Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 22 Mehefin 2022.
O ran cynlluniau strategol a phob awdurdod lleol yng Nghymru, byddaf yn gwneud datganiad ynglŷn â lle maen nhw, ar ôl yr adolygiadau sy'n mynd rhagddyn nhw ar hyn o bryd, o fewn yr wythnosau nesaf, cyd diwedd y tymor, ac mae hynny'n cynnwys cynlluniau cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd. Beth rydw i wedi'i ddweud yn y gorffennol yw ei bod yn bwysig ein bod ni'n sicrhau nid jest, fel petai, fod y niferoedd sy'n dysgu'r Gymraeg yn cynyddu ond bod daearyddiaeth—dosbarthiad iaith a mynediad i addysg Gymraeg—hefyd yn bwysig yn sgil y cynlluniau hynny yn y dyfodol. A byddaf eisiau gweld cynnydd o ran darpariaeth Gymraeg wrth edrych ar y cynnydd o fewn ystâd ysgolion Saesneg ar y cyd.