Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 22 Mehefin 2022.
Mae'n bleser cael cloi y ddadl yma heddiw, a dwi eisiau diolch i Luke Fletcher am agor y ddadl mor huawdl, ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu. Dwi am ddweud, cyn mynd ymlaen i sylwedd y pwnc, y byddai Buffy Williams wedi hoffi bod yma heddiw, ac mae Buffy yn ganolog i'r cynnig. Mae hithau yn gyforiog o brofiad yn y maes, ac mi fuasai wedi cyfoethogi'r ddadl yma. Felly, diolch iddi am ei chydweithrediad a chymorth wrth gyrraedd y pwynt hwn.