Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 22 Mehefin 2022.
Dwi ddim am dreulio gormod o amser yn lladd ar y Llywodraeth. Mae hynny'n beth hawdd iawn i wneud, o ran gwleidyddiaeth y peth, ond y gwir ydy fy mod i wirioneddol am weld hyn yn cael ei weithredu mor fuan â phosib, a dim ond y Llywodraeth all wneud hynny. Felly, dwi ddim yn meddwl y caf i lawer o lwyddiant drwy fwrw sen arnyn nhw am funudau olaf y drafodaeth.
Ond mae'n rhaid nodi, cyn mynd ymhellach, ei fod yn hen bryd i'r Llywodraeth wireddu'r addewidion sydd wedi cael eu gwneud. Oes, mae yna gamau mewn lle, megis y community asset transfer, sydd, ar bapur, yn galluogi cymunedau i gymryd perchnogaeth o eiddo pan fo awdurdod lleol neu gorff cyhoeddus yn cael gwared ohono. Ond, a dwi'n siarad o brofiad personol fan hyn, mae'n broses lafurus ac anodd iawn, iawn i weithredu gan filwrio yn erbyn grwpiau cymunedol, gyda llawer yn rhoi'r ffidil yn y to cyn gwireddu'u huchelgais. Dwi'n gwybod hyn o brofiad. Mae Heledd wedi sôn am y profiadau yna yn ei chyfraniad hithau hefyd.
Mae dros 10 mlynedd wedi mynd heibio ers i Gomisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu er mwyn galluogi cymunedau i restru eu hasedau cymunedol a chael y cynnig cyntaf, wrth i asedau cymunedol ddod ar y farchnad. Mae'n saith mlynedd ers i'r Gweinidog, ar y pryd, dros gymunedau a thaclo tlodi gyhoeddi gwaith ymgynghori ar y syniad o ddatblygu polisi Cymreig i rymuso cymunedau, gan ddweud bod yna gefnogaeth gref i'r syniad o sefydlu cynllun fyddai'n rhoi moratoriwm ar werthu asedau tra bod grŵp lleol yn trefnu ei hun i wneud cais i'w brynu. Yn wir, rhoddwyd ymrwymiad y byddai fframwaith deddfwriaethol yn cael ei roi mewn lle i ddatblygu cynllun asedau o werth cymunedol yma, ac y byddai hynny'n digwydd yn dilyn etholiadau 2016. Ond, a ninnau bellach yn 2022, mi rydym ni dal yn aros.
Mae gan yr Alban ddeddfwriaeth sydd wedi bod mewn lle ers dros 20 mlynedd, fel ddaru fy nghyfaill Peredur sôn, ac wedi cael ei gryfhau ers hynny. Mae gan gymunedau ar draws yr Alban, yn wledig ac yn drefol, yr hawl gyntaf i roi ceisiadau am dir ac asedau cymunedol efo cofrestr o eiddo a thir cyhoeddus. Ac mae degau o filiynau o bunnoedd yn cael eu rhoi tuag at gynorthwyo grwpiau cymunedol yno a chymorth ymarferol yn cael ei roi hefyd. Dyma sydd ei angen yma. Mae llawer o hyn yn digwydd yn organig yma yng Nghymru, ar lawr gwlad, ond mae angen dealltwriaeth o'r systemau, ac, yn fwy na dim, mae'n cymryd dygnwch, amser ac ymroddiad, sydd ddim efo nifer o bobl.
Dwi am gymryd y cyfle yma, os caf i, i dalu teyrnged i un a wnaeth yr amser ac a ddaeth i ddeall y system, tad y mudiad gweithredu cymunedol yng Nghymru fodern, os leiciwch chi, y diweddar Dr Carl Clowes, a weithiodd mor galed er mwyn ailfywiogi cymuned Llanaelhaearn, drwy sefydlu Antur Aelhaearn, ac yna mynd ymlaen i sefydlu Nant Gwrtheyrn. Ef hefyd, gyda llaw, oedd un o sylfaenwyr Dolen Cymru, efo'r berthynas odidog yna rhwng Lesotho a Chymru. Bu farw Carl yn gynharach eleni, ond am waddol ar ei ôl. Ef a chriw gweithgar Llanaelhaearn sefydlodd y fenter gymunedol gydweithredol gyntaf yn y Deyrnas Gyfunol ar ôl gweld difrod a'r niwed a grëwyd wrth i'r chwareli gwenithfaen gau yn yr ardal. Ysbrydolodd y gymuned i ddod ynghyd, a chreu menter o dan berchnogaeth leol, oedd, ar un pwynt, yn gwerthu dillad a nwyddau i rai o siopau mwyaf Efrog Newydd a Pharis. Dwi'n falch dweud bod y fenter, Antur Aelhaearn, yn parhau i weithredu yn Llanaelhaearn hyd heddiw.
Gŵyr pawb, gobeithio, am hanes rhyfeddol Nant Gwrtheyrn, wrth i Carl a'r criw adfeddiannu'r hen bentref diarffordd hwnnw, a'i droi yn ganolfan dysgu Cymraeg cwbl lwyddiannus, gan nid yn unig rhoi bywyd newydd i adeiladau ond i gymuned, i bobl ac i iaith. Mae gwaddol Carl a gwaith yr antur i'w weld heddiw, o dafarndai cydweithredol Y Fic yn Llithfaen, Pengwern Cymunedol yn Llan Ffestiniog, Y Plu yn Llanystumdwy a'r Heliwr yn Nefyn i waith cwmni Bro Blaenau Ffestiniog a'r dwsinau o fentrau cydweithredol sydd yn britho Gwynedd.
Dyma'r ysbryd sydd angen ei harnesu: yr ysbryd cydweithredol, cymunedol, fel ddaru Peredur sôn. Mae'r awydd a brwdfrydedd a'r cariad at fro yno. Rhaid inni ond edrych ar y gwaith cymunedol rhagorol a wnaed mewn cymunedau yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wrth i gymunedau adnabod y gwendidau a dod ynghyd i ofalu am ei gilydd, fel ddaru Sam sôn yn ei gyfraniad.
Sawl gwaith ydyn ni wedi clywed sgyrsiau yn y tŷ tafarn neu wrth giât yr ysgol, gyda pobl yn sôn am dafarn, hen sinema, garej, hen westy, hen gapel neu darn o dir gwag yn sefyll yn segur, a hwythau’n dweud, 'Dwi'n siŵr bod yna rhywbeth y fedrwn ni ei wneud efo'r deunydd hwnnw'?
Sawl gwaith ydyn ni wedi gweld adeiladau sydd ag iddyn nhw bwysigrwydd hanesyddol lleol yn cael eu dymchwel er mwyn codi blociau o swyddfeydd neu fflatiau moethus, fel ddaru Jenny sôn yn ei chyfraniad? Rhaid inni ond fynd allan i ganol Caerdydd i weld y difrod pensaernïol a diwylliannol yma wrth inni golli nifer o'n hen adeiladau.
Mae'n stori llawer rhy gyfarwydd, ac yn anffodus mae'n un sydd wedi gwaethygu dros y 10 mlynedd ddiwethaf, fel ddaru Janet sôn yn ei hymyrraeth, wrth i awdurdodau lleol orfod gwerthu asedau er mwyn gwneud i fyny am golledion ariannol yn sgil y toriadau a gafwyd. Ond mae gan y Llywodraeth yma'r gallu i weithredu a sicrhau bod cymunedau yn cael eu grymuso i gymryd perchnogaeth o'r asedau yma a'u datblygu ar gyfer budd cymunedol.
A beth sydd o ddiddordeb i fi yn benodol ydy'r posibilrwydd cyffrous gwirioneddol y gall cymunedau gychwyn datblygu tai fforddiadwy i gyfarch y galw yn eu cymuned. Meddyliwch am hynny. A ninnau'n dioddef argyfwng tai ac argyfwng costau byw—ill dau'n gysylltiedig, gyda llaw—meddyliwch beth fedrai cymunedau, wrth iddyn nhw adnabod anghenion lleol a chael parsel o dir i ddatblygu tai o'r maint perthnasol ar gyfer eu trigolion, ei wneud. Nid elw fyddai yn eu cyflyru, ond yr angen i roi to uwchben eu teulu a'u cymdogion. Nid breuddwyd gwrach mo hyn; mae'n bosibilrwydd go iawn.
Meddyliwch am y posibilrwydd, drwy Ynni Cymru, i alluogi cymunedau i ddatblygu eu hynni eu hunain, a'r budd economaidd cymunedol a ddaw yn sgil hynny, neu meddyliwch am Gymru wedi'i britho â siopau, sinemâu, rhandiroedd, canolfannau hamdden cydweithredol, yn creu swyddi o ansawdd, efo'r pres wedi’i gloi mewn yn y gymuned.
Dwi yn croesawu cyfraniad y Gweinidog, a dwi'n falch o glywed na fydd y Gweinidog yn gwrthwynebu'r cynnig. Ddaru'r Gweinidog sôn am a chanmol sir y Fflint yn cynnig rhestr o'r asedau. Wel, beth am ddilyn esiampl sir y Fflint a sicrhau bod yna restr genedlaethol o'r asedau cymunedol ar gael? Pam ddim dilyn arweiniad sir y Fflint?
Diolch hefyd i Huw Irranca-Davies am bwysleisio'r angen am ddeddfwriaeth. Dwi heb glywed yma heddiw gan y Gweinidog beth ydy bwriadau'r Llywodraeth o ran deddfwriaeth, ond dwi'n gobeithio bod yna sgôp yno inni weithio arni yn symud ymlaen. Felly, i chi, Weinidog, ac i'r Llywodraeth, cydiwch yn y cyfle yma—cyfle i ddatblygu polisi a, gobeithio, deddfwriaeth sydd efo’r potensial i wyrdroi rhagolygon ein cymunedau a’n trigolion yma yng Nghymru.
Buasai’n dda gweld deddfu yn y maes, wrth gwrs—deddfwraeth grymuso cymunedau, yn cynnwys cofrestr o asedau cymunedol a’r gallu i gymunedau gael y cynnig cyntaf ar asedau, deddfwriaeth wedi cael ei chyd-greu efo’n cymunedau fydd yn sicrhau ei bod hi'n bosib trosglwyddo asedau yn syml i grwpiau cymunedol strwythyredig, ac, ie, efo cymalau fydd yn golygu nad ydyw’r eiddo hynny yn cael ei golli o reolaeth gyhoeddus. Sicrhewch fod y gyllideb yno, ond hefyd y cymorth ymarferol i hebrwng cymunedau ar hyd y daith, gan sicrhau mai nhw sydd mewn rheolaeth. Diolch yn fawr iawn.