Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 22 Mehefin 2022.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach ac am ei ddefnydd o'r Gymraeg yn ei gwestiwn cyntaf. Mae awdurdod lleol sir y Fflint wedi ymrwymo yn eu cynllun strategol Cymraeg mewn addysg drafft i gynyddu canran y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg o 6.3 y cant ar hyn o bryd i 15 y cant o fewn y 10 mlynedd nesaf. Fe wnes i gyhoeddi'n ddiweddar, ym mis Mawrth, 11 o brosiectau a fydd yn elwa o'r grant cyfalaf addysg Gymraeg—cronfa o ryw £30 miliwn—a bydd sir y Fflint yn un o'r naw awdurdod lleol a fydd yn elwa o'r cyllid hwn. Mae elfen wedi ei dyrannu'n barod i sefydlu ysgol Gymraeg newydd, ac mae ardal Bwcle yn etholaeth yr Aelod yn un o'r opsiynau ar gyfer y lleoliad hwnnw. A bydd sir y Fflint hefyd yn cyflwyno'u hachos busnes er mwyn buddsoddi yn Ysgol Croes Atti, i gefnogi'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal, ac rwy'n edrych ymlaen i weld y cynllun hwnnw.