Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 22 Mehefin 2022.
Yn ogystal â'r addasiadau a gyhoeddwyd i gynnwys arholiadau a ffiniau graddau, rhoddwyd pecyn cymorth gwerth £24 miliwn ar waith, gan gynnwys yr ymgyrch Lefel Nesa. Mae'r buddsoddiad hwn wedi rhoi gwybodaeth, adnoddau arholiadau, a chynghorion i ddysgwyr i'w helpu i baratoi ar gyfer tymor arholiadau 2022.