Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 22 Mehefin 2022.
Diolch, ac rydym wedi rhannu rhai profiadau ofnadwy, onid ydym, ar deithiau o'r gogledd i'r de? Rwyf wedi gwrando'n astud ar yr hyn a ddywedoch chi. Rwyf wedi gwrando am y rhan fwyaf o'r awr ddiwethaf ar eich cyd-Aelodau'n egluro beth yw'r broblem. Yr hyn nad wyf yn ei glywed yw: beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol? Felly, efallai, gyda’r ychydig funudau sydd gennych ar ôl, y gallech egluro beth fyddech chi'n ei wneud.