6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Grymuso cymunedau

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 22 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:21, 22 Mehefin 2022

Fel y gwyddom ni oll, mae grwpiau cymunedol yn chwarae rôl bwysig a hanfodol yn ein cymunedau a hoffwn ddechrau drwy ddiolch, o waelod calon, i bob grŵp cymunedol sydd yn weithgar yn y rhanbarth rwyf yn ei gynrychioli. Ac er bod nifer o grwpiau cymunedol yn derbyn cefnogaeth gan awdurdodau lleol, mae nifer yn wynebu heriau hefyd. Yr hyn yr hoffwn i yn bersonol ei weld yn deillio o'r cynnig hwn yw ei gwneud hi'n haws i gymunedau berchnogi asedau lleol o werth cymunedol.

O fis Hydref 2021 i Ebrill eleni, fe dderbyniodd fy swyddfa 11 ymholiad gan grwpiau cymunedol yn ceisio cymorth yn benodol o ran y broses trosglwyddo asedau cymunedol. Mae un enghraifft o grŵp cymunedol sydd eisiau achub caeau chwarae lleol a'u hadfer ar gyfer deunydd cymunedol, tra bod y cyngor lleol, sydd berchen y tir, eisiau gwerthu'r tir ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol. Profiad y grŵp cymunedol hwn oedd bod swyddogion y cyngor, oedd i fod i gefnogi trosglwyddo asedau cymunedol, wedi cael eu cyfaddawdu oherwydd bod barn bendant gan y cyngor o ran dyfodol y llecyn hwnnw o dir. Ble, felly, oedd y gefnogaeth ar gyfer y grŵp penodol hwn?

Yn wir, mae tir yn cael ei werthu'n rheolaidd gan gynghorau lleol heb i gymunedau fod yn ymwybodol nac ychwaith gael cyfle i'w diogelu fel asedau cymunedol. Mae llawer o'r rhain yn ddarnau bychan o dir o fewn cymunedau presennol sy'n cael trafferth gyda materion lluosog megis parcio, mynediad i wefru cerbydau trydan, ac, wrth gwrs, efo'r argyfwng costau byw, ddim efo llecyn er mwyn tyfu bwyd yn lleol. Byddai hawl cymunedol i brynu yn ei gwneud yn ofynnol i adrannau ystadau ymgysylltu â chymunedau lleol ynghylch cynlluniau i werthu parseli o dir, ac ymgysylltu â'r gymuned i sefydlu diddordeb a phenderfynu sut y gellid defnyddio asedau o'r fath i ddiwallu anghenion lleol.

Mae grŵp arall a gysylltodd â'm swyddfa newydd sicrhau'r brydles ar eu hased cymunedol, bum mlynedd ar ôl dechrau eu trafodaethau â'r awdurdod lleol. Gall y broses hirfaith hon roddi pwysau aruthrol ar wirfoddolwyr sy'n rhan o grwpiau cymunedol a rhoi cyllid y mae dirfawr ei angen arnynt mewn perygl, a hefyd bygwth dyfodol yr asedau y mae cymunedau'n gweithio'n galed i'w hachub, oherwydd rydym ni'n gwybod eu bod nhw'n mynd i ddirywio os nad ydy'r buddsoddiad yna'n dod tra maen nhw'n aros penderfyniad gan y cynghorau lleol.

Profiad cymunedau sydd wedi cysylltu â mi, felly, yw bod rhai awdurdodau lleol yn trin cymunedau fel pe baent yn endidau masnachol yn hytrach na fel rhan allweddol o'r gymuned y mae'r awdurdod wedi ymrwymo i’w gwasanaethu. Mae'n sicr bod yn rhaid inni roi rhyw fesur ar waith. Dydy'r system fel y mae hi ddim yn gweithio, a dwi'n ddiolchgar i Mabon ap Gwynfor am godi'r pwnc pwysig eithriadol hwn. Wedi'r cyfan, rydym ni i gyd yn elwa os ydym ni'n grymuso ein cymunedau. Rydym ni i gyd yn elwa os ydy adeiladau hanesyddol neu ddarnau o dir yn cael defnydd sydd er budd i ni oll. Felly dwi'n falch iawn o gefnogi, ond mae angen hefyd gweld gweithredu gan y Llywodraeth ar hyn. Diolch.