Part of the debate – Senedd Cymru am 6:24 pm ar 28 Mehefin 2022.
Diolch am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl. Rŷn ni wedi torri tir newydd wrth gydweithio ar y Bil yma. Dyma'r darn cyntaf o ddeddfwriaeth sy'n rhan o'n cytundeb cydweithio ni gyda'r Llywodraeth, a dwi'n falch o fod wedi gallu cynrychioli Plaid Cymru fel y llefarydd dros addysg ôl-16 wrth graffu ar ac wrth wella'r Bil yma mewn modd cydweithredol a chadarnhaol gyda chi, Weinidog.
Drwy gydol taith ddeddfwriaethol y Bil hwn drwy'r Senedd, fe wnaethom ni achos cyson dros gryfhau'r Bil wrth ymwneud â darpariaeth y Gymraeg yn y sector ôl-16; gwnaethom ni bwyso am gryfhau geiriad y ddyletswydd strategol fel bod y comisiwn yn annog y galw am addysg Gymraeg, a bod hybu ymchwil cyfrwng Cymraeg yn cael ei ychwanegu at ddyletswyddau'r comisiwn. Roeddwn yn falch i'r Gweinidog ymateb i'n pryderon ac i farn rhanddeiliaid.
Roeddem fel plaid hefyd yn falch o gefnogi gwelliant y Gweinidog yng Nghyfnod 2, a fydd nawr yn sicrhau y bydd aelodaeth y comisiwn arfaethedig yn cynnwys arbenigedd mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant cyfrwng Cymraeg. Yn hyn o beth, ar ôl pwysleisio rôl bwysig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym maes cynllunio, a buddsoddi mewn cynyddu darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol, roeddwn i’n falch bod y Gweinidog yn cytuno mai rôl y coleg fyddai cynghori'r comisiwn ar hynny.
Yn ystod Cyfnod 1, fe glywodd y pwyllgor nifer o bryderon ynghylch perthynas arfaethedig y comisiwn gyda'r ddarpariaeth ôl-16 o fewn dosbarthiadau chwech, ac fe glywsom bryderon y gallai'r Bil arwain at ddileu atebolrwydd lleol am yr elfen unigryw hon o ddarpariaeth addysg, ac o addysg Gymraeg yn arbennig. Ac rwy’n falch o fod wedi gallu cefnogi gwelliannau'r Gweinidog a oedd yn ymateb yn briodol i'r pryderon hyn.
Roedd Plaid Cymru yn teimlo y byddai'r Bil wedi ei gryfhau ymhellach drwy roi hawliau pleidleisio i aelodau cyswllt y comisiwn, ac felly sicrhau llais cryfach i gynrychiolwyr dysgwyr a myfyrwyr a chynrychiolwyr o'r gweithlu a rhoi hawliau digonol iddyn nhw. Ac roeddwn i'n siomedig na gefnogwyd ein gwelliant yng Nghyfnod 2, ond roeddwn i'n falch i'r Gweinidog gyflwyno gwelliant am yr angen am ddyletswydd strategol ar y comisiwn i hybu cydweithio rhwng darparwyr addysg drydyddol ac undebau llafur, yn unol ag argymhelliad y pwyllgor yr wythnos diwethaf yma. Dwi'n meddwl bod hynny'n fwy pwysig nag erioed.
O ystyried pwysigrwydd ymchwil ac arloesedd i'n cenedl ac i'n prifysgolion, roeddwn i hefyd yn falch o gael cefnogaeth i'n gwelliant yng Nghyfnod 3 a oedd yn ymestyn rhyddid academaidd i weithgareddau ymchwil ac arloesi, yn ogystal â darparu darpariaeth cyrsiau addysg uwch.
Weinidog, rwy'n gwybod bod gan y sector ddiddordeb arbennig nawr mewn canolbwyntio ar weithredu'r ddeddfwriaeth hon unwaith iddi basio, gan ei bod wedi aros yn hir am y diwygiadau hyn, ac felly tybed a allwch chi gadarnhau a allai Llywodraeth Cymru ymrwymo i gyhoeddi amserlen weithredu cyn yr egwyl?
Hoffwn, wrth gloi, nodi fy niolch i i dîm clercio, ymchwil a chyfreithiol y pwyllgor. Fel Aelod newydd fydden i ddim wedi gallu gwneud dim o'm gwaith i hebddyn nhw, ac rwyf hefyd eisiau diolch i'r rhanddeiliaid am eu gwaith trylwyr a manwl yn ystod y broses graffu. A hoffwn i jest dweud fy mod yn falch o'r cydweithio adeiladol rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth yn y maes hwn a bod yr ymwneud adeiladol hwnnw wedi arwain at wella'r ddeddfwriaeth yn ystod ei thaith drwy'r Senedd.