8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y rhwydwaith trafnidiaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 22 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:26, 22 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Nid mater o fynd o un lle i'r llall yn unig yw trafnidiaeth. Mae buddsoddi mewn trafnidiaeth yn dangos i ble rydym yn mynd fel cenedl, ac mae'n gwbl glir nad yw'r rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru yn addas i'r diben. Mae'n amlwg fod angen ailwampio unrhyw system lle mae angen i gymudwyr fynd ar lwybr cymhleth drwy wlad wahanol er mwyn cyrraedd cyrchfan i'r cyfeiriad arall yn eu gwlad eu hunain, a dyna pam fod y gwelliant rwy'n falch o'i gynnig gan Blaid Cymru yn nodi y dylid datganoli seilwaith rheilffyrdd i sicrhau bod gan Gymru rwydwaith trafnidiaeth modern a'n bod yn cael ein cyfran deg yn sgil prosiectau fel HS2.

Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau ar reilffyrdd er mwyn arbed amser. Rwyf wedi sôn bod lleoliad y traciau sydd gennym neu'n bwysicach efallai, y traciau nad ydynt yn bodoli mwyach, yn broblem enfawr. Bu'r digrifwr Elis James yn cellwair am hyn ar S4C, gan ddweud ei fod ym Mhwllheli ar daith ar ddydd Gwener a Bangor ar ddydd Sadwrn, pellter o 30 milltir yn yr un sir. Dywedodd, 'Ar drên, chwe awr a hanner. Chwe awr a hanner, 30 milltir, gallwn rolio yno'n gyflymach na'r trên.' Mae'n ddoniol, ond wedyn nid yw'n ddoniol o gwbl.

Mae yna gymaint o gysylltiadau a allai fodoli ac a ddylai fodoli, ac mae'r diffyg cysylltiad rheilffordd yn golygu nad yw cysylltiadau cymdeithasol, addysgol a busnes eraill bob amser yn digwydd ychwaith. Nid yw bob amser yn bosibl mesur effaith absenoldeb, ond mae'n ymddangos mai dyna sydd angen inni ei wneud yn gyson pan ddaw'n fater o fesur cost diffyg buddsoddiad mewn seilwaith hanfodol yng Nghymru dros ddegawdau.

Nid yw'r Blaid Lafur yn gwbl rydd o fai yma. Cynigiwyd rheolaeth ar y rheilffyrdd i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth Tony Blair yn 2005, ond yn ôl y sôn, oherwydd ofnau na fyddai'r Llywodraeth yn gallu fforddio rhwymedigaethau ar yr asedau pe bai problemau ar ôl y trosglwyddiad, fe wnaethant wrthod y cynnig. Mae'r arbenigwr ar drafnidiaeth, yr Athro Mark Barry, wedi disgrifio hyn fel y camgymeriad mwyaf a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn hanes datganoli o bosibl.

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi cyfrifo bod Cymru wedi colli £514 miliwn rhwng 2011-12 a 2019-20, y byddem wedi'i gael pe bai seilwaith y rheilffyrdd wedi'i ddatganoli. Argymhellodd comisiwn Silk ei ddatganoli yn 2014, ac fe'i gwrthodwyd eto yn y broses Dewi Sant ddiffygiol—cynifer o gyfleoedd wedi'u colli. Ond yn yr achos hwn, gallwn fesur y gost o beidio â gwneud y peth synhwyrol.

Gyda HS2, bydd Cymru'n colli cyfran o £5 biliwn o gyllid am fod San Steffan yn ein hamddifadu o'r swm canlyniadol Barnett llawn drwy ei ddosbarthu'n afresymol fel prosiect i Gymru a Lloegr. Gadewch inni gofio, ni fydd un filltir o'r trac yng Nghymru, a chanfu dadansoddiad gan KPMG y bydd HS2 yn niweidio economi Cymru drwy symud gweithgarwch i ardaloedd y bydd y rheilffordd yn eu gwasanaethu, ac eto cawn ein trin fel pe bai'n mynd i fod o fudd i Gymru.

Bydd yr Alban, lle mae seilwaith a chynllunio Network Rail wedi'i ddatganoli, yn cael hyd at £10 biliwn drwy swm canlyniadol Barnett llawn. Lywydd, nodaf wrth fynd heibio fod rheilffordd yr Alban mewn gwell cyflwr cyn datganoli. Roedd rhywfaint o drydaneiddio wedi digwydd yno eisoes, ond dim ond y trac rhwng Caerdydd a phont Hafren sydd gennym ni yn awr yn 2022 hyd yn oed. Dros y degawd diwethaf, rydym wedi colli tua £600 miliwn oherwydd nad yw'r seilwaith perthnasol wedi'i ddatganoli. Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn yn colli £300 miliwn arall a £500 miliwn pellach y dylem ei gael mewn cyllid HS2—yr holl botensial coll hwnnw, fel y traciau coll ledled y wlad.

Rydym wedi colli £1.4 biliwn mewn buddsoddiad rheilffyrdd dros 15 mlynedd oherwydd yr ideoleg ddiffygiol hon ac ystyfnigrwydd San Steffan hefyd o ran sut y maent yn dosbarthu prosiectau. Mae pobl yng Nghymru yn talu cymaint mwy am stoc hŷn pan fyddai'r un pris mewn rhannau eraill o Ewrop yn eich cludo hanner ffordd ar draws y cyfandir mewn moethusrwydd. Mae angen inni adeiladu ein ffordd allan o hyn. Mae angen inni greu'r cysylltiadau hynny, ond ni fydd dim o hynny, Lywydd, yn bosibl hyd nes y caiff seilwaith rheilffyrdd ei ddatganoli. Felly, rwy'n cymeradwyo gwelliant Plaid Cymru i'r Senedd ac yn gobeithio'n fawr y bydd pob plaid yn ei gefnogi.