– Senedd Cymru am 3:49 pm ar 22 Mehefin 2022.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 7, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Adroddiad Blynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru'.
Diolch yn fawr, Llywydd—neu Dirprwy Lywydd dros dro, dylwn i ddweud. Diolch i chi am y cyfle i gyflwyno'r arddodiad yma. Hwn yw'r adroddiad cyntaf ar Cyfoeth Naturiol Cymru y mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi'i gyhoeddi yn ystod y Senedd yma, ac mae yn rhywbeth, wrth gwrs, rŷn ni'n bwriadu ei gyhoeddi yn flynyddol. Ac fe fydd hynny wedyn yn cael ei ddilyn, fel heddiw, â dadl, ac mi fydd yna gyfle i Aelodau godi unrhyw faterion perthnasol gyda'r Gweinidog, wrth gwrs, fan hyn yn y Siambr yn ymwneud â Cyfoeth Naturiol Cymru.
Nawr, yn ein hadroddiad ni eleni rŷn ni'n sôn, ymhlith pethau eraill, am y digwyddiad yn 2020 ar afon Llynfi. Mae'r Llynfi yn isafon i’r afon Gwy, a gwnaethon ni glywed ddoe, gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog, am ofidiau ynglŷn â chyflwr yr afon honno. Ond mae'r Llynfi yn un o'r safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, sydd wedi'i leoli mewn ardal cadwraeth arbennig. Ac, ym mis Gorffennaf 2020, fe laddwyd 45,000 o bysgod a chreaduriaid eraill mewn digwyddiad llygredd ar yr afon.
Nawr, mi fuodd yna oedi o 13 awr cyn i swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru gyrraedd y lleoliad ar ôl codi’r larwm. Mi ddywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrthym ni mai'r rheswm am yr oedi oedd bod swyddogion yn ymateb i ddigwyddiadau llygredd eraill â blaenoriaeth uchel a bod pryderon hefyd ynghylch iechyd a diogelwch yr un swyddog oedd ar gael. Fe ddaeth ymchwiliad gan Cyfoeth Naturiol Cymru i'r casgliad nad oedd unrhyw obaith realistig o ffeindio unrhyw gwmni neu unigolyn yn euog o achosi'r llygredd, a fyddwn ni byth yn gwybod pa dystiolaeth y gallai fod wedi'i chanfod heb yr oedi cyn ymchwilio i’r digwyddiad hwn. Nawr, dwi ddim yn ailadrodd y manylion yma er mwyn bod yn feirniadol o Cyfoeth Naturiol Cymru a'i staff. Dwi'n gwybod bod staff Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’u digalonni’n llwyr fod y llygrwyr heb eu cosbi am y dinistr a achoswyd. Ond, wrth gwrs, mae'n enghraifft bwysig o beth yw gwir effaith diffyg adnoddau a diffyg capasiti.
Rhwng 2013, pan gafodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei greu, a 2020, mae cyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gostwng mwy na thraean—mwy na thraean. Ac wrth i'w gyllideb fynd i un cyfeiriad, roedd y gwaith y gofynnwyd i'r corff ei wneud yn mynd i'r cyfeiriad arall. Dros y blynyddoedd, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi pentyrru cyfrifoldebau a dyletswyddau ychwanegol ar y corff. Nawr, dwi ac eraill fan hyn wedi gwneud yr achos dro ar ôl tro yn y Siambr yma, ac mewn gwahanol bwyllgorau, fod yn rhaid, felly, edrych o ddifrif ar gyllid Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r pwyllgor, felly, yn falch bod y Gweinidog o’r diwedd wedi penderfynu cynnal adolygiad sylfaenol, neu baseline review, i fapio dyletswyddau a swyddogaethau statudol Cyfoeth Naturiol Cymru yn erbyn ei gyllideb. Ac mae'n dda bod y Gweinidog wedi cydnabod bod cynnydd graddol wedi bod yn yr hyn y gofynnir i Cyfoeth Naturiol Cymru ei gyflawni.
Nawr, mae'r pwyllgor o'r farn bod angen mawr am yr adolygiad yma. Mi fuodd galw cynyddol gan randdeiliaid am adolygiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae rhai ohonyn nhw wedi dweud wrthym ni eu bod nhw'n colli hyder yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau. Nid beirniadaeth o’r staff oedd hynny, ond jest mater o ddiffyg capasiti a diffyg adnoddau. Rŷn ni'n gobeithio felly y bydd yr adolygiad sylfaenol, ar ôl ei gwblhau, yn rhoi eglurder ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'r math o sefydliad y mae'r Llywodraeth yn fodlon talu amdano fe.
Mae hwn felly yn ddatblygiad cadarnhaol iawn, ond roedd hi efallai yn siomedig, wrth edrych ar y print mân yn ymateb y Gweinidog, na fydd yr adolygiad, wrth gwrs, yn dod i ben tan ddiwedd y flwyddyn ariannol 2022-23. Gallaf ddeall y rhesymeg dros yr amseru, ond mae'r cynnydd rŷn ni'n ei weld yn hyn o beth yn boenus o araf, ac mae gwir angen inni weld mwy o frys yn fan hyn, yn enwedig gan fod Aelodau wedi bod yn codi'r gofidiau yma ers blynyddoedd erbyn hyn, a dweud y gwir.
Wrth gwrs, dyw'r adolygiad sylfaenol yma ddim chwaith o reidrwydd yn golygu y bydd mwy o arian ar gael ar ddiwedd y broses. Rŷn ni fel pwyllgor wedi argymell bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y cyllid ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru yn gymesur â'i rolau a'i gyfrifoldebau, ac rŷn ni'n disgwyl gweld cynnydd priodol yng nghyllid Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn yr adolygiad sylfaenol. Mae'r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad yma mewn egwyddor, wrth gwrs ei bod hi—pwy fyddai ddim, yntefe? Mae'n gwbl resymol disgwyl i unrhyw sefydliad gael ei ariannu'n briodol ar gyfer y gwaith y gofynnir iddo fo ei wneud, onid yw e? Ond, wrth gwrs, nid dyna fuodd hanes Cyfoeth Naturiol Cymru hyd yma. Dwi'n falch bod y Gweinidog wedi dweud wrthym ni ei bod hi'n agored i edrych ar lefelau cyllid a modelau ariannu fel rhan o'r adolygiad sylfaenol hwn, ond, heb ymrwymiadau yn y maes yma, wrth gwrs, wel, mae'r cwestiwn yn dal yna: ai ymarferiad academaidd yw hwn neu a welwn ni newid a gwahaniaeth gwirioneddol?
Mae cwpwl o bwyntiau yn cael eu codi yn yr adroddiad o safbwynt llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru. Mi wnaethon ni groesawu cyflwyno llythyr cylch gorchwyl ar gyfer tymor llawn y Llywodraeth. Mae hynny'n gam cadarnhaol iawn, ac mae e'n mynd i roi mwy o sicrwydd wrth gynllunio yn y tymor canolig, sydd wrth gwrs yn rhywbeth i'w groesawu. Mae fersiynau nesaf cynllun corfforaethol a chynllun busnes Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u gohirio, serch hynny. Ond, gan ein bod ni bellach yn gwybod na fydd yr adolygiad sylfaenol yn dod i ben tan ddiwedd y flwyddyn ariannol yna, dwi yn credu bod angen mynd i'r afael â hyn, ac mi fyddaf i, wrth gwrs, yn trafod hyn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru maes o law.
Fe ddywedwyd wrthym ni y bydd materion staffio yn cael eu hystyried yn sgil yr adolygiad sylfaenol, ac rŷn ni’n deall, wrth gwrs, fod hyn yn rhan angenrheidiol o'r broses. Ond dim ond yn ddiweddar y gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru fynd trwy broses ad-drefnu sefydliadol. Felly, rŷn ni yn pryderu y bydd cylch arall o ailstrwythuro yn ei gwneud hi'n anoddach fyth i Cyfoeth Naturiol Cymru ganolbwyntio ar ei waith craidd.
Nawr, dwi'n gobeithio fy mod i wedi ymdrin â phrif themâu ein hadroddiad ni yn yr amser sydd ar gael i mi, gan gofio mai hanner awr sydd gennym ni ar gyfer y ddadl yma prynhawn yma. Ond y cwestiwn nawr, felly, wrth gwrs, yw: ble mae hyn yn ein gadael ni erbyn hyn, wrth i ni agosáu at ddiwedd degawd cyntaf Cyfoeth Naturiol Cymru? Allaf i ddim credu fy mod i'n dweud hynny—agosáu at ddegawd o Cyfoeth Naturiol Cymru. Wel, mae rhywfaint o newyddion da. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn derbyn erbyn hyn bod bwlch wedi agor rhwng yr hyn y gofynnir i Cyfoeth Naturiol Cymru ei wneud a'r cyllid y mae'n ei gael. Mae hynny yn bositif. Mae camau cadarnhaol hefyd yn cael eu cymryd ynghylch trefniadau llywodraethu, fel roeddwn i'n dweud, yn enwedig o ran y llythyr cylch gwaith ar gyfer tymor llawn y Llywodraeth.
Ond, fel roeddwn i'n dweud yn gynharach, os edrychwch chi ar y print mân, efallai nad yw’r darlun mor gadarnhaol, yn yr ystyr na fydd yr adolygiad yn cael ei gwblhau tan ddiwedd y flwyddyn ariannol, ac efallai na fydd cynnydd yn y gyllideb hyd yn oed ar ddiwedd y broses honno. Ac os na fydd yna gyllideb ychwanegol, wrth gwrs, yna, man lleiaf dwi'n gobeithio, y bydd y Llywodraeth yn barod i ddweud wrth Cyfoeth Naturiol Cymru beth does dim angen iddyn nhw ei flaenoriaethu wrth gyflawni eu dyletswyddau.
Ond, flwyddyn o nawr, beth bynnag, rwy'n gobeithio y byddaf yn dweud wrthych chi am ddyfodol gwahanol iawn i Cyfoeth Naturiol Cymru. Ond, rwy'n pryderu, er gwaethaf y synau cadarnhaol rŷn ni'n parhau i'w clywed, y bydd taith Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau, efallai, i fod yn heriol ac yn anodd. Ac os bydd hynny'n digwydd, yna, wrth gwrs, y cwestiwn dwi a'r pwyllgor yn ei ofyn yw: pwy a ŵyr faint yn rhagor o ddigwyddiadau y byddwn yn eu gweld fel yr un ar afon Llynfi? Diolch.
Galwaf yn awr ar Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn yn wir, a diolch i Llyr am gadeirio’r dystiolaeth a glywsom yn yr ymchwiliad hwn i CNC ac am gyflwyno’r adroddiad hwn, a hefyd i'n tîm clercio a’r rheini a roddodd dystiolaeth i ni. Ar yr un pryd â'n bod yn wynebu ergyd ddwbl yr argyfwng hinsawdd ac argyfwng natur a bioamrywiaeth, mae ein hadroddiad yn nodi'n bendant fod taer angen aildrefnu cyllid a strategaeth CNC er mwyn mynd i'r afael â'r argyfyngau hyn. Felly, wrth gyflwyno’r adroddiad hwn, credwn fod gennym gyfle mawr ei angen yn awr i aildrefnu'r trefniadau ariannu ar gyfer CNC er mwyn ei roi ar sylfaen sefydlog yn awr ac yn y dyfodol ac i alluogi CNC i wneud ei waith yn iawn, a hynny mewn modd effeithlon a gwyrdd iawn.
Ychydig yn llai na degawd ar ôl uno Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru yn 2013—rhywbeth a oedd yn ddadleuol iawn ar y pryd, wrth gwrs—mae ein hadroddiad bellach yn nodi cryn bryder ar hyn o bryd ymhlith rhanddeiliaid ynghylch
'ei allu i fonitro a gorfodi cyfreithiau diogelu'r amgylchedd; ymateb i achosion o lygredd amgylcheddol a llifogydd; monitro ac asesu cyflwr safleoedd daearol a morol; a chefnogi defnydd tir a chynllunio morol.'
Serch hynny, mae CNC effeithiol, deinamig, pwrpasol a chanddo adnoddau digonol yn hanfodol i lwyddiant yr ymateb i’r argyfyngau natur a bioamrywiaeth sy’n ein hwynebu, yn ogystal â diogelu pobl.
Yn ystod y gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd wrth y pwyllgor y byddai adolygiad sylfaenol yn mynd i’r afael â’r cwestiwn ynglŷn ag a yw CNC yn gallu arfer ei ystod enfawr o ddyletswyddau a chyfrifoldebau yn effeithiol, gan edrych ar sut y caiff adnoddau CNC eu dyrannu yn erbyn ei swyddogaethau statudol ac ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu. Daw'r adolygiad i ben cyn mis Ebrill 2023. Fel y dywed y Cadeirydd, mae hynny beth amser i ffwrdd, ond os oes angen iddo gymryd amser, yn gyndyn, gwnewch hynny'n briodol ac aildrefnwch, ond gwnewch hynny'n dda iawn; ni allwn wastraffu mwy o amser. Mae ymateb ysgrifenedig y Gweinidog i’n hadroddiad wedi ychwanegu rhagor o fanylion at hynny, ac rydym yn ddiolchgar amdano. Ond rydym hefyd yn nodi bod CNC wedi dweud wrthym fod diweddariadau i’w gynllun busnes a chorfforaethol a’i lythyr cylch gwaith wedi’u gohirio oherwydd yr adolygiad sylfaenol hwn. Felly, ni allwn oedi ymhellach y tu hwnt i'r amserlenni y mae'r Gweinidog wedi'u disgrifio.
Weinidog, a gaf fi ofyn i chi: sut y mae CNC a’i gyfrifoldebau a’i gylch gwaith cyffredinol yn sicrhau bod y gwaith o ddiogelu a gwella’r amgylchedd naturiol a gwasanaethau ecosystemau yn cael ei ddatblygu, ochr yn ochr â’u buddiannau masnachol mewn pren ac ynni adnewyddadwy ac yn y blaen, ac nad yw natur yn cael ei pheryglu o ganlyniad i'r dull o weithredu'r fantolen?
Ar y gweithlu, dywedodd CNC wrth Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd—ac fe wnaethom nodi hyn—y byddai gorfodi’r rheoliadau llygredd amaethyddol diweddar yn ofyniad enfawr o ran llwyth gwaith, y byddai angen 60 o staff ychwanegol i ddarparu’r isafswm cynnyrch ymarferol, ac ymhell dros 200 i gyflawni'r rôl yn llawn. Canfu adolygiad CNC o lifogydd ym mis Chwefror 2020 y byddai angen 60 i 70 o staff ychwanegol er mwyn sicrhau gwelliannau cynaliadwy hirdymor ym maes rheoli llifogydd. Yn fwy cyffredinol, Weinidog, ceir pryderon sy'n cael eu dwyn i'n sylw yn rheolaidd ynghylch staff wedi'u defnyddio'n rhy eang ar draws y gwahanol feysydd yn CNC. Felly, Weinidog, cwestiwn syml iawn: a oes gennym ddigon o staff ac arbenigedd yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn gyda CNC?
Mae cyflwr ein hafonydd ac effaith gronnol carthion a llygredd amaethyddiaeth, datblygiadau a diwydiant wedi cael digonedd o sylw yn y Senedd yn barod yr wythnos hon, ac mae’n dda clywed yr wythnos hon am rywfaint o’r gwaith y mae’r Gweinidog wedi’i gomisiynu eisoes, ac am Lywodraeth Cymru yn achub ar gyfleoedd newydd yn y drefn reoleiddiol i gryfhau dyletswyddau cwmnïau dŵr, ac y bydd y Prif Weinidog ei hun yn cadeirio uwchgynhadledd ffosffad yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, ond mae ymyrraeth amserol yn hollbwysig, fel y clywsom gan y Cadeirydd. Felly, pa amserlenni y mae hi wedi’u gosod iddi hi ei hun ac i CNC a chyrff eraill ar gyfer gwrthdroi’r dirywiad yn ein hafonydd—a dywedaf hyn fel hyrwyddwr yr eog y Senedd hon, wrth gwrs—ac ar gyfer sicrhau gwelliannau yn ein hafonydd?
Yn olaf, Weinidog, y flwyddyn nesaf bydd hi'n 10 mlynedd ers creu CNC, pan ddaethpwyd â’r tri sefydliad gwahanol hynny ynghyd. Ai dyma’r flwyddyn—ar ôl yr adolygiad sylfaenol a’r aildrefnu mawr ei angen—y gallwn ddathlu CNC sydd wedi'i adnewyddu, ei adfywio, yn addas i'r diben yn awr ac ar gyfer y dyfodol? Diolch yn fawr.
Hoffwn i ddiolch eto i Gadeirydd y pwyllgor, fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, ac i'r tîm clercio am eu gwaith ar y pwnc yma. Beth ddaeth yn glir inni fel pwyllgor—fel sydd wedi cael ei osod mas yn barod—ydy bod NRW yn wynebu nifer o rwystrau, nifer o gymhlethdodau, sy'n ei gwneud hi'n anodd i'r corff wneud ei waith. Mae NRW yn rheolydd pwysig, ond fel mae Llyr Gruffydd, y Cadeirydd, wedi gosod mas, mae cyllideb NRW wedi lleihau fwy na thraean rhwng yr adeg pan gafodd ei greu a 2020.
Ond, ar yr un pryd ag y lleihawyd y gyllideb, cynyddwyd y nifer o gyfrifoldebau a oedd dan orchwyl y corff. Dydy hynny ddim yn gynaliadwy. Dyw e ddim yn caniatáu i NRW weithio mewn ffordd effeithlon. Mae hyn wedi cael ei amlygu mewn cymaint o'r dadleuon rydyn ni wedi'u cael yn y Senedd. Mae problemau di-ri wedi codi dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf yn ymwneud â llifogydd, llygredd amgylcheddol a defnydd tir. Ac oes, mae yna duedd i feddwl, 'Wel, jest stwff technegol ydy hyn.' Ond na, mae'n effeithio ar fywydau pobl. Mae'n effeithio ar ansawdd bywyd ein cymunedau, ar ddiogelwch ein hamgylchfyd ac ar y cysylltiad rŷn ni'n ei deimlo gyda'r byd naturiol o'n cwmpas. Nid rhywbeth pell, anghysbell ydy hyn. Mae'n rhywbeth hollbwysig.
Mae rhanddeiliaid yn teimlo bod diffyg hyder, efallai, yng ngallu NRW i wneud yr hyn y disgwylir iddyn nhw ei wneud. A buaswn i'n dweud eto, fel mae'r Cadeirydd wedi'i ddweud, dydy hyn ddim mewn unrhyw ffordd yn feirniadaeth ar yr aelodau staff sy'n gweithio i NRW. Clywsom fod dashboard yng nghynllun busnes NRW; hynny yw, dashboard sy’n mesur eu cynnydd neu eu progress nhw wrth gyflawni eu gwaith. Mae'r dashboard yn defnyddio system goleuadau traffig. O'r 35 o fesurau ynddo, mae dau yn goch. Rhaid inni weld symudiad ar y rhain, yn enwedig—fel mae Huw Irranca-Davies wedi bod yn gosod mas—yr archwiliadau sy'n ymwneud â dŵr.
Pan fydd y Gweinidog yn ymateb i'r ddadl, buaswn i'n hoffi clywed barn y Llywodraeth ar unrhyw gynnydd sydd wedi bod yn y meysydd hynny. A buaswn i'n hoffi cael diweddariad ar unrhyw waith sy'n cefnogi NRW i fynd i'r afael â llygredd afonydd. Mae hynny'n rhywbeth sydd wir wedi peri gofid mawr inni fel pwyllgor. Buasai hefyd yn help i glywed mwy am sut y bydd y Llywodraeth yn cefnogi NRW i ddelio â llygredd ffosfforws.
Mae'n amlwg bod toriadau cyllidebol wedi arwain at fethiant NRW i ymdrin â'r cyfrifoldebau niferus neu i fonitro mewn ffordd ddigonol. O ganlyniad, rŷm ni'n gwaedlifo bywyd gwyllt. Dywedodd adroddiad NRW, yn y llefydd lle maen nhw'n dal gwybodaeth, fod 60 y cant o ardaloedd amddiffynedig mewn cyflwr anffafriol. Llynedd, clywsom fod bron i hanner o'r safleoedd amddiffynedig ddim yn cael eu monitro. Rhaid rhoi'r arian angenrheidiol i NRW i wneud y gwaith maen nhw i fod i'w wneud ac maen nhw angen ei wneud. Os nad ydyn ni'n gweithio mewn ffordd chwyldroadol nawr i amddiffyn, i achub ein bioamrywiaeth, bydd hi'n diflannu. Bydd hi ddim yn dod nôl.
Felly, fe wnaf i orffen trwy ofyn un cwestiwn arall i'r Llywodraeth: sut bydd y Llywodraeth yn gwarantu'r cefnogaeth angenrheidiol i NRW? Ydyn nhw'n cydnabod bod angen newid syfrdanol yn y sefyllfa os ydy bywyd gwyllt Cymru am oroesi?
Dwi eisiau diolch i Llyr Gruffydd, a hefyd y pwyllgor, a hefyd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru am eu gwaith. Mae Llyr, Huw a Delyth wedi cyffwrdd ar elfennau yn fy nghyfraniad.
Oherwydd roeddwn eisiau canolbwyntio ar afonydd, ac rydym wedi clywed gan Huw a Delyth a Llyr am afonydd. Hoffwn sôn yn fyr am afon Gwy, sydd yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli. Mae'n parhau i ddirywio, ynghyd ag Afon Wysg, sydd mewn cyflwr ofnadwy, ac ym mis Gorffennaf 2020, cafodd 45,000 o bysgod eu canfod yn farw yn afon Llynfi.
Rwy'n arbennig o bryderus, fel y clywsom gan y cyfranwyr eraill, nad oes gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn y cyd-destun hwn, arfau i gyflawni'r pwerau rheoleiddio a gorfodi a roddwyd iddo. Dywedodd prif swyddog gweithredol CNC, Clare Pillman, fod cymorth grant CNC wedi gostwng 30 y cant mewn termau real ers creu CNC. Ychwanegwch at hynny fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfrifoldebau craidd ychwanegol i CNC, ond nid yw'r rhain wedi'u hadlewyrchu yn nyraniad cyllideb CNC. Byddai rheoliadau llygredd amaethyddol 2021 eu hunain yn galw am 60 aelod newydd o staff fel y nifer lleiaf sydd eu hangen yn ymarferol i orfodi'r rheoliadau hyn. Ond mae CNC ei hun wedi dweud bod y galw go iawn ymhell dros 200 i allu cyflawni yn erbyn y rheoliadau hynny.
Mae hyn i gyd yn golygu bod CNC yn ei chael hi'n anodd monitro'n helaeth i atal a nodi digwyddiadau amgylcheddol, gan gyfrannu at gyflwr dirywiol ein hafonydd, yn enwedig afon Gwy. Roedd yn siomedig, felly, fod y Llywodraeth wedi datgan ym mhroses y gyllideb ar gyfer 2021-22 fod cyllid CNC yn ddigonol ar gyfer eu cyfrifoldebau statudol, ac yn ôl y llythyr gan y Gweinidog mewn ymateb i'r adroddiad, mae'n ymddangos bod y Llywodraeth—
Jane, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf wrth gwrs. Rwy'n ymddiheuro. Mae'n ddrwg gennyf, ni welais hynny.
Diolch yn fawr iawn, Jane. Cytunaf yn llwyr â chi fod angen mwy o adnoddau ar CNC i olrhain ffynonellau'r llygredd hwn. Gan eich bod yn cynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, roeddwn yn meddwl tybed a oeddech wedi cael cyfle i siarad â chyngor Powys am y llu o ffermydd ieir sydd wedi cael caniatâd i fynd rhagddynt, a pha gyfraniad y mae cyngor Powys yn credu y mae ysgarthion o'r ffermydd ieir hyn yn ei wneud i lygredd afon Gwy.
Diolch yn fawr, Jenny. Pwynt da iawn. Mae unedau dofednod dwys wedi cael caniatâd cynllunio ym Mhowys, ac ers nifer o fisoedd, ymhell cyn i'r weinyddiaeth newydd ym Mhowys gymryd yr awenau, rwyf wedi bod yn gofyn am effaith gronnol unedau dofednod dwys ar ein llygredd afonydd. Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn ein bod yn glir. Mae yma dri mater sy'n codi, ac mae CNC a'r holl asiantaethau sy'n ymwneud ag afon Gwy yn dweud bod yna dri mater sy'n golygu bod lefel y llygredd yn afon Gwy yn uchel: un yw amaethyddiaeth; yr ail yw gorlifoedd stormydd; a'r trydydd yw llygredd diwydiannol. Nawr, er mwyn monitro'r rhain i gyd, mae angen adnoddau ychwanegol ar CNC, ac rwyf wedi bod yn rhan o gyfarfodydd rhanddeiliaid gyda'r holl randdeiliaid, gan gynnwys ffermwyr, gan gynnwys CNC, Dŵr Cymru, yr holl asiantaethau cadwraeth natur, i edrych ar sut y gallwn symud pethau yn eu blaenau yn afon Gwy. Nid yw mor syml â beio unedau dofednod dwys a ffermwyr a'u dwyn i gyfrif.
Rwyf am ddirwyn i ben, Lywydd dros dro, os yw hynny'n iawn, oherwydd roeddwn yn agosáu at ddiwedd fy nghyfraniad. Felly, roeddwn yn canolbwyntio ar sefyllfa ariannol CNC. Rwy'n awyddus i weld ymateb gan y Llywodraeth a allai edrych ar adnoddau ychwanegol yn y tymor byr i helpu gyda llygredd afonydd. Nid yw'n ymwneud ag arian yn unig, ond mae angen adnoddau ychwanegol yn y tymor byr ac yn hirdymor ar CNC i'w helpu i achub afonydd Cymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Galwaf yn awr ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl hon.
Diolch. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am baratoi'r adroddiad cynhwysfawr hwn, a gyhoeddwyd ganddynt ar 23 Mawrth, ac am roi'r cyfle imi ymateb iddo. Rwy'n cydnabod y casgliadau a wnaed yn yr adroddiad, ac yn nodi'r cynnwys.
Cyn imi roi fy ymateb i adroddiad y pwyllgor ac i'r pwyntiau a wnaed gan Aelodau yma heddiw, hoffwn fanteisio ar y cyfle i dalu teyrnged i staff Cyfoeth Naturiol Cymru am eu hymdrechion i ddiogelu a rheoli ein hamgylchedd a'n hadnoddau naturiol, yn enwedig wrth weithio i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Fel llawer o rai eraill ar draws y sector cyhoeddus, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwasanaethu pobl Cymru yn wyneb ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd, pandemig COVID-19 ac yn fwyaf diweddar, effaith y rhyfel yn Wcráin. Mae staff a swyddogion CNC yn angerddol ynglŷn â'u diben a'u rôl wrth ymateb i'r heriau hyn, ac mae ymdrechion unigol pob aelod o staff yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr, ac roeddwn eisiau dechrau drwy nodi hynny.
Fel prif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar faterion sy'n ymwneud ag adnoddau naturiol Cymru, mae'n hanfodol, wrth gwrs, fod Cyfoeth Naturiol Cymru a'i dîm arwain yn cael eu dwyn i gyfrif wrth arfer eu swyddogaethau gweithredol a deddfwriaethol, ac rwy'n cymeradwyo'r pwyllgor am ei waith yn hynny o beth.
Gwnaeth eich adroddiad wyth argymhelliad, gyda thri argymhelliad yn gofyn yn arbennig am ymateb gan Weinidogion Cymru. Felly, o ran yr argymhellion hynny, yn argymhelliad 1 o adroddiad y pwyllgor sy'n galw arnaf i bennu'r amserlen ar gyfer cwblhau'r adolygiad sylfaenol o CNC—a gwn eich bod yn cydnabod hyn, Llyr—cwblhawyd y gweithgarwch adolygu sylfaenol cychwynnol ym mis Tachwedd 2021, a rhoddodd hynny olwg cliriach i fy swyddogion a minnau ar CNC fel sefydliad, a strwythur a dosraniad ei adnoddau ar draws meysydd gwaith. Ers hynny, mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda CNC i archwilio'r broses o ddyrannu adnoddau a chynnal ymarfer blaenoriaethu i sicrhau bod ei adnoddau'n cyd-fynd â blaenoriaethau gweinidogol ac yn ddigonol i gyflawni cyfrifoldebau statudol CNC. Yn ogystal â hynny, mae fy swyddogion a CNC hefyd yn cydweithio i gyflwyno cytundebau lefel gwasanaeth mewn meysydd gwaith allweddol yr haf hwn, ac mae un ohonynt yn cynnwys Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Y pum maes yw rheoli digwyddiadau llygredd a gorfodaeth, yr ystad goetiroedd, ansawdd dŵr, monitro yn gyffredinol, a materion llifogydd yn benodol.
Mae CNC a minnau'n cydnabod nad yw sefyllfa bresennol y gyllideb yn gynaliadwy yn fwy hirdymor a bod angen i ni gydweithio i sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithlon ac yn effeithiol i gyflawni rhwymedigaethau statudol, y cylch gwaith a blaenoriaethau'r rhaglen lywodraethu. Felly, rydym yn disgwyl i'r cam nesaf hwn o'r adolygiad sylfaenol ddod i ben cyn diwedd eleni, felly pan fydd y cytundebau lefel gwasanaeth wedi'u llunio gyda'r swyddogion dros yr haf, byddaf fi a thîm arwain CNC yn cyfarfod unwaith eto ar ddechrau tymor yr hydref. Byddwn yn gwneud mwy o waith ar sefydlu blaenoriaethau, ac yna byddwn yn trafod yn union sut y bydd unrhyw gynnydd i'w hadnoddau yn gweithio. Byddaf eisiau gwneud yn gwbl sicr fy mod yn cael gwerth am arian am yr hyn sydd yno ar hyn o bryd, a byddaf hefyd eisiau sicrhau ein bod yn deall beth fyddai unrhyw gynnydd yn yr adnoddau yn ei wneud i bobl Cymru mewn gwirionedd.
Ac ni allaf bwysleisio hyn ddigon, oherwydd cyn yr adolygiad sylfaenol—. Wyddoch chi, mae mater Llynfi yn destun gofid gwirioneddol, rwy'n gwybod, i staff CNC, ac mae'n rhywbeth na fyddai'r un ohonom erioed wedi dymuno ei weld yng Nghymru, ac yn sicr nid ydym eisiau ei weld eto. Ond tan yr adolygiad sylfaenol, nid oeddent yn gwybod yn iawn faint oedd hi'n ei gostio iddynt anfon pobl i bob digwyddiad neu sut i gyllidebu ar gyfer hynny, felly mae'n amlwg yn hanfodol eu bod yn deall beth yw costau sylfaenol o'r fath, y gorbenion a beth yn union yw cost rheoli pob digwyddiad, er mwyn gallu gwneud penderfyniadau priodol ynglŷn â sut i ddefnyddio eu hadnoddau. Mae angen iddynt ddeall hefyd sut y mae pob rhan o'u cylch gwaith yn edrych o ran adnoddau, a sut y gellir eu haddasu, yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd yn y byd ar hyn o bryd. Er enghraifft, rwy'n cael adroddiadau digwyddiadau bob dydd gan staff CNC sy'n ymateb i ddigwyddiadau amrywiol. Mae'n hawdd gweld ehangder y digwyddiadau y mae'n rhaid iddynt ymateb iddynt, ac mae'n rhaid iddynt wneud penderfyniadau ynglŷn â'r hyn y maent yn ei dderbyn i weld a yw'n werth anfon rhywun allan mewn gwirionedd. Yn amlwg, gydag enghraifft Llynfi, fe wnaethant gamfarnu'r sefyllfa honno'n wael a gwn fod hynny'n rhywbeth y maent yn hynod edifar yn ei gylch.
Disgwyliwn i'r adolygiad sylfaenol hwnnw, rhan cytundeb lefel gwasanaeth yr adolygiad sylfaenol hwnnw, ddod i ben cyn diwedd y flwyddyn galendr hon, i fod yn glir—felly, nid blwyddyn ariannol. Ac yna, byddwn yn gweithio gyda CNC i edrych ar eich argymhelliad 4,
'sicrhau bod cyllid ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru yn gymesur â’i rolau a’i gyfrifoldebau', ynghyd â disgwyliad y pwyllgor i weld cynnydd priodol mewn cyllid. Rwyf am fod yn glir iawn, gydag unrhyw gynnydd mewn cyllid, y byddwn eisiau gwybod ar beth yn union y byddai hwnnw'n cael ei wario, sut y byddai'n cael ei ddyrannu a pham fod y costau fel yr oeddent. Yna, o ran argymhelliad 5 yr adroddiad, i
'roi rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor am y trafodaethau y mae’n eu cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch sut y gallai ei fodel ariannu newid yn sgil yr adolygiad sylfaenol', rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am y trafodaethau hynny. Rydym yn edrych ar fodelau ariannu gwahanol ar gyfer CNC, gan ganiatáu iddynt gynllunio, paratoi a chyflawni'n fwy effeithiol yn y tymor hwy. Un o'r pethau y mae'r swyddogion yn edrych arnynt yw p'un a all y Llywodraeth bennu llinell sylfaen i gyllid grant neu beidio, oherwydd wedyn, yn hytrach na gwneud cais am grantiau blynyddol untro ar gyfer blaenoriaethau penodol, gellid eu rhoi yn y cyllid craidd fel bod ganddynt fwy o amser i gynllunio.
Ac yna, Lywydd, os caf brofi eich amynedd am eiliad yn hwy, rydym yn edrych eto i weld i ble mae'r incwm o ffermydd gwynt ac o'r ystad goetiroedd yn mynd, a gwn imi drafod hynny gyda'r pwyllgor yn eithaf manwl pan ddeuthum ger eich bron. Felly, rydym yn derbyn pob un o'r argymhellion a wnaed i ni naill ai yn llwyr neu mewn egwyddor. Lle rydym yn derbyn mewn egwyddor, mae hynny oherwydd ein bod eisoes yn ei wneud, ond efallai gyda methodoleg ychydig yn wahanol i'r hyn a argymhellwyd gan y pwyllgor. Ond rwy'n fwy na pharod i rannu'r holl waith hwnnw a'r ymatebion a'r diweddariadau gyda'r pwyllgor maes o law. Diolch.
Llyr Gruffydd nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. Dwi’n ymwybodol o gyfyngiadau amser, felly fe wnaf i ddim ymateb i bob sylw, ond dim ond i ddiolch i’r Gweinidog am ei chyfraniad hi.
Mae’n dda clywed y bydd yr adolygiad yn cael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn galendr. Y rhwystredigaeth rŷn ni’n teimlo yw efallai petasai’r broses wedi cychwyn yn gynt, mi fyddem ni’n cyrraedd y llinell derfyn yn gynt a byddem ni’n gweld canlyniadau cadarnhaol o safbwynt yr allbwn o safbwynt gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru.
Rŷch chi'n iawn fod angen cyfiawnhau unrhyw bres ychwanegol, achos dwi'n gwybod mai fi ac eraill fyddai'r cyntaf i gwyno os doeddech chi ddim yn gwneud hynny. Felly, mae rhywun yn cydnabod hynny. Ac mae'r cwestiwn yma o incwm, hefyd, fel roeddech chi’n cyffwrdd arno fe reit ar y diwedd, o’r ystad goedwigaeth ac o unrhyw gynlluniau ynni adnewyddadwy—mae hwnna wedi bod yn rhywbeth sydd wedi bod ar y bwrdd ers blynyddoedd lawer a dwi yn meddwl nawr bod yn rhaid inni gael penderfyniad clir, nail ai bod hwnna yn cael ei ailfuddsoddi yng ngwaith Cyfoeth Naturiol Cymru, neu dyw e ddim, unwaith ac am byth.
'Gusto is coming'—dwi’n dyfynnu hyn yn aml. Mi ddywedodd y Dirprwy Weinidog hynny i'r pwyllgor; dwi'n meddwl mai sôn am drafnidiaeth gyhoeddus roedd e ar y pryd. Wel, mae'n teimlo fel hynny tipyn bach ar lot o bethau ar hyn o bryd. Gusto is coming; wel, mae'n hen bryd i beth o'r gusto yna gyrraedd, dwi'n teimlo.
Jest i gloi, dwi hefyd eisiau ategu'r diolch i staff Cyfoeth Naturiol Cymru am y gwaith aruthrol a'r cyfrifoldeb aruthrol sydd ar eu hysgwyddau nhw. Beth bynnag rŷch chi'n meddwl o'r sefydliad, beth bynnag rŷch chi'n meddwl o'r rheoliadau maen nhw'n gorfod rhoi ar waith, does neb yn amau cymhelliad ac ymrwymiad y bobl yn Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd yn gweithio ddydd a nos i helpu gwireddu'r Cymru rŷn ni i gyd eisiau'i gweld. Ond, wrth gwrs, beth sy'n allweddol—a gobeithio beth fydd y ddadl yma a'n hadroddiad ni'n cyfrannu tuag ato fe—yw bod y Llywodraeth hefyd yn cadw eu rhan nhw o'r fargen er mwyn sicrhau, wrth gwrs, bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru'r adnoddau a'r capasiti sydd eu hangen arnyn nhw i wneud eu gwaith yn effeithiol. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yna.