Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 28 Mehefin 2022.
Diolch, Llywydd. Ym mis Chwefror eleni, fe gyhoeddais i fwriad Llywodraeth Cymru i ddatblygu a darparu cynllun treialu incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru. Heddiw, rwy'n falch o gadarnhau y bydd y cynllun treialu hwnnw'n dechrau ar 1 Gorffennaf 2022 ac yn rhedeg am dair blynedd i gyd. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym ni am roi prawf ar fanteision datganedig incwm sylfaenol, megis gwella iechyd a llesiant ariannol, ac atgyfnerthu cyfleoedd a chyfleoedd bywyd unigolion. Mae incwm sylfaenol yn fuddsoddiad uniongyrchol yn y bobl ifanc hyn a'u dyfodol nhw.
Bydd dros 500 o bobl ifanc sy'n gadael gofal ac yn troi'n 18 oed rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023 yn gymwys i dderbyn 24 o daliadau misol gwerth £1,600 y mis cyn treth, gan ddechrau'r mis ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, os bydd unigolyn ifanc sy'n gadael gofal yn troi'n 18 oed ym mis Gorffennaf eleni, fe fydd yn cael taliad o £1,280 ym mis Awst ac fe fydd yn parhau i gael y taliad hwnnw'n fisol tan fis Gorffennaf 2024, yn amodol ar unrhyw newidiadau yng nghyfradd sylfaenol y dreth incwm. Yn unol ag adborth a chyngor gan ein partneriaid ni yn yr awdurdod lleol, fe all cyfranogwyr yn y cynllun treialu ddewis a ydyn nhw am gael y taliad hwn naill ai'n fisol neu ddwywaith y mis. Mae hyn yn cyd-fynd â'r system credyd cynhwysol bresennol. Nid yw hi'n orfodol i gymryd rhan yn y cynllun treialu ac, i'r rhai sy'n cymryd rhan, fe fydd hynny'n ddiamod. Bydd unrhyw gyfranogiad o ran cymorth neu werthusiad ychwanegol yn wirfoddol.
Ers fy nghyhoeddiad i ym mis Chwefror, rydym ni wedi ystyried amrywiaeth o ddewisiadau ar gyfer pob elfen o'r cyflawniad. Wedi ymgysylltu â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a'r ymarferwyr sy'n gweithio gyda nhw, mae hi'n amlwg mai'r dull mwyaf effeithiol a phriodol o gyflawni hyn fydd gwahanu'r cyfrifoldebau am wahanol agweddau ar y cynllun treialu i wahanol asiantaethau. Rwyf i am amlinellu ein dull o weithredu ni heddiw.