Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 28 Mehefin 2022.
Diolch i Joel James am y cwestiynau yna. Mae'r adolygiad manylach o'r Mesur teithio gan ddysgwyr yn digwydd ar hyn o bryd, yn yr ystyr bod y cynllunio manwl ar gyfer yr adolygiad yn cael ei gynnal dros yr wythnosau nesaf, ac rydym wedi cytuno â'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol y bydd y gwaith gyda nhw ar yr adolygiad hwnnw yn dilyn yn nhymor yr hydref. Bydd elfen yn yr adolygiad hwnnw'n canolbwyntio'n fanylach ar anghenion pobl ifanc mewn addysg ôl-16. Rydym yn adolygu gyda'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol effaith costau tanwydd cynyddol ar eu gallu i gyflawni eu dyletswyddau i ddarparu cludiant i'r ysgol a'r coleg. Mae'n fater cymhleth.
Cawsom lythyr ddiwedd yr wythnos diwethaf gan gadeirydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Andrew Morgan. Mae'n nodi yn ei lythyr, pan fo awdurdodau lleol yn gorfod aildendro'r gwasanaethau hyn—weithiau am fod contractau wedi'u dychwelyd am nad yw cwmnïau'n gallu parhau i fasnachu o dan yr amodau presennol—mae'r tendrau newydd rhwng 30 y cant a 40 y cant yn uwch na'r tendrau blaenorol. Ond mae pob awdurdod lleol mewn sefyllfa wahanol, Llywydd. Mae gan rai gontractau cymharol newydd, mae rhai yn dibynnu ar gontractau sydd wedi'u cytuno amser maith yn ôl, mae gan rai contractau drefniadau adnewyddu blynyddol ynddyn nhw, ac eraill heb hynny o gwbl. Yr hyn y mae CLlLC yn ei gynnig yw y dylen nhw gasglu gwybodaeth bellach a manylach am yr effaith y mae gwasanaethau cludiant i'r ysgol yn gorfod ei llyncu oherwydd costau cynyddol petrol a mesurau trafnidiaeth eraill, ac yna byddwn yn cael trafodaethau pellach gyda nhw ynghylch beth, os unrhyw beth, y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gynorthwyo.