Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 22 Mehefin 2022.
Diolch, Weinidog. Fel y byddwch chi'n ymwybodol, yn 2021, fe gomisiynodd ColegauCymru adroddiad oedd yn nodi bod nifer o ddysgwyr sy'n gwirfoddoli ers 2020 wedi colli cyfleoedd ymarferol i gymhwyso eu dysgu, gyda'r mwyafrif o'r rhain yn dod o gyrsiau chwaraeon. O ystyried bod Wythnos Gwirfoddolwyr wedi'i chynnal ar ddechrau'r mis hwn, ydych chi'n cytuno, Weinidog, bod rhaid i ni sicrhau bod y cyfleoedd hyn ar gael yn ehangach i ddysgwyr—dwi'n derbyn bod yna waith yn mynd rhagddo—a bod hyn yn bwysig nid yn unig ar gyfer nodau addysgol a'r cyfraniad at gymuedau, ond hefyd o ran iechyd meddwl a llesiant dysgwyr? Os felly, sut y gallwn sicrhau bod mwy o gyfleoedd ar gael iddynt?