Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 28 Mehefin 2022.
Wrth gwrs, mae methiant yn y system, a daw yn sgil degawd o fethiant i fuddsoddi yn y materion hyn gan eich Llywodraeth chi—pobl a'u cefnogodd dros y cyfnod hwnnw. Ond mae'r syniad bod stoc fawr a hygyrch o dai yn aros i gael eu defnyddio—nid felly y mae, a dyna pam mai'r cynigion gan deuluoedd fydd asgwrn cefn y ffordd y gallwn symud pobl y tu hwnt i'r ganolfan groeso ac ymlaen i'r cam nesaf ar eu taith yma yng Nghymru.