Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 22 Mehefin 2022.
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae hyn yn dilyn ymlaen o gwestiwn a gawsoch gan Rhun yn gynharach am baratoadau ar gyfer yr arholiadau yr haf hwn, o ystyried bod nifer o adroddiadau pryderus iawn fod testunau gosod wedi bod ar goll mewn llenyddiaeth Saesneg safon uwch, fel yr amlinellwyd gennych eisoes, a bod y cynnwys yn annisgwyl i ddisgyblion—hynny mewn mathemateg, gyda'r anhawster, fel y nodoch chi eisoes, felly nid wyf am ei ailadrodd. Ond pa sicrwydd y gallwch ei roi i ddysgwyr heddiw fod y gwersi hynny wedi'u dysgu gan y bwrdd arholi, ac na fydd camgymeriadau'r bwrdd arholi yn cael eu hailadrodd y tro hwn ar gyfer dysgwyr TGAU? Diolch.