1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 28 Mehefin 2022.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd. Prif Weinidog, bythefnos yn ôl, cyhoeddodd y Llywodraeth ei bod yn atal dros dro ei chynllun ffoaduriaid Wcráin o fod yn uwch-noddwr i ffoaduriaid sy'n dod i Gymru, cynllun a groesawyd gennym pan ddaeth gerbron pobl Cymru yn swyddogol i ddangos yr hyn y gallem ni fod yn ei wneud yn y rhan hon o'r DU i helpu ffoaduriaid sy'n dod allan o Wcráin. Ddoe gwelsom eto erchyllterau'r rhyfel yno, lle cafodd canolfan siopa ei tharo gan daflegryn milwrol, heb darged milwrol o fewn golwg o gwbl, a sifiliaid yn dioddef colledion erchyll. Yn eich sylwadau yr wythnos diwethaf am gynllun nawdd Wcráin, fe ddywedoch chi fod Llywodraeth Cymru wedi rhagweld y byddai 1,000 o ffoaduriaid yn dod i ddechrau, ond, hyd yma, 4,000 oedd wedi cofrestru. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi'r ffoaduriaid sydd eisoes gyda ni ac, yn bwysig, y ffoaduriaid hynny sydd wedi cofrestru i ddod i Gymru o dan y cynllun?
Diolch i Andrew Davies am y cwestiwn yna, Llywydd, ac mae'n iawn iddo dynnu sylw at erchyllterau parhaus digwyddiadau yn Wcráin. Mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod atal ein platfform uwch-noddwr dros dro oherwydd ei lwyddiant eithriadol. Rydym wedi cael llawer mwy o bobl yn manteisio ar y cynnig posibl i ddod i Gymru, ac rydym eisoes wedi cael llawer mwy o bobl yn cyrraedd Cymru na'r 1,000 a ddywedom yn wreiddiol y byddem yn darparu ar eu cyfer. Mae'r rhan fwyaf o'r bobl hynny yn ein canolfannau croeso, ac mae'r canolfannau croeso hynny, yn fy marn i, yn cynnig gwasanaeth rhagorol. Roedd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau yn Llangrannog ddydd Llun yr wythnos diwethaf lle mae 300 o bobl o Wcráin—200 o oedolion a 100 o blant—yn cael y croeso mwyaf rhyfeddol a'r cyfle a werthfawrogir fwyaf, sef i ailymgynnull, i deimlo, fel y dywedon nhw wrthyf, ymdeimlad o iachâd ar ôl gadael lle llawn anawsterau a chyrraedd lleoliad lle maen nhw'n teimlo'n ddiogel ac yn cael gofal.
Rhaid i'n hymdrechion ganolbwyntio'n wirioneddol dros yr wythnosau nesaf ar symud pobl y tu hwnt i'r canolfannau croeso ac i gartrefi'r teuluoedd niferus hynny yng Nghymru sy'n parhau i fod yn barod i gynnig lle yn eu cartrefi fel y gall pobl barhau i ailadeiladu eu bywydau. Nid yw hynny'n digwydd mor gyflym ag y mae angen iddo ddigwydd. Mae rhesymau dros hynny, oherwydd mae'n rhaid gwirio cynigion o gymorth, mae'n rhaid cynnal gwiriadau'r heddlu, mae'n rhaid i adrannau gwasanaethau cymdeithasol ymweld ac ati, ac nid yw hynny'n broses y gallwch ei brysio os ydych yn mynd i gael y cydweddu cywir rhwng y bobl yn y ganolfan groeso a'r bobl sy'n cynnig llety, fel nad ydym yn gweld lefel y methiant yn y trefniadau hynny sy'n cael eu hadrodd mewn rhai rhannau eraill o'r wlad. Dyna fyddwn ni'n canolbwyntio arno dros yr wythnosau nesaf. Cyn gynted ag y bydd gennym gydbwysedd rhwng pobl yn gallu gadael y canolfannau croeso a mynd at deuluoedd a nifer y bobl sy'n dymuno dod i Gymru, yna byddwn mewn sefyllfa i ailagor y llwybr uwch-noddwr.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n cytuno â chi bod y canolfannau'n cynnig y gefnogaeth gychwynnol honno, yr ymdeimlad cychwynnol hwnnw o ddiogelwch a noddfa ar ôl dod o'r fath gythrwfl ag sydd yn Wcráin. Ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw deall sut y mae'r Llywodraeth yn awr yn nodi'r adnoddau ychwanegol y bydd eu hangen i ddarparu ar gyfer pobl y tu hwnt i'r canolfannau croeso cychwynnol, oherwydd rwy'n credu y byddech chi, fel minnau, yn cytuno mai dim ond llety dros dro yw'r canolfannau hyn cyn y gellir rhoi trefniadau setlo parhaol ar waith ar gyfer teuluoedd sy'n dod i Gymru.
Nodais hyn yn fy llythyr atoch ar 11 Mawrth eleni fod gennyf bryderon ynghylch yr adnoddau yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith i gefnogi'r cynllun. A allech chi roi rhywfaint o eglurder i ni, os gwelwch yn dda, Prif Weinidog, ynghylch ble y credwch y byddwch yn nodi'r adnoddau ychwanegol, yn enwedig yr adnoddau tai, y bydd eu hangen? [Torri ar draws.] Gallaf glywed y Llywodraeth yn ysgwyd eu pennau ac yn piffian. Mae'n ffaith—[Torri ar draws.] Ni allaf gredu eich bod—. Rydych yn piffian, oherwydd rydych chi'n cymryd sefyllfa ddifrifol ac yn credu y gellir ei datblygu'n bwynt gwleidyddol. Mae yna broblem, mae pobl yn sownd ar eu hynt drwodd, mewn mannau a oedd i fod dros dro iddyn nhw, yn hytrach na'r stoc dai y dylai Llywodraeth Cymru ei nodi. Rwyf eisiau gwybod o le y daw'r stoc dai honno. A all y Prif Weinidog roi'r ateb hwnnw?
Llywydd, wrth gwrs rydym eisiau i bobl symud ymlaen o'r canolfannau croeso cyn gynted ag y bydd yn ddiogel iddyn nhw wneud hynny. Bydd amrywiaeth o gyrchfannau ar gyfer pobl sy'n gadael y canolfannau hynny. Rwy'n credu y bydd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn mynd at y teuluoedd hynny sydd wedi cynnig gofalu mor hael am rywun sy'n dianc rhag erchyllterau Wcráin, ond mae llwybrau eraill yn cael eu harchwilio. Rydym yn bwriadu gyda nifer o awdurdodau lleol, defnyddio unwaith eto mwy o dai a fydden nhw fel arall yn wag. Rydym yn gweithio gyda'n cydweithwyr mewn awdurdodau lleol i sicrhau, pan fo cyfleoedd yn y sector rhentu preifat, y bydd pobl yn gwybod am y rheini, ac y gellid gwneud y gwaith paru hwnnw hefyd.
Y pwynt yr oedd fy nghyd-Aelodau'n ceisio'i gyfleu i arweinydd yr wrthblaid yw hwn: rydym yn gorfod gwneud hyn i gyd gan ddefnyddio ein hadnoddau ein hunain. Mae pobl sy'n dod o'r Wcráin wedi cael eu twyllo gan Lywodraeth y DU. Yn syml, nid yw'r arian yno yn y system i wasanaethau cyhoeddus allu derbyn, fel y mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gwbl awyddus i'w wneud, y bobl sy'n dod o Wcráin yn y ffordd y byddem ni eisiau eu gweld yn cael eu croesawu. Nid oes arian o gwbl i bobl sy'n dod drwy'r cynllun teuluoedd, a hyd yn oed i bobl sy'n dod ar hyd llwybrau eraill, nid yw lefel y cyllid yn ddiogel—mae am flwyddyn yn unig. Nid oes gennym sicrwydd ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd y tu hwnt i hynny. Felly, mae gwerth £20 miliwn o arian Llywodraeth Cymru a ganfuwyd o ffynonellau eraill wedi'i drefnu i gefnogi'r camau ychwanegol yr ydym yn eu cymryd. Nid ydym yn cael yr un geiniog gan Lywodraeth y DU ar gyfer y canolfannau croeso. Ariennir y rheini i gyd o adnoddau Llywodraeth Cymru, ac mae'r £20 miliwn hwnnw'n cael ei wario'n gyflym iawn, oherwydd nifer y bobl sy'n dymuno manteisio ar y cyfle i ddod yma i Gymru. Nid oes stoc fawr o dai yn aros i gael eu defnyddio. Rydym yn dal i ddod o hyd i leoedd i bobl o Syria ac o Affganistan, mae gennym 1,000 o bobl bob mis o hyd yn mynd at wasanaethau awdurdodau lleol yng Nghymru yn dweud eu bod yn ddigartref, a gwyddom fod gennym bobl sydd ar restrau aros am dai yn aros i gael eu hailgartrefu. Nid oes atebion hawdd—[Torri ar draws.] Esgusodwch fi?
Mae'n cael ei alw'n fethiant.
Wrth gwrs, mae methiant yn y system, a daw yn sgil degawd o fethiant i fuddsoddi yn y materion hyn gan eich Llywodraeth chi—pobl a'u cefnogodd dros y cyfnod hwnnw. Ond mae'r syniad bod stoc fawr a hygyrch o dai yn aros i gael eu defnyddio—nid felly y mae, a dyna pam mai'r cynigion gan deuluoedd fydd asgwrn cefn y ffordd y gallwn symud pobl y tu hwnt i'r ganolfan groeso ac ymlaen i'r cam nesaf ar eu taith yma yng Nghymru.
Prif Weinidog, y pwynt yr wyf yn ei wneud i chi yw eich bod wedi cymryd y clodydd, ac yn briodol wedi cymryd y clodydd, eich bod wedi nodi eich hun yn Llywodraeth uwch-noddwr ar gyfer ffoaduriaid sy'n dod o'r erchyllterau a welwn ni yn Wcráin, ac rydym i gyd eisiau chwarae ein rhan. Ond mae'n rhaid i chi nodi'r adnoddau sydd i ateb y galw. Nawr, rydych wedi dweud, yn eich geiriau eich hun, fod 4,000 o unigolion ar hyn o bryd wedi'u nodi fel rhai sydd eisiau dod i Gymru. Mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu, eu bod nhw eisiau dod i Gymru. Os ydych wedi nodi £20 miliwn ar gyfer y 1,000 o ffoaduriaid y dyrannwyd yr asesiad cychwynnol ar eu cyfer, mae hynny'n golygu bod yn rhaid i chi ddod o hyd i £60 miliwn ychwanegol i ddarparu ar gyfer y 3,000 ychwanegol, ynghyd â'r gofyniad tai yn ogystal â symud pobl allan o'r canolfannau croeso cychwynnol. Dyna'r hyn yr wyf yn ceisio'i ganfod gennych ar hyn o bryd, Prif Weinidog: o le y daw'r adnodd hwn o'ch adnoddau ychwanegol sydd ar gael gan Lywodraeth y DU. A hefyd, ble ydych chi'n mynd i ddod o hyd i'r stoc dai i roi pobl mewn llety o ansawdd fel y gallant ailadeiladu eu bywydau, sy'n bwysig oherwydd bod hynny'n rhan o'r broses ailsefydlu yr ydym eisiau ei gweld? Roedd y rhain yn ffactorau hysbys pan wnaethoch y cynnig; mae'n ffaith yn awr eich bod wedi atal y cynllun dros dro, felly nid yw'n afresymol gofyn i le yr ewch chi â'r cynllun gyda'r adnoddau sydd eu hangen arnoch, neu a fydd y cynllun yn parhau i gael ei atal a hynny'n barhaol?
Wel, rwy'n credu fy mod eisoes wedi ateb y rhan fwyaf o'r pwyntiau yna, Llywydd. Rwyf wedi esbonio i arweinydd yr wrthblaid y byddwn, cyn gynted ag y gallwn sicrhau cydbwysedd rhwng all-lif o'r canolfannau croeso, yn gallu eu hailagor i groesawu mwy o bobl yma i Gymru. Rwyf wedi amlinellu iddo lle, o dan amgylchiadau heriol iawn, y deuir o hyd i dai mwy parhaol ar gyfer pobl sydd wedi dod o Wcráin, ac rwy'n hynod ddiolchgar i'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol, ein cydweithwyr yn y mudiad cymdeithasau tai ac eraill sy'n ein helpu i wneud hynny. Nid oes gan Lywodraeth Cymru arian gan Lywodraeth y DU i helpu gyda'r camau yr ydym yn eu cymryd—dim. Felly, byddaf yn glir gydag ef am hynny. Ni ddaw'r un geiniog i ni er mwyn i ni wneud y gwaith yr ydym yn ei wneud, ac rydym yn parhau i weithio gyda'n gilydd ar draws y Llywodraeth i sicrhau ein bod yn gallu dod o hyd i'r buddsoddiadau y mae arnom eu hangen.
Gadewch i mi wneud y pwynt hwn yn glir, Llywydd: nid oes dim o'r hyn a wnawn yma yng Nghymru yn ymwneud â chanmoliaeth. Mae hwnnw'n syniad sarhaus. Dywedaf hynny wrtho. [Torri ar draws.] Gadewch i mi ddweud hynny wrtho, oherwydd yr wyf eisiau ei gwneud yn glir iddo: nid oes dim o gwbl a wnawn ni yn ymwneud â cheisio clod gan neb. Pan siaradais â phlentyn saith oed yn Llangrannog yr wythnos diwethaf, yr oedd yn cael trafferth wrth geisio egluro i mi oherwydd yr ychydig eiriau yr oedd ganddo, sut brofiad oedd cyrraedd Cymru, a phwyntiodd at yr awyr uwchben a dywedodd, 'Dim rocedi yn yr awyr.' Plentyn saith oed, a oedd wedi bod trwy gymaint. Dyna'r rhesymau y mae pobl yng Nghymru wedi ymateb gyda'r haelioni sydd ganddyn nhw i'r broblem hon, a dim byd arall.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Dywedodd Michael Gove y llynedd, ar ôl eich anogaeth chi, Prif Weinidog, fod Llywodraeth San Steffan eisiau ailsefydlu'r berthynas â'r gwledydd datganoledig. Gwyddom yn awr beth yr oedden nhw'n ei olygu wrth hynny, wrth gwrs—maen nhw eisiau iddi fod yn berthynas pryd y maen nhw'n rheoli ac yr ydym ni yn eilradd, eu Senedd nhw sydd oruchaf a'n Senedd ni'n wasaidd. Wrth gyhoeddi, heb air atoch chi y Llywodraeth nac atom ni y Senedd, eu bwriad i ddiddymu Deddf Undebau Llafur (Cymru) 2017 a basiwyd gan y Senedd hon, maen nhw wedi dangos eu dirmyg nid yn unig tuag at weithwyr, nid yn unig tuag at Gymru, ond tuag at ddemocratiaeth gyfan. Nid dim ond un enghraifft arall mewn rhestr hir o gipio pŵer yw hyn; mae'n drobwynt. Dyma dorbwynt datganoli, o bosibl. Mae'n tynnu hawliau dinasyddion yn ôl, ond mae hefyd yn gwadu'r hawl i'r union ddinasyddion hynny benderfynu ar eu dyfodol eu hunain. Nawr, rydych chi wedi dweud, Prif Weinidog, y byddwch yn gwrthwynebu San Steffan yn ei hymgais i danseilio ein democratiaeth, ond y cwestiwn brys nawr yw: sut?
Yn gyntaf oll, Llywydd, gadewch i mi ddweud hyn, mae Llywodraeth y DU yn amharchus iawn, iawn—amharchus iawn tuag at ddatganoli, amharchus tuag at y Senedd hon—wrth iddi, ddoe, smyglo allan, mewn memorandwm esboniadol, nid hyd yn oed yn y datganiad a wnaethon nhw, eu bwriad i geisio diddymu darnau o ddeddfwriaeth a basiwyd drwy'r ddeddfwrfa hon. Dim gair ymlaen llaw, dim llythyr i ddweud mai dyma yr oedden nhw'n bwriadu ei wneud, ac, oni bai am lygaid barcud pobl yn edrych i weld beth yr oedden nhw'n bwriadu ei wneud, yna ni fyddem yn gwybod amdano heddiw, na fyddem ni?
Edrychaf ar feinciau'r Ceidwadwyr. Does dim byd nad ydyn nhw'n fodlon ei amddiffyn, nac oes, os daw allan o San Steffan? Maen nhw'n barod i amddiffyn Llywodraeth y DU yn datgan ei bwriad heb ddangos y parch lleiaf drwy adael i'r rhai yr effeithir arnyn nhw wybod beth yw eu bwriadau. Cawson nhw eu cyfle, Llywydd. Pasiodd y darn hwnnw o ddeddfwriaeth drwy'r Senedd. Gallen nhw fod wedi'i gyfeirio at y Goruchaf Lys pe baen nhw'n teimlo ei fod mewn unrhyw ffordd y tu hwnt i bŵer ac awdurdod y Senedd hon. Fe wnaethon nhw ddewis peidio â gwneud hynny. Y rheswm pam y maen nhw'n ei adfer nawr—mae'n rhan o'u hymagwedd filain tuag at undebau llafur, ac mae'n rhan o'u hagenda o amarch o ran datganoli.
Sut y gallwn ni yng Nghymru—o leiaf y rheini ohonom sy'n poeni am ein democratiaeth yn y Senedd hon—ymateb yn awr mewn ffordd sy'n gwneud i San Steffan ailfeddwl a'i gwadnu hi? Nid yw llythyr yn mynd i weithio; rhoddwyd cynnig ar hynny o'r blaen. Ni allwn droi at y Goruchaf Lys i'n hamddiffyn fwy nag y gall blaengarwyr yn yr Unol Daleithiau, oherwydd maen nhw eisoes wedi dyfarnu bod gan San Steffan bŵer diderfyn i ddeddfu, hyd yn oed mewn meysydd datganoledig. Nawr, mae gennym ateb syml iawn i'r sefyllfa hon, a fyddai'n dileu hawl San Steffan i fathru ein democratiaeth dan draed yn barhaol, nid yn unig yng nghyd-destun byr Llywodraeth Lafur bob 20 mlynedd, ac annibyniaeth yw hynny. Nawr, onid yw hwn yn syniad y mae ei amser wedi dod? Nawr, efallai nad yw'r Prif Weinidog eisiau mynd mor bell â hynny, ond a allech chi dderbyn mai un ffordd o anfon neges glir i San Steffan a fydd yn gwneud iddyn nhw eistedd a gwrando yw i chi ddweud nad yw eich unoliaeth yn ddiderfyn, ac i orymdaith Wrecsam dros annibyniaeth ddydd Sadwrn fod y mwyaf erioed, gorymdaith i amddiffyn democratiaeth Cymru, wedi ei chwyddo nid yn unig gan rengoedd cefnogwyr fy mhlaid, ond gan gefnogwyr eich plaid chithau hefyd?
Wel, Llywydd, nid wyf yn gweld diben ail-ymgyfreitha'r mater hwn yn barhaus o flaen y Senedd. Roedd o flaen pobl Cymru flwyddyn yn ôl, ac ni allai fod wedi bod o'u blaenau mewn termau mwy plaen. Sefais wrth ochr arweinydd Plaid Cymru mewn dadleuon pryd y ceisiodd berswadio pobl mai annibyniaeth—gan dorri'n rhydd o'r Deyrnas Unedig—oedd y ffordd orau o sicrhau dyfodol Cymru. Fe wnes i achos gwahanol—rwy'n ei wneud o hyd—mai'r ffordd i sicrhau bod pobl yng Nghymru'n parhau i arfer y lefel o reolaeth dros ein materion ein hunain yw sicrhau bod datganoli wedi ymwreiddio, na ellir ei dynnu'n ôl yn y ffordd sy'n digwydd ar hyn o bryd. Ac mae ffordd o wneud hynny, Llywydd, a daw yn yr etholiad cyffredinol nesaf, ac ni all hwnnw ddod yn ddigon buan.
Nid oes gennym Lywodraeth yn San Steffan, Llywydd. Mae gennym griw o ieir heb bennau yn rhedeg o gwmpas yn ceisio achub eu crwyn eu hunain. Mae'n bryd iddyn nhw fynd er mwyn i bobl gael cyfle i ddewis Llywodraeth wahanol a gwell, a phan ddaw'r Llywodraeth wahanol a gwell honno, byddwn yn gallu sicrhau bod yr ymosodiadau yr ydym wedi'u gweld ar bwerau'r lle hwn, ar y cyllid y dylem fod wedi'i gael, a addawyd i ni ac na chyrhaeddodd o gwbl—i ymwreiddio'r pethau hynny. A dyna'r ffordd i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael yr hyn yr wyf yn credu y dangoson nhw ym mis Mai y llynedd yr oedden nhw eisiau ei gael, yn fy marn i. Maen nhw eisiau datganoli pwerus. Maen nhw eisiau Senedd sy'n gallu gwneud y gwaith y cawsom ein hethol i'w wneud. Ond maen nhw, hefyd, eisiau bod yn rhan o Deyrnas Unedig lwyddiannus.
Rhaid i mi ddweud wrth y Prif Weinidog, a gyda gofid, nad wyf yn clywed gwrthwynebiad ganddo; rwy'n clywed ildiad. Beth pe bai Llafur yn colli etholiad cyffredinol nesaf San Steffan, a'r un ar ôl hynny? Beth pe bai Boris Johnson yn Brif Weinidog ymhell i'r 2030au, fel yr adroddwyd yn ddiweddar? Beth ydym ni'n ei wneud wedyn? Nawr, rydych chi wedi dweud yn gyson fod yn rhaid i'r Deyrnas Unedig fod yn undeb gwirfoddol. A ydych yn cytuno bod angen llwybr clir a diogel yn gyfreithiol i genhedloedd y DU ddewis eu dyfodol cyfansoddiadol, yr Alban a Chymru? Ac onid un o'r opsiynau i ni, mewn ymateb i benderfyniad Llywodraeth y DU i ddirymu ein democratiaeth—ac mae'n sicr bod hynny'n newid y mae'n rhaid i ni ei gydnabod; mae'r cyd-destun yn newid—yw i ofyn am y pŵer ar gyfer refferendwm ar ddyfodol ein democratiaeth, cais adran 109 yn ein hamgylchiadau, yn seiliedig ar ba bynnag fodel neu fodelau sy'n deillio o'r comisiwn cyfansoddiadol yr ydych wedi'i sefydlu?
Yn yr Alban, maen nhw'n casáu refferenda—dywed Llywodraeth y DU—ond, yng Nghymru, maen nhw'n dweud eu bod yn eu hoffi. Pam nad ydym ni'n rhoi un iddyn nhw? Ac os yw wedi'i fframio fel Cymru yn erbyn San Steffan, mae'n sicr yn refferendwm y gallwn ni ei ennill.
Wel, Llywydd, rwyf bob amser wedi dadlau—ac rwyf wedi mynd i drafferthion o'r herwydd o bryd i'w gilydd—os bydd pobl o unrhyw ran gyfansoddol o'r Deyrnas Unedig yn pleidleisio dros refferendwm ar eu dyfodol, yna dylid caniatáu iddyn nhw gynnal y refferendwm hwnnw. Rwy'n credu y byddai hynny'n wir yng Nghymru hefyd. Os bydd plaid sy'n sefyll dros hynny mewn etholiad yn ennill mwyafrif o bleidleisiau yng Nghymru, yna wrth gwrs y dylai'r refferendwm hwnnw ddigwydd. Ond nid yw hynny wedi digwydd yma yng Nghymru, a hyd nes y bydd yn gwneud hynny, rwy'n credu bod yr achos y mae'r Aelod yn ei wneud wedi'i wanhau'n angheuol.