yn flaenoriaeth i ni sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael i'r rhai sydd eisiau cymryd mantais ar hynny o Wcráin, ac wedi bod yn sicrhau, o ran plant a hefyd oedolion, fod mynediad ar gael i wersi yn y Gymraeg, ac wedi gweithio gyda Rhieni dros Addysg Gymraeg i sicrhau bod hynny yn bosib, ac mae'r adnoddau sydd ar gael yn ddwyieithog yn sicrhau bod hynny yn hygyrch iddyn nhw. Byddwn i'n hoffi gweld mwy a mwy o blant o Wcráin yn dewis addysg Gymraeg, os taw hynny maen nhw eisiau ei wneud, a sicrhau bod angen cefnogaeth i ysgolion i allu darparu hynny hefyd.