10. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 28 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 6:21, 28 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch ar goedd hefyd i'r clercod a'r staff cyfreithiol drwy gydol hynt y Bil hwn, ac estynnaf y diolch hwnnw i Gadeirydd y pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, Jayne Bryant, y pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, a phawb y bu ganddyn nhw ran yn y gwaith o gael y Bil hwn i Gyfnod 4 heddiw. Hoffwn hefyd, wrth gwrs, ddiolch i'r Gweinidog am wrando ar ein pryderon yn bennaf, gan gydnabod cyfraniadau y Ceidwadwyr Cymreig i'r Bil. Rwy'n falch ein bod wedi gallu cydweithredu i gyflawni gwelliannau nodedig i'r ddeddfwriaeth hon.

Er ein bod yn cefnogi nodau cyffredinol y Bil hwn, mae rhai pryderon, wrth gwrs, yn parhau. Ond, er gwaethaf ein pryderon, byddwn yn pleidleisio o blaid y Bil hwn heddiw. Yn gyffredinol, mae wedi bod yn ddull adeiladol iawn gan bob plaid i sicrhau bod y Bil hwn yn tawelu ofnau ac yn cyflawni'r hyn yr ydym ni i gyd eisiau ei weld—addysg well—ac i sicrhau y bydd y ddeddfwriaeth hon yn sefyll prawf amser. Roeddem, fel yr wyf wedi dweud o ddechrau'r trafodion hyn, yn pryderu am amserlen gyflym y Bil hwn, ond, o ystyried yr amgylchiadau, roeddem yn benderfynol o wneud y gorau o'r cyfle hwn i helpu i wella addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Felly, roeddem yn hapus i weld y bu'r Gweinidog yn agored i fynd i'r afael â nifer o'n pryderon, megis materion yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol, llesiant dysgwyr a thryloywder polisi ariannu, a oedd yn feysydd yr oeddwn yn fodlon cydweithio ag ef arnyn nhw.

Fel yr wyf wedi datgan dro ar ôl tro drwy gydol camau'r Bil hwn, er mwyn cael y llwyddiant mwyaf o'r comisiwn newydd hwn, mae'n rhaid bod y corff newydd hwn yn gallu gweithredu'n wirioneddol annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Byddai cymryd gormod o ran gan Weinidogion Cymru yn arwain at greu strwythurau llywodraethu aneglur, dryswch ac oedi, a byddai pob un o'r elfennau hyn yn llesteirio gallu'r comisiwn i gyflawni ei amcanion.

Rwy'n dal i bryderu y bydd cyllideb mor sylweddol ar gael i'r comisiwn newydd hwn—dylid dangos cyfrifoldeb ariannol priodol. Byddaf fi a fy mhlaid yn parhau i fonitro gweithrediad y Bil hwn yn ofalus er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni gwelliannau gwirioneddol i ansawdd addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, a byddwn hefyd yn cadw llygad ar faint o ddylanwad y mae Gweinidogion yn ei arfer dros y comisiwn er mwyn sicrhau nad yw ei annibyniaeth a'i ymreolaeth yn cael eu peryglu wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau. Byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr pe bai'r Gweinidog, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn achlysurol i'r Senedd am y comisiwn a'r cynnydd sy'n cael ei wneud. Diolch yn fawr.