Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 22 Mehefin 2022.
Diolch i Heledd Fychan am godi'r cwestiwn. Fe welson ni yn ystod cyfnod y pandemig gynnydd o bron i 4,500 o bobl ifanc, sy'n cynrychioli bron i 20 y cant o'r cofrestriadau newydd, ar blatfform Gwirfoddoli Cymru, sy'n galonogol, dwi'n credu. Mae gwirfoddoli yn ffordd bwysig o ddangos gwerthoedd dinasyddiaeth, ac yn ran bwysig o'r broses ddemocrataidd cymunedol hefyd. Dwi'n cwrdd yn rheolaidd gyda chyrff gwirfoddoli trydydd sector trwy'r WCVA i drafod cyfleoedd gwirfoddoli a sut mae hynny ar gael i bobl ifanc hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi'n flaenoriaeth i gefnogi'r sector gwirfoddoli gyda phecyn o gefnogaeth ariannol sylweddol, ac mae fy nghydweithiwr y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi sefydlu grŵp traws-sector arweinyddol i edrych ar beth mwy gallwn ni ei wneud i esbonio gwerth gwirfoddoli, yn cynnwys i bobl ifanc hefyd.