Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 22 Mehefin 2022.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Ac rwy'n credu ei bod yn amlwg eich bod yn cytuno y bydd buddsoddi mewn adeiladau ysgolion cyfrwng Cymraeg yn allweddol os ydym am gyflawni o ddifrif a rhoi cyfle i bob rhiant a phlentyn gael addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi cynllun strategol uchelgeisiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn sir y Fflint. Tybed a wnewch chi roi sylwadau pellach, Weinidog, ynglŷn â sut y byddwch yn cefnogi'r cynllun hwn ac uchelgeisiau'r cyngor, a sut y byddech yn buddsoddi mewn ysgolion fel Ysgol Croes Atti yn Shotton, yn fy etholaeth i.