2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 22 Mehefin 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Diolch, Llywydd, ac yn gyntaf hoffwn ddiolch i'n cynghorau lleol am eu hymdrechion i ddod o hyd i leoliadau addysg ar gyfer plant o Wcráin. Mae pob awdurdod lleol wedi cyflawni i sicrhau bod pob plentyn o Wcráin yn cael mynediad at addysg. Mae hyn yn cynnwys, yn unol â'r wybodaeth ddiweddaraf, 73 o blant Wcráin mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yma yng Nghymru.
Yr hyn sy'n wych am ein hiaith yw ei bod yn perthyn i bawb. Gellir ei dysgu a'i charu gan unrhyw un o unrhyw gefndir, fel sy'n wir yma. Ond gall dysgu ein hiaith fod yn anodd, nid lleiaf i'r rhai sydd wedi eu dadleoli gan ryfel. Felly, Weinidog, a allwch amlinellu pa gymorth ychwanegol rydych wedi'i gynnig i athrawon cyfrwng Cymraeg sy'n darparu addysg ragorol i'r plant hyn tra'u bod nhw yn westeion yn ein gwlad?
Wel, mae hi wedi bod yn flaenoriaeth i ni sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael i'r rhai sydd eisiau cymryd mantais ar hynny o Wcráin, ac wedi bod yn sicrhau, o ran plant a hefyd oedolion, fod mynediad ar gael i wersi yn y Gymraeg, ac wedi gweithio gyda Rhieni dros Addysg Gymraeg i sicrhau bod hynny yn bosib, ac mae'r adnoddau sydd ar gael yn ddwyieithog yn sicrhau bod hynny yn hygyrch iddyn nhw. Byddwn i'n hoffi gweld mwy a mwy o blant o Wcráin yn dewis addysg Gymraeg, os taw hynny maen nhw eisiau ei wneud, a sicrhau bod angen cefnogaeth i ysgolion i allu darparu hynny hefyd.
Diolch i chi am hynny, Weinidog, ac rwy'n siŵr y bydd yr Wcrainiaid ledled Cymru yn gwerthfawrogi'r ateb a'r cymorth hwnnw.
O ran addysg cyfrwng Cymraeg, hoffwn ddiolch i chi am ateb llythyr a halais atoch ynglŷn â'r hyn sy'n ymddangos fel pe bai'n blaenoriaethu addysg cyfrwng Cymraeg dros addysg cyfrwng Saesneg. Byddwch yn gwybod am enghreifftiau o gynnig cludiant am ddim i ddisgyblion cyfrwng Cymraeg ond nid disgyblion cyfrwng Saesneg. Yn eich ateb, rydych yn nodi mai cynghorau lleol sydd â'r cyfrifoldeb am gynllunio eu trefniadau addysg. Eto, mae canllawiau ein Llywodraeth ar y Gymraeg, yng nghyd-destun cynlluniau addysg strategol, yn annog awdurdodau lleol i drafod eu hanghenion unigol gyda Llywodraeth Cymru. Os yw'r canllawiau hynny yn wir, pam felly fod Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg sy'n creu anghydbwysedd yn y cymorth sydd ar gael?
Dwi ddim yn credu ein bod ni yn gwneud hynny.
Dyna ni. Diolch. Ond o'r ateb a ges i yn y llythyr a ges i o'r Gweinidog, dwi'n credu bod angen edrych ar hwn unwaith eto. Dwi'n ddigon hapus i ddod ymlaen â chwestiynau eraill ynglŷn â hyn.
Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o fy aelodaeth hir a phleserus o fudiad y ffermwyr ifanc, a hoffwn ddatgan diddordeb. Mae'n fudiad sydd wedi ei drwytho yn nhraddodiadau cefn gwlad Cymru, ac yn un sydd wedi cael effaith fawr ar ddatblygiad llawer o bobl ifanc ar draws ein gwlad. Mae sefydliadau ieuenctid fel y ffermwyr ifanc yn bwysig wrth helpu i gyflawni amcanion uchelgeisiol 'Cymraeg 2050'. Maent yn annog dysgu a datblygu sgiliau iaith dwy'r gymuned, ac yn ategu gwaith pwysig datblygiad yr ysgol. Er fy mod yn ymwybodol o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'n clybiau ffermwyr ifanc, drwy gyllido swyddog iaith Gymraeg amser llawn, rwy'n awyddus i ddeall a yw sefydliadau ieuenctid eraill, megis mudiad y Sgowtiaid neu gadetiaid y fyddin, yn cael cynnig adnoddau tebyg. Diolch.
Dwi ddim yn gwybod beth yw'r gyllideb benodol ar gyfer y mudiadau eraill mae'r Aelod yn sôn amdanyn nhw, ond mae gennym ni, wrth gwrs, gynllun o gefnogaeth ariannol i amryw o gyrff gwirfoddol, cyrff trydydd sector, cyrff ieuenctid hefyd. Rŷm ni'n edrych ar hyn o bryd ar adolygu cynllun grantiau hyrwyddo'r Gymraeg yn gyffredinol. Mae cwmni allanol wedi cael ei benodi ar gyfer edrych ar yr adolygiad hwnnw. Un o'r blaenoriaethau sydd gyda fi, fel rŷch chi'n gwybod, fel Gweinidog, yw sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth y gallwn ni i gynyddu nid jest nifer y bobl sy'n dysgu'r Gymraeg ond hefyd cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg a gofyn i'n partneriaid ni i edrych ar ffyrdd o allu grymuso pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn ein cymunedau ni. Felly, bydd y gwaith hwnnw'n dod i ben maes o law. Bydd yn gyfle inni edrych eto ar y cynllun grantiau yn gyffredinol, ond, yn sicr, mae'r gwaith y mae amryw o fudiadau, o'r math y mae e wedi bod yn sôn amdanyn nhw yn ei gwestiynau, yn ei wneud yn bwysig iawn.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Mae lefel buddsoddiad Cymru mewn ymchwil ac arloesi yn sylweddol is na chyfartaleddau'r DU a'r UE, a bydd y darlun hwn yn gwaethygu wrth i brifysgolion Cymru fod o dan anfantais anghymesur oherwydd colli arian strwythurol yr UE o ystyried y lefel uchel o ddibyniaeth ar y cyllid hwnnw yn y gorffennol. Erbyn hyn, mae gwariant gros ar ymchwil ac arloesi yng Nghymru ymhlith yr isaf o 12 rhanbarth y DU. Felly, o ystyried hyn, mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r bwlch enfawr hwn mewn cyllid a fydd yn peryglu ein gallu i ymchwilio ac arloesi. Felly, pam y mae Llywodraeth Cymru wedi cefnu ar y strategaeth a awgrymwyd gan adolygiad yr Athro Graeme Reid i fynd i'r afael â'r union sefyllfa hon? A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthyf pam y mae Llywodraeth Cymru wedi cefnu ar y strategaeth hon sydd â'r nod hirdymor o drawsnewid a chefnogi'r dirwedd ymchwil ac arloesi yn sefydliadau addysg uwch Cymru? Diolch.
Wel, nid fy maes polisi i yw hwn; un fy nghyd-Aelod Vaughan Gething ydyw, sydd wedi gwneud datganiad yn ddiweddar mewn perthynas ag ymateb y Llywodraeth i adolygiad Reid. Mae rhan o hynny'n ymwneud â gweithredu nifer o'r pwyntiau a argymhellodd yr Athro Reid yn yr adolygiad hwnnw, gan gynnwys mewn perthynas ag agor swyddfa yn Llundain yn benodol i gael mynediad at rai o'r cyfleoedd eraill sy'n codi yno a'r cynnydd mewn cyllid ymchwil o ansawdd, yr ydym wedi'i gynyddu uwchben yr hyn a argymhellodd yr Athro Reid, yn ôl yr hyn a gofiaf. Ond mae nifer o gyd-destunau eraill i ymateb y Llywodraeth i adolygiad Reid, a amlinellwyd gan fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, mewn datganiad diweddar. Felly, cyfeiriaf yr Aelod at y datganiad hwnnw.
Diolch. Mae aildrefnu ysgolion yn ardal Pontypridd wedi bod yn bwnc llosg ers blynyddoedd bellach. Un o'r prif bryderon yw cau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton yng Nghilfynydd, gan olygu y bydd rhaid i blant sydd yn byw yn Ynys-y-bŵl, Coed-y-cwm, Glyn-coch, Trallwn a Chilfynydd deithio milltiroedd yn bellach i dderbyn addysg Gymraeg. Cyflwynodd ymgyrchwyr dystiolaeth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o ba mor niweidiol yw hyn i addysg Gymraeg, gan annog y cyngor i agor ysgol newydd Gymraeg ar safle yng Nglyn-coch. Brynhawn yma, mae cabinet y cyngor wedi cymeradwyo ysgol Saesneg newydd ar yr union safle hwn ac yn gwrthod cyflwyno ffrwd Gymraeg ynddi.
I rwbio halen yn y briw, yn yr adroddiad sydd wedi mynd i'r cabinet, dywedwyd bydd yr ysgol newydd hon yn gwella darpariaeth Saesneg yn yr ardal a chynyddu capasiti Saesneg. O ble daw y disgyblion ychwanegol hyn os nad o addysg Gymraeg? Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu 81 y cant o gost yr ysgol newydd. Pa gamau sydd yn cael eu cymryd gennych i sicrhau nad yw'r Llywodraeth yn parhau i ariannu cynlluniau fel hyn sydd yn tanseilio addysg Gymraeg mewn ardaloedd lle mae dirfawr angen cynnydd, os ydym am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg? Ydych chi'n rhannu fy mhryder am y sefyllfa hon?
O ran cynlluniau strategol a phob awdurdod lleol yng Nghymru, byddaf yn gwneud datganiad ynglŷn â lle maen nhw, ar ôl yr adolygiadau sy'n mynd rhagddyn nhw ar hyn o bryd, o fewn yr wythnosau nesaf, cyd diwedd y tymor, ac mae hynny'n cynnwys cynlluniau cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd. Beth rydw i wedi'i ddweud yn y gorffennol yw ei bod yn bwysig ein bod ni'n sicrhau nid jest, fel petai, fod y niferoedd sy'n dysgu'r Gymraeg yn cynyddu ond bod daearyddiaeth—dosbarthiad iaith a mynediad i addysg Gymraeg—hefyd yn bwysig yn sgil y cynlluniau hynny yn y dyfodol. A byddaf eisiau gweld cynnydd o ran darpariaeth Gymraeg wrth edrych ar y cynnydd o fewn ystâd ysgolion Saesneg ar y cyd.
Mae cwestiwn 3 [OQ58207] wedi ei dynnu yn ôl. Cwestiwn 4, Joel James.