– Senedd Cymru am 2:47 pm ar 28 Mehefin 2022.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar gynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer pobl sy'n gadael gofal. Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Ym mis Chwefror eleni, fe gyhoeddais i fwriad Llywodraeth Cymru i ddatblygu a darparu cynllun treialu incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru. Heddiw, rwy'n falch o gadarnhau y bydd y cynllun treialu hwnnw'n dechrau ar 1 Gorffennaf 2022 ac yn rhedeg am dair blynedd i gyd. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym ni am roi prawf ar fanteision datganedig incwm sylfaenol, megis gwella iechyd a llesiant ariannol, ac atgyfnerthu cyfleoedd a chyfleoedd bywyd unigolion. Mae incwm sylfaenol yn fuddsoddiad uniongyrchol yn y bobl ifanc hyn a'u dyfodol nhw.
Bydd dros 500 o bobl ifanc sy'n gadael gofal ac yn troi'n 18 oed rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023 yn gymwys i dderbyn 24 o daliadau misol gwerth £1,600 y mis cyn treth, gan ddechrau'r mis ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, os bydd unigolyn ifanc sy'n gadael gofal yn troi'n 18 oed ym mis Gorffennaf eleni, fe fydd yn cael taliad o £1,280 ym mis Awst ac fe fydd yn parhau i gael y taliad hwnnw'n fisol tan fis Gorffennaf 2024, yn amodol ar unrhyw newidiadau yng nghyfradd sylfaenol y dreth incwm. Yn unol ag adborth a chyngor gan ein partneriaid ni yn yr awdurdod lleol, fe all cyfranogwyr yn y cynllun treialu ddewis a ydyn nhw am gael y taliad hwn naill ai'n fisol neu ddwywaith y mis. Mae hyn yn cyd-fynd â'r system credyd cynhwysol bresennol. Nid yw hi'n orfodol i gymryd rhan yn y cynllun treialu ac, i'r rhai sy'n cymryd rhan, fe fydd hynny'n ddiamod. Bydd unrhyw gyfranogiad o ran cymorth neu werthusiad ychwanegol yn wirfoddol.
Ers fy nghyhoeddiad i ym mis Chwefror, rydym ni wedi ystyried amrywiaeth o ddewisiadau ar gyfer pob elfen o'r cyflawniad. Wedi ymgysylltu â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a'r ymarferwyr sy'n gweithio gyda nhw, mae hi'n amlwg mai'r dull mwyaf effeithiol a phriodol o gyflawni hyn fydd gwahanu'r cyfrifoldebau am wahanol agweddau ar y cynllun treialu i wahanol asiantaethau. Rwyf i am amlinellu ein dull o weithredu ni heddiw.
Yn unol â'u cyfrifoldebau nhw o ran rhianta corfforaethol, bydd awdurdodau lleol Cymru â rhan hanfodol yn y gwaith o ddarparu'r cynllun treialu incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru. Fe fyddan nhw'n gweithredu fel pwynt cyswllt dechreuol ar gyfer derbynyddion sy'n cael yr incwm sylfaenol ac fe fyddan nhw'n gyfrifol am arwain y bobl ifanc sydd yn eu gofal nhw drwy'r cynllun treialu. Fe fyddan nhw'n uwchgyfeirio materion ac yn tynnu sylw Llywodraeth Cymru at unrhyw heriau o ran gweithrediad y cynllun, ac yn darparu cyswllt â derbynyddion ar gyfer ymchwilwyr ac arweinwyr polisi cenedlaethol at ddibenion gwerthuso a monitro. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfeiriad i'r polisi cenedlaethol ar gyfer pob agwedd ar y cynllun treialu ac yn rhoi canllawiau i gefnogi darpariaeth deg ledled Cymru. Ni fydd y pwynt cyswllt canolog ar gyfer pawb sy'n ymwneud â rheolaeth, cyflwyniad a gwerthuso'r cynllun treialu, ac fe fyddwn ni'n ymateb i adborth yn unol â hynny, gyda diweddariadau i'r polisi, y ddarpariaeth a'r canllawiau yn ôl yr angen.
Darparwr allanol a fydd yn gwneud taliadau i'r cyfranogwyr ac fe gaiff hwnnw ei gaffael gan ddefnyddio fframwaith sy'n bodoli eisoes ar gyfer caffael. Mae defnyddio darparwr taliad sengl yn sicrhau system gyson ac effeithlon sy'n darparu'r un gwasanaeth i bawb sy'n cael yr incwm sylfaenol. Bydd hwnnw hefyd yn golygu un pwynt cyswllt ar gyfer pob cyfranogwr o ran talu incwm sylfaenol. Mae'r cynllun treialu nid yn unig yn ymwneud â chyflenwi arian i dderbynyddion; mae hi'n hanfodol, cyn dewis cymryd rhan, bod y rhai sy'n gadael gofal yn cael eu cefnogi i wneud penderfyniadau deallus am eu cyllid a'u dyfodol nhw. Fe wyddom ni fod awdurdodau lleol yn darparu ystod o gymorth i bobl ifanc â phrofiad o ofal eisoes fel rhan o'u rhwymedigaethau statudol yn rhiant corfforaethol. Roedd y rhai sy'n gadael gofal yr ydym ni wedi bod yn ymgysylltu â nhw'n mynegi yn eglur y dylai'r holl bobl ifanc sy'n gymwys i fod â rhan yn y cynllun treialu gael cynnig o gyngor a chymorth ariannol sy'n gyson, annibynnol a chadarn o ran ansawdd drwy gydol eu hymgysylltiad nhw â'r cynllun. Felly, rydym ni wedi datblygu pecyn o gyngor a chymorth ariannol i'r rhai sy'n gadael gofal sy'n cymryd rhan yn y cynllun treialu hwn a fydd yn ehangu ar gytundeb grant cronfa gynghori sengl Llywodraeth Cymru, sydd ar hyn o bryd yng ngofal Cyngor ar Bopeth Cymru. Fe fydd y gwasanaeth yn rhoi cyngor uniongyrchol i bobl ifanc ac yn rhoi cymorth cyngor ail haen hefyd i weithwyr proffesiynol yr awdurdodau lleol sy'n gweithio gyda phobl ifanc. Fe fydd hynny'n cynnwys cyngor ar bob cam, o weithio drwy gyfrifiad o ba mor fuddiol fyddai hyn cyn y cynllun treialu hyd at gyngor o ran cyllidebu neu gymorth gydag argyfwng ariannol. Fe fydd y rhai sy'n gadael gofal yn gallu cael gafael ar gyngor diduedd wedi'i deilwra i'w hamgylchiadau unigol nhw, a bydd un sefydliad arweiniol yn sicrhau cysondeb wrth ddarparu gwasanaethau ledled Cymru. Yn ogystal â'r cyngor ariannol unigol a roddir i dderbynyddion yr incwm sylfaenol, rydym ni'n gweithio gyda sefydliadau eraill, megis Voices from Care Cymru a Gwasanaeth Arian a Phensiynau Llywodraeth y DU, i roi cyngor mwy cyfannol ynghylch rheoli arian, addysg, hyfforddiant a llesiant. Bydd derbynyddion yn cael eu cyfeirio at y cyfleoedd hyn drwy eu cynghorwyr pobl ifanc a gwasanaethau cymorth eraill.
Bydd cael clywed llais a chael cipolwg ar brofiad y bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y cynllun treialu hwn yn hanfodol i'w lwyddiant. Fe fyddwn ni'n gweithio gyda nhw drwy'r cyfan i gyd i gyfrannu at ein gwerthusiad deinamig ni a sicrhau bod profiadau'r rhai sy'n byw drwyddo yn ganolog i'w ganlyniadau. Bydd y gwerthusiad yn ystyried effaith y cynllun treialu o ran gwelliannau ym mhrofiadau gofal unigol a sut mae bod yn rhan o'r cynllun wedi effeithio ar fywydau pobl ifanc. Bydd adborth rheolaidd gan dderbynyddion yn sicrhau gwerthusiad sy'n darparu themâu sy'n dod i'r amlwg ar brofiadau cyfranogwyr ac yn cefnogi gwelliant i'r cynllun treialu wrth iddo gael ei gyflwyno.
Drwy'r cynllun treialu hwn, rydym ni'n awyddus i adeiladu ar y cymorth a gynigir i blant â phrofiad o ofal yng Nghymru ar hyn o bryd a sicrhau bod pobl ifanc sydd â rhan yn cael popeth sydd ei angen arnyn nhw i roi'r cyfle gorau posibl iddyn nhw ar daith bywyd a gwneud y broses o drosglwyddo o ofal yn well, yn haws ac yn fwy adeiladol. Y canolbwynt fydd sicrhau annibyniaeth oddi ar wasanaethau yn hytrach na dibyniaeth ar wasanaethau wrth iddyn nhw ddod yn oedolion. Rydym ni am weithio gyda rhanddeiliaid, derbynyddion a'n tîm gwerthuso ni i fonitro cynnydd y cynllun a gwneud newidiadau lle bod angen, ac fe fyddaf innau'n falch o barhau i rannu ein profiadau a'n canlyniadau ni wrth i'r gwaith pwysig hwn ddatblygu. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi, ac a gaf i ddiolch i chi hefyd am eich papur briffio'r bore yma? Fe'i cefais yn ddefnyddiol iawn o ran deall eich safbwynt chi. Yn wir, rwy'n llwyr gydnabod eich barn chi ynglŷn â buddsoddi yn y rhai sy'n gadael gofal a cheisio darparu cyfleoedd ar eu cyfer nhw y byddai pobl eraill yn eu cymryd yn ganiataol efallai, ac rwy'n derbyn bod hynny'n deillio o sefyllfa o fod yn wir awyddus i helpu. Rwy'n credu hefyd y byddai pob Aelod yma'n cydnabod bod y rhai sy'n gadael gofal yn grŵp arbennig o agored i niwed y mae angen cymorth ychwanegol arnyn nhw. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod hyn a bod y rhai sy'n gadael gofal yn wynebu heriau ac anawsterau unigryw, ac rydym ni'n dymuno gwneud popeth i sicrhau eu bod nhw'n cael y gofal gorau a bod pob cyfle ar gael iddyn nhw. Fodd bynnag, Gweinidog, fy mhryder i ynglŷn â'r arbrawf hwn gydag Incwm Sylfaenol Cyffredinol yw bod y Llywodraeth hon yn newid naratif Incwm Sylfaenol Cyffredinol drwy ei ddrysu â'r ddarpariaeth o gymorth penodol i'r rhai sy'n gadael gofal yn y gobaith y bydd gennych chi, ar ôl dwy flynedd, ddata sy'n cyfiawnhau cyflwyno Incwm Sylfaenol Cyffredinol. Mae'r dull hwn yn ddiffygiol yn ei hanfod, oherwydd ni fyddwch chi mewn gwirionedd yn gallu allosod unrhyw ddata oddi wrth grŵp mor arbennig ac, a gaf i ychwanegu, grŵp sy'n agored i niwed i'w ddefnyddio ar gyfer trawstoriad o'r gymdeithas gyfan. At hynny, drwy ddefnyddio'r rhai sy'n gadael gofal yn grŵp ar gyfer eich mesuriadau chi, rwyf i o'r farn eich bod chi'n cyfyngu ar y cyfle i graffu gyda manylder ar Incwm Sylfaenol Cyffredinol, oherwydd fe fydd unrhyw sylwadau anffafriol yn cael eu hateb gyda'r wrth-ddadl sef bod y sawl sy'n eu gwneud nhw'n elyniaethus i'r rhai sy'n gadael gofal, sydd nid yn unig yn annhebygol iawn o fod yn wir, ond fe fydd hynny, ar y cyfan, yn atal llawer o bobl rhag ymgysylltu â'r broses graffu rhag ofn y bydd yna adlach.
At hynny, ar sail helpu'r rhai sy'n gadael gofal, rydym ni o'r farn fod rhoi pob cyfle iddyn nhw wneud y gorau o'u bywydau nhw'n iawn, ac rydym ni'n cydnabod y trawma a'r amgylchiadau anodd iawn a wynebwyd gan rai ohonyn nhw. Serch hynny, mae'n rhaid i ni gofio hefyd fod rhai pobl hynod agored i niwed ag anghenion cymhleth iawn yn y grŵp hwn, ac fe allai rhoi £1,600 y mis iddyn nhw eu helpu nhw mewn egwyddor yn y tymor byr, ond mewn gwirionedd fe allai hynny waethygu eu sefyllfa nhw yn yr hirdymor. Yn gyntaf, fe allai'r grŵp hyglwyf hwn o bobl ifanc yn eu harddegau, y mae rhai ohonyn nhw'n dod o gefndiroedd heriol, fynd i berygl, heb gymorth a chefnogaeth briodol, oherwydd rhai unigolion a fyddai'n ceisio eu gorfodi nhw i wneud pethau, eu cam-drin nhw a chymryd mantais arnyn nhw oherwydd yr arian ychwanegol hwn. Sut ydych chi am rwystro hynny rhag digwydd? Yn ail, fel gwnaethoch chi sôn o'r blaen, fe wyddom ni fod pobl yn y grŵp hwn, er mai rhan fechan iawn ydyn nhw, sydd â phroblemau o ran dibyniaeth ar gyffuriau, ac fe allai cael swm mor fawr o arian yn eu dwylo, unwaith eto heb gymorth na chefnogaeth briodol, waethygu'r problemau sy'n bodoli eisoes. Ac yn drydydd, mae Llywodraeth Cymru yn y pen draw yn creu ochr dibyn ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal a fydd yn gweld eu harian nhw'n dod i ben ar ôl dwy flynedd. Felly, mewn gwirionedd, rydych chi'n cymryd rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed, gan greu dibyniaeth ar incwm ychwanegol y maen nhw'n annhebygol iawn o'i weld byth eto ac yna'n eu gadael nhw i ymorol amdanyn nhw eu hunain ar ôl dwy flynedd.
Gweinidog, roeddech chi'n sôn am y pecyn enfawr hwn o gymorth y tynnais i sylw ato y bydd ei angen arnyn nhw, ond, mewn gwirionedd, nid dyna yw'r achos ac nid yw'r fathemateg yn gywir. Rydych chi'n darparu £20 miliwn dros ddwy flynedd, sy'n gadael dim ond £800,000 ar ôl i ddarparu'r pecyn cymorth, sy'n druenus ar y gorau, ac, fel cafodd hynny ei grybwyll y bore yma, rydych chi'n dibynnu bron yn gyfan gwbl ar y sector gwirfoddol i ddarparu'r cymorth hwnnw. Rydym ni wedi clywed am bosibiliadau pobl yn defnyddio'r arian hwn i gefnogi addysg uwch. Er bod graddau prifysgol yn cymryd tair blynedd, ar gyfartaledd, yr hyn y byddwch chi'n ei wneud yw peidio â rhoi'r un cyfleoedd iddyn nhw ag y cafodd pobl eraill gyda chefnogaeth oddi wrth eu teuluoedd nhw, oherwydd nid ydych chi'n gwneud dim ond eu helpu nhw am ran o'r ffordd, sydd, yn fy marn i, yn anghyfrifol. Gyda hynny mewn golwg, Gweinidog, pa asesiad a wnaethoch chi i werthuso'r cymorth gwirioneddol sydd ei angen ar y rhai sy'n gadael gofal i wneud y defnydd gorau o'r arian hwn, a pha gymorth a chefnogaeth ydych chi'n eu cynnig i sefydliadau gwirfoddol a thrydydd sector i'w helpu i ddiwallu anghenion y rhai sy'n ymgymryd â'r cynllun hwn o ran y gefnogaeth a fydd ar gael? Pa asesiad a wnaeth y Llywodraeth hon o anghenion y grŵp hwn ar ôl i'r cyfnod arbrofol ddod i ben, a sut ydych chi'n rhagweld y cânt eu cefnogi ar ei ddiwedd? Gan mai rhaglen wirfoddol yw hon i'r rhai sy'n gadael gofal ymrwymo iddi, pa gymorth a chefnogaeth yn benodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig i'r rhai sy'n gymwys i gofrestru a chael bod ar y cynllun hwn? Ac yn olaf, o ran incwm sylfaenol cyffredinol, sut ydych chi'n disgwyl i'r data hyn gael eu hallosod i ddarparu tystiolaeth ddigonol y bydd Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn helpu trawstoriad llawn o'r gymdeithas yng Nghymru? Diolch i chi.
Diolch yn fawr iawn i chi, Joel James. Roeddwn i'n ddiolchgar am ein bod ni wedi cael rhai sylwadau cadarnhaol ar ddechrau eich cwestiynau chi heddiw. Rwy'n credu i chi gydnabod y gallai'r cynllun treialu hwn gynnig cyfleoedd gwych i'r rhai sy'n gadael gofal yma, ac mai cynllun treialu incwm sylfaenol yw hwn.
Fe hoffwn i ddechrau drwy ateb eich cwestiynau chi ynghylch pam yr ydym ni wedi canolbwyntio'r cynllun treialu hwn ar y rhai sy'n gadael gofal. Rydym ni, yn Llywodraeth Cymru, wedi ymrwymo i gefnogi'r rhai sy'n byw mewn tlodi, gan sicrhau eu bod nhw'n cael cymorth ariannol digonol er mwyn i bawb yng Nghymru gael bywyd sy'n hapus ac yn iach. Mae gan y rhai sy'n gadael gofal hawl—ystyr hyn yw rhoi hawl i'r rhai sy'n gadael gofal gael cefnogaeth lawn, fel yr ydym ni'n parhau i'w wneud drwy gydol eu profiad nhw o ofal, wrth iddyn nhw ddatblygu yn oedolion ifanc annibynnol. Fe wyddom ni fod gormod o bobl ifanc sy'n gadael gofal yn wynebu rhwystrau sylweddol rhag cyflawni'r newid hwnnw ar gyfer trosglwyddo i fywyd oedolyn yn llwyddiannus. Felly, mae incwm sylfaenol yn fuddsoddiad uniongyrchol mewn carfan o bobl ifanc yr ydym ni'n awyddus i'w cefnogi nhw fel y gallan nhw ffynnu wrth sicrhau eu hanghenion sylfaenol nhw.
Mae pobl ifanc â phrofiad o ofal yn grŵp, fel dywedais i, y gwnaethom ni ddewis gwneud buddsoddiad cyson ynddo eisoes—ychwanegiad at y gronfa ymddiriedolaeth plant, eithriadau ychwanegol i'r dreth gyngor, sefydlu cronfa Dydd Gŵyl Dewi. Ond fe gaiff hynny ei gydnabod, o'i gymharu â'u cyfoedion nhw—. Mae'n rhaid i chi ateb y cwestiwn yn hyn o beth, mae'n rhaid i mi ddweud, hefyd: beth am fuddsoddi yn y bobl ifanc hyn sydd â phrofiad o ofal sydd wedi bod o dan anfantais anghymesur ac sy'n fwy tebygol yn ystadegol o brofiadau o faterion ynglŷn â digartrefedd, dibyniaeth ac iechyd meddwl? Felly, ystyr hyn yw adeiladu ar y cymorth, gan alluogi ein pobl ifanc ni yma sy'n gadael gofal i fod â rhan yn y cynllun treialu hwn. Ac o gael y gefnogaeth honno, fe allen nhw fod â'r cyfle gorau posibl i sicrhau'r newid hwn i brofiadau gwell, sy'n haws ac yn fwy adeiladol.
Penderfyniad yw hwn, dewis a wnaethom ni yw hwn, ac mae honno'n flaenoriaeth yn ein cyllideb ni. Yn wir, yn ein maniffesto a'n rhaglen lywodraethu ni roeddem ni'n nodi y byddem ni'n treialu incwm sylfaenol. Felly, i roi eglurder ynglŷn â'r cyllid, rydym ni wedi dyrannu £20 miliwn i gyflawni'r cynllun treialu hwn dros gyfnod o dair blynedd. Mae hynny'n cynnwys y taliadau eu hunain, y costau gweinyddu a'r costau o ran ymchwil a gwerthuso. Yn amlwg, mae hyn yn dibynnu ar y cyfraddau o ran defnydd a chyfranogi; nid rhywbeth gorfodol mo'r cynllun treialu hwn, ond o ran yr angen am gyngor a chymorth ariannol ychwanegol yn unig, fe fydd hynny'n cael ei roi i'r rhai sy'n gymwys i gymryd rhan yn y cynllun—dyna a oedd y bobl ifanc â phrofiad o ofal yn ei ddweud. Dyrannwyd tua £2 filiwn gyfer y gwasanaeth hwn am gyfnod llawn y cynllun treialu, dros dair i bedair blynedd. Felly, mae hynny o'r cyfnod cyn y cynllun yr holl ffordd drwodd i'r cyfnod wedi'r cynllun hefyd. Felly, mae'r cyllid yno i ariannu'r sefydliadau sydd â chyfrifoldeb mewn gwirionedd, fel rydym ni'n gwneud i Voices from Care Cymru a phawb sy'n cefnogi ein pobl ifanc ni ar hyn o bryd. Ond hefyd, fel dywedais i, gwaith i'r awdurdodau lleol yw eu cefnogi nhw hefyd.
Yn fater o egwyddor, yn fy marn i—ac o ystyried hwn yn ddull gweithredu ar sail hawliau unigolion—y bydd gan bawb sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd hawl i ymuno â'r cynllun treialu pe byddan nhw'n dewis gwneud hynny, ac ni ddylid ei drin yn wahanol i unrhyw fath arall o incwm. O ran eu hanghenion nhw a phrofiadau eu bywydau nhw, wrth gwrs, fe roddir cymorth parhaus ar hyn o bryd gan gynghorwyr pobl ifanc. Fe fyddai gweithdrefnau diogelu yn cael eu dilyn yn ôl arfer hefyd, pe byddai unrhyw bryder ynglŷn â risgiau canfyddedig. Ond ystyr hyn yw cynnig pecyn cymorth a fydd ar gael.
Nawr, mae hi'n ddiddorol i ni edrych ar gynlluniau arbrofol ar draws y byd o ran incwm sylfaenol. Er enghraifft, mae un o'r cynlluniau incwm sylfaenol mwyaf hir sefydlog yn nhalaith Gogledd Carolina wedi bod yn dilyn plant a oedd rhwng naw a 13 oed ym 1992. Tyfodd y plant hyn i fod yn oedolion, a gwelwyd llai o achosion o ran camddefnyddio sylweddau yn y rhai a oedd wedi cael yr incwm hwnnw. Rydym ni wedi edrych ar y cynlluniau hyn, rydym ni wedi edrych ar y canlyniadau. Dangosodd y cynllun hwnnw ostyngiad o 22 y cant hefyd yn nifer y materion troseddol a gofnodwyd ymhlith pobl ifanc 16 a 17 oed, yn enwedig o ran camddefnyddio sylweddau a mân droseddau.
Bydd y cynllun treialu hwn yn cael ei werthuso yn fanwl iawn o ran y cyfrifoldebau, ond fe fydd hefyd, o ran gwerthuso—. Fe fyddwn ni'n edrych, wrth i ni symud drwy hyn, o ran cefnogaeth i'r bobl ifanc hyn wrth i'r cynllun ddod i ben. Bydd y gefnogaeth, y cyngor a'r mewnbwn parhaus ar gael o ran nid yn unig cyngor a chymorth ariannol, gan gyfeirio at lesiant, addysg, gwaith a chyngor ariannol ehangach. Bydd llawer o'r bobl ifanc hyn yn manteisio ar gynlluniau eraill, fel y warant i bobl ifanc. Hynny yw, os ydych chi wedi dewis, neu fel rwyf i'n gobeithio y gwnewch chi rywbryd eto efallai, edrych ar rai o'r datganiadau a wnaeth pobl ifanc heddiw, pobl ifanc mewn gofal a oedd yn dweud wrthym ni—ac mae'r rhain yn cynnwys pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal—fod hyn yn estyn gobaith iddyn nhw, mae hyn yn dangos bod y Llywodraeth hon, ac, rwy'n gobeithio, fod y Senedd hon yn dangos ffydd yn y bobl ifanc hyn ac yn credu y dylen nhw fod â'r cyfleoedd hyn yr ydym ni'n eu rhoi.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r cynllun treialu hwn i'w groesawu yn fawr, yn enwedig i'r rhai ohonom ni yn y Siambr sydd wedi ymgyrchu neu sy'n parhau i ymgyrchu dros incwm sylfaenol cyffredinol. Mae'n wir, nid incwm sylfaenol cyffredinol mohono, ond mae'n incwm sylfaenol er hynny, a bydd yn rhoi data a chyfeiriad gwerthfawr i ni ar ein taith ni tuag at incwm cyffredinol.
Rydym ni wedi siarad am ein rhesymau ni am gefnogi Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn y gorffennol. Rhan o'r ymresymiad hwnnw yw mynd i'r afael â'r cyfraddau cynyddol o dlodi yma yng Nghymru. Unwaith eto, fe fydd y cynllun treialu hwn yn rhoi data gwerthfawr i ni yn ogystal â gallu i fesur yn unol â'r amcan hwnnw, o gofio ei fod ar gael i rai o aelodau mwyaf agored i niwed economaidd yn ein cymdeithas ni.
Mae hi'n siomedig nodi amharodrwydd Llywodraeth y DU i gydweithredu yn hyn o beth. Un peth yw trethu'r taliad, ond peth arall yw'r ffordd annheg y byddan nhw'n ei gyfrif yn erbyn credyd cynhwysol. Gan ddefnyddio gros yn hytrach na net, mae asesu pobl am arian na fyddan nhw'n ei gael mewn gwirionedd yn beth od iawn ac yn gwbl annheg yn fy marn i. Ond nid yw'r amharodrwydd i gydweithredu ar bolisi blaengar yn fy synnu i—enghraifft arall o'r diffyg parch yn San Steffan tuag at Lywodraethau datganoledig, a welwyd unwaith eto yn y newyddion neithiwr, wrth gwrs, am ddiddymu Deddf Undebau Llafur (Cymru) 2017.
Nawr, mae pobl ifanc sy'n gadael gofal yn arbennig o agored eisoes i gamfanteisio, fel roedd Joel yn gywir i'w nodi. Fe geir pryderon, a godwyd gan Barnardo's Cymru, y bydd y cynllun treialu incwm sylfaenol hwn, drwy ddarparu cyfandaliad mawr, sy'n hysbys yn gyffredin, yn gadael y rhai sy'n gadael gofal yn agored i gamfanteisio gan landlordiaid anonest, pobl ifanc eraill a throseddwyr, er enghraifft. Mae diogelu yn allweddol. Mae hi'n debygol y bydd canlyniadau anfwriadol yn codi ac yn dod yn amlwg yng nghwrs y cynllun treialu, oherwydd fe fydd y cynllun hwn yn effeithio ar fywydau rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni. Mae hi'n bwysig fod y Llywodraeth a chynghorwyr y bobl ifanc yn cadw golwg ar hyn a bod Llywodraeth Cymru yn gwneud addasiadau lle bo angen.
O gofio y gall y rhai sy'n gadael gofal ymuno yn wirfoddol, fe fyddai gennyf i ddiddordeb i wybod a fydd y Llywodraeth yn cysylltu â'r rhai a benderfynodd beidio â chymryd rhan yn y cynllun treialu hwn i ganfod pam y daethant i'r penderfyniad hwnnw i beidio ag ymuno ag ef. Ac, wrth gwrs, mae incwm sylfaenol yn gadael y rhai heb unrhyw gostau ychwanegol yn gymharol well eu byd o dan gyfandaliad na'r rhai sy'n wynebu costau ychwanegol, megis costau sy'n gysylltiedig ag anabledd neu ofal plant. O gofio ei bod yn debygol yr effeithir ar fudd-daliadau pobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y cynllun treialu hwn o ganlyniad, sut fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw'r rhai sydd â chostau ychwanegol sy'n gysylltiedig ag anabledd, neu'r rhai sy'n beichiogi, er enghraifft, yn ystod y cynllun, o dan anfantais o gymharu ag eraill yn y cynllun? Ac i ddilyn hynny, pan fydd y Llywodraeth yn gwerthuso'r cynllun treialu, sut caiff effeithiau'r cynllun eu hystyried o ran y cyfranogwyr hynny sydd â materion croestoriadol?
Pwynt pwysig i ni ei ystyried hefyd yw'r hyn sy'n digwydd ar ddiwedd y cynllun treialu. Mae hi'n dderbyniol iawn y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw mewn cysylltiad â chyfranogwyr, yn enwedig felly o gofio, pan ddaw'r cynllun i ben, bod yr arian yn dod i ben, a bod £1,200, fwy neu lai, yn swm sylweddol o arian i'w golli, a hwnnw, wrth gwrs, yw'r cyfanswm wedi treth. Fe wnaeth Joel y pwynt hwnnw, ac rwyf i o'r farn ei fod yn bwynt teg i'w wneud.
Yn olaf, o ystyried y materion a ganfuwyd gan Lywodraeth yr Alban yn eu hymchwil nhw i gynlluniau treialu incwm sylfaenol, yn ogystal â'r ffaith bod rhai grwpiau yn y gymdeithas ar eu colled drwy daliadau cyfandaliad safonol, pa gynlluniau eraill i oresgyn tlodi sydd dan ystyriaeth gan Lywodraeth Cymru i'w gwerthuso yn y dyfodol? A yw'r Gweinidog o'r farn y gallai mwy o werth fod i wasanaethau sylfaenol cyffredinol, er enghraifft?
Diolch yn fawr, Luke Fletcher, a diolch yn fawr iawn i chi am groesawu'r cynllun treialu incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi tynnu sylw at y ffaith fod Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU wedi ymesgusodi—fe allwn i ddweud, 'gwrthod', ond fe wnaethant ymesgusodi rhag ymgysylltu â ni. Maen nhw wedi gwrthod diystyru'r taliad incwm hwn yr ydym ni'n ei wneud. Fe wnaethon nhw ymesgusodi rhag ymgysylltu â ni mewn gwirionedd o ran gweld a allai'r cynllun treialu incwm sylfaenol hwn ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal fod o fudd i'r rhai sy'n gadael gofal ledled y Deyrnas Unedig. Ond dyna y bydd yn ei wneud, oherwydd, unwaith eto, rydym ni wedi dysgu llawer o'r Alban hefyd, o ran y cynlluniau a gynhaliwyd yno ac, wrth gwrs, rydym ni wedi edrych yn fyd-eang.
Ond fe fyddwn i'n dweud, ac rwyf i am rannu llythyr â chi a ysgrifennais i at Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gwaith a Phensiynau, Thérèse Coffey, yr wyf i wedi—. Y llynedd, fe ysgrifennais ati hi a gofyn am gael trafod y cynllun treialu hwn gyda hi. Gwrthod a wnaeth hi a phenderfynu hefyd y byddai'r taliad incwm sylfaenol yn cael ei gyfrif fel incwm heb ei ennill a'i wrthbwyso ac, wrth gwrs, yn destun i'w ystyried o ran y dreth a budd-daliadau. Ac, mewn gwirionedd, un o'r pryderon mwyaf sydd gennyf i ar hyn o bryd, ac rwyf i am rannu fy llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol gyda chi, yw, er bod hwnnw wedi cael ei ddatgan yn incwm heb ei ennill, ac fe gaiff ei drethu, ond o ran cymhwysedd i gael credyd cynhwysol, maen nhw'n dweud eu bod nhw am ei asesu yn ôl ei werth gros cyn treth, sy'n golygu y bydd yn cael ei asesu yn annheg. Rwy'n rhoi cyfle iddi i unioni'r cam hwnnw, ac fe fyddaf i'n ei rannu, fy ngalwad arni hi, ac rwy'n gobeithio y bydd fy nghyd-Aelodau yma o blith y Ceidwadwyr Cymreig yn fy nghefnogi i yn hynny o beth gan fy mod i am rannu'r llythyr hwnnw gyda chi.
Mae hi'n bwysig iawn, o ran pobl ifanc yn penderfynu a fyddan nhw'n cyfranogi o'r cynllun treialu hwn, eu bod ni'n gwneud dewis deallus wrth wneud felly. A'ch pwynt chi ynglŷn â darganfod rhesymau pobl ifanc am beidio â gwneud felly—wel, eu dewis nhw yw hwnnw, wrth gwrs. Cysylltwyd â'r garfan gyntaf, os hoffech chi, ac maen nhw'n ymwybodol iawn o'r hyn sy'n digwydd oherwydd y gydnabyddiaeth a'r ymgysylltiad a gawsom gyda phobl ifanc drwy Voices from Care dros gyfnod y flwyddyn ddiwethaf, fwy neu lai. Maen nhw wedi bod yn ymgysylltu â phobl ifanc a'r awdurdodau lleol i gyd sydd o ran—. Ac rwyf i wedi bod yn gweithio hefyd gyda'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n gweithio gyda phobl ifanc. Rydym ni wedi cwrdd â phobl ifanc—fe fydd ganddyn nhw ddewis a ydyn nhw am gymryd rhan, ac fe fydd hynny'n ymwneud â'u hamgylchiadau nhw ac, yn wir, gan ystyried enillion eraill a allai fod ganddyn nhw, a'u sefyllfa nhw yn eu bywydau o ran swyddi, addysg a chyfleoedd. Ond o ran gwerthuso, fe fyddwn ni'n edrych ar y ffactorau o'r fath oherwydd mae angen i ni ddysgu oddi wrth y bobl ifanc, y rhai sy'n cymryd rhan drwy gydol y gwerthusiad, am effaith hyn arnyn nhw a sut maen nhw'n ymgysylltu a pha gymorth arall y gallwn ni ei gynnig.
Rwyf i wedi crybwyll y ffaith eisoes mewn ymateb i Joel James y byddem ni'n disgwyl i unrhyw fesurau diogelu a chymorth sydd ar waith yn barod, gan fod ganddyn nhw ddyletswydd barhaus o ran gofal, yr awdurdodau lleol, i'r rhai sy'n gadael gofal, gael eu dilyn a'u rhoi ar gael i'r rhai sy'n gyfranogwyr o'r incwm sylfaenol. Ond hefyd, rwyf i wedi rhoi rhai enghreifftiau i chi o gynlluniau treialu ledled y byd yn dangos bod pobl a allasai fod yn agored i niwed, nid yn unig o ran pethau fel mynd yn ddigartref, neu fethu â chael swyddi, neu hyfforddiant ac addysg—mewn gwirionedd, mae'r cynlluniau treialu ar draws y byd wedi dangos bod pobl ifanc wedi elwa, a bod y rhai ar gynlluniau treialu, ar gynlluniau treialu Incwm Sylfaenol Cyffredinol wedi elwa ar yr incwm sylfaenol, sy'n rhoi mesur llawn o ddiogelwch iddyn nhw yn eu bywydau o ran y dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw.
Materion o ran anabledd—mae hi'n bwysig iawn bod y cynllun treialu hwn ar gael, ac rydym ni o'r farn y bydd hyn yn golygu hyd at 500 o bobl ifanc, pobl ifanc amrywiol ledled Cymru sydd â nodweddion gwarchodedig, ac fe fyddan nhw'n gymwys i gael budd-daliadau eraill. Felly, unwaith eto, gyda chyngor ac arweiniad a'r cymorth parhaus y byddan nhw'n ei gael gan Gyngor ar Bopeth yn ogystal â'u cynghorwyr nhw wrth adael gofal a gweithwyr cymdeithasol, fe fyddan nhw'n gallu asesu'r budd-daliadau y mae'r hawl ganddyn nhw i'w cael. Ond mae hynny'n ddiamod. Fe fyddan nhw'n cael eu £1,600—a drethir, yn anffodus—bob mis, doed a ddelo. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hyn yn adeiladu ar yr hawliau hynny.
Rwyf i o'r farn bydd y gwerthusiad yn hollbwysig o ran ystyried hwn yn werthusiad sy'n dreiddgar a chynhwysfawr. Mae angen i ni edrych ar yr effeithiau tymor hwy, ac wrth gwrs fe fydd rhywfaint o hynny'n cymryd peth amser eto o ran yr hyn a olygodd hyn i bobl ifanc â phrofiad o ofal a fydd yn elwa arno. Ond rydym ni'n defnyddio amrywiaeth o ddulliau gwerthuso ansoddol a meintiol, gan ymgysylltu â'r bobl ifanc eu hunain i gael y data gwaelodlin hynny, a fydd yn sicrhau y gallwn ni asesu effaith incwm sylfaenol yn briodol.
Rwyf i o'r farn y bydd hynny ynddo'i hun yn dangos effaith bwysig y cynllun treialu incwm sylfaenol, oherwydd mae'n dychwelyd at y ffaith bod hyn yn rhoi iddyn nhw y cyfleoedd hynny na chafodd y bobl ifanc hyn, ac efallai na fydden nhw wedi cael rhai o'r fath yn eu bywydau nhw, ac nad oedden nhw yn eu profiad nhw, ac nad yw'r cyfleoedd hynny wedi bod yn bosibl o gwbl. Felly, roedd y bobl ifanc, yn sicr, y gwnaeth y Prif Weinidog a Julie Morgan a minnau gyfarfod â nhw ddydd Gwener yn dweud yn syml, 'Nawr mae gobaith gennym ni. Nawr mae dyfodol gennym ni.'
Mae gen i chwe Aelod o hyd sy’n dymuno siarad, a llai na phum munud ar ôl.
Rwyf i am ofyn i'r Aelodau fod yn gryno yn eu cwestiynau nhw ac i'r Gweinidog fod yn gryno yn ei hatebion hi er mwyn i mi allu cynnwys pawb, os gwelwch chi'n dda. Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am gyflwyno datganiad heddiw. Mae hi'n gwybod bod y mater yn un hynod o bwysig i mi, gan mai fi oedd yr Aelod a gyflwynodd y cynnig llwyddiannus yn y Senedd flaenorol i dreialu incwm sylfaenol cyffredinol yng Nghymru, a'r Aelod a wnaeth gadeirio ymchwiliad trawsbleidiol y Pwyllgor Deisebau ar y pwnc. Rwy'n falch iawn o fod yn sefyll yn y fan hon heddiw, ac yn falch o'r ffaith ein bod ni'n lansio'r cynllun treialu incwm sylfaenol yng Nghymru, ac rwy'n falch fy mod i wedi bod â rhan fechan yn hynny.
Os caf i sôn am ganfyddiadau'r pwyllgor yn gyntaf, Gweinidog, roedd dau bwynt yn sefyll allan. Yn gyntaf, yr angen am gyngor, arweiniad a chymorth cyfrifol a dibynadwy i oedolion, ac, yn ail, pwysigrwydd y broses werthuso. Rydych chi wedi ymdrin â hynny yn eich datganiad chi, ond tybed a wnewch chi gynnig ychydig mwy o sicrwydd i'r bobl ifanc hyn.
Ac yn olaf, os caf i ystyried fy swyddogaeth yn Aelod—ac rwy'n cymeradwyo eich arweiniad chi a'r Prif Weinidog yn benodol am y cynllun treialu incwm sylfaenol, ond a ydych chi'n cytuno â mi, er bod gwahaniaethau rhwng Llywodraeth y DU a ninnau, na ddylen nhw allu rhwystro'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni eu huchelgeisiau hi? Rwy'n nodi i chi ysgrifennu at y Gweinidog yn Llywodraeth y DU. A wnewch chi ymrwymo i gael sgyrsiau parhaus o'r fath gyda'r Gweinidog?
A dim ond yn olaf un, Dirprwy Lywydd—
Na, rydych chi wedi cael dros funud, felly—. Mae gennyf i bum Aelod arall sy'n awyddus i siarad.
Wel, a gaf i ddiolch i Jack Sargeant, a diolch yn arbennig iddo ef am gadeirio'r Pwyllgor Deisebau a'r argymhellion sydd wedi dod o'r pwyllgor hwnnw? Rydym ni wedi derbyn pob un ohonyn nhw'n llawn neu'n rhannol, ac rwy'n credu'r argymhellion hynny'n arbennig—. Tâl gwarantedig diamod i'r unigolyn—yn ddiamod—ond hefyd y dylai'r rhai sy'n gadael gofal gynnwys y rhai sy'n gadael gofal o ystod mor amrywiol â phosibl o gefndiroedd, ac y dylem ni weithio gyda Llywodraeth y DU mewn gwirionedd. Felly, rwyf i eisoes wedi rhoi—. Fe fyddaf i'n rhannu fy llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol â chi. Rwy'n gobeithio y bydd hi'n ymateb yn gadarnhaol ac y gallwn ni oresgyn y rhwystr arbennig sydd wedi ymddangos o ran gallu derbyn credyd cynhwysol a'r cymhwysedd i'w gael. Ac eto, fe fyddai hi'n dda o beth pe gallen nhw ailystyried trethu'r cynllun treialu incwm sylfaenol hwn. Fe fydd yn gynllun treialu pwysig i Lywodraeth y DU. Rydym ni'n buddsoddi yn y bobl ifanc hyn, ac fe fydd y buddsoddiad hwnnw'n golygu y gallai fod ganddyn nhw lai o angen am wasanaethau cyhoeddus wedyn, fel y gwasanaethau sy'n rhaid eu darparu o ran digartrefedd, camddefnyddio sylweddau ac, yn wir, diweithdra, oherwydd rydym ni'n gobeithio y bydd y bobl ifanc hyn wedyn yn symud ymlaen yn eu bywydau gyda swyddi, cyflogaeth, addysg.
Diolch yn fawr iawn i chi, Gweinidog, a'r Gweinidog arall hefyd, y Dirprwy Weinidog, a'r bobl yn eich adran chi sydd wedi gweithio mor galed ar hwn. Fe allwn i siarad am oriau ar y pwnc hwn, ac rwy'n sylweddoli mai dim ond un munud sydd gennyf i, felly rwyf i am siarad yn gyflym iawn, iawn. Rwyf i'n llwyr gefnogi'r cynllun treialu hwn, fel y gwyddoch chi. Fe wnes i gyfarfod â grŵp o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ychydig wythnosau yn ôl, ac fe fyddwn i'n gwahodd y Ceidwadwyr i gyd nad ydyn nhw'n cyd-fynd â hyn i fynd i gyfarfod â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a chlywed eu barn nhw. Fe fyddwn i'n gwahodd y Blaid Lafur yn San Steffan hefyd i fabwysiadu hwn yn bolisi iddyn nhw, fel gwnaeth Plaid Cymru, a ninnau, Plaid Genedlaethol yr Alban a'r Blaid Werdd.
A gaf i ymateb i chi drwy ddweud fy mod i yn edrych ymlaen at weld a fyddwn ni'n casglu digon o dystiolaeth i lywio'r gwaith o ehangu'r cynllun treialu hwn i'r dyfodol a chael cynlluniau mwy parhaol ar waith yng Nghymru? Ac fe fyddwn i'n dweud wrth y Ceidwadwyr: edrychwch chi ar y dystiolaeth—mae'r dystiolaeth ar draws y byd yn dweud bod incwm sylfaenol yn gwella bywydau yn wirioneddol ac yn gwella llesiant pobl. Nid yw hyn yn golygu dim ond pobl yn taflu eu harian nhw i ffwrdd. Yn 2009, rhoddwyd £3,000 i 20 o bobl ddigartref. Ni wnaethant ei daflu i ffwrdd; fe wnaethon nhw wario £800 ohono ar eiriaduron, ar addysg ac ar ddod o hyd i lety. Felly, os gwelwch chi'n dda, edrychwch chi ar y dystiolaeth, Geidwadwyr, a gwrando ar leisiau plant sydd mewn gofal. Diolch yn fawr iawn. Diolch i chi.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Wel, ni allaf ddweud dim mwy wrth ymateb i Jane ac eithrio diolch iddi hithau am ei chefnogaeth hefyd, unwaith eto, edrychwch chi ar bwysigrwydd y dystiolaeth fyd-eang am gynlluniau treialu incwm sylfaenol. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Ceidwadwyr yn cydnabod o leiaf fod hwn yn gyfle i'r rhai sy'n gadael gofal yma, ac yn rhoi gobaith iddyn nhw, yn agor drysau, yn estyn cyfleoedd iddyn nhw.
Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Nid wyf i'n ceisio gwneud unrhyw bwyntiau gwleidyddol yn hyn o beth. Mae gennyf rai pryderon dybryd ynglŷn â hyn. A minnau'n rhiant corfforaethol am 25 mlynedd yn y sector llywodraeth leol, rwyf i o'r farn fod llawer mwy y gall awdurdodau lleol ei wneud. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi disgrifio'r pecynnau cymorth yr oeddech chi'n eu disgwyl oddi wrth yr awdurdodau lleol, ond rwy'n llwyr o'r farn y dylai awdurdodau lleol ymestyn eu cyfrifoldebau rhianta nhw dros 18 oed a defnyddio'r adnoddau yr ydych chi'n bwriadu eu gwario fel hyn i ganolbwyntio ar lwybrau gyrfa a chyfleoedd dysgu gwirioneddol, gyda chreu swyddi—swyddi a gyrfaoedd hirdymor gwirioneddol. Rwy'n bryderus iawn ynglŷn â'r gostyngiad ar ddiwedd y ddwy flynedd. Fe fydd rhai yn gallu ymdopi yn dda iawn â hynny; ac eraill yn golledigion mewn gwirionedd. Ac rwy'n gofidio yn fawr y bydd llawer o golledigion o ganlyniad i'r arbrawf hwn. Rwy'n gobeithio y bydd y cynllun yn dangos fy mod i'n anghywir, oherwydd mae'r garfan ifanc hon yn werthfawr, werthfawr iawn ac fe ddylem ni ymlwybro yn ofalus iawn o ran ein dull ni o ymdrin â hyn. Ond rwy'n credu mai awdurdodau lleol ddylai gyflwyno'r pecynnau cymorth hynny oherwydd eu bod nhw'n rheini corfforaethol gyda swyddogaeth estynedig fel rhieni corfforaethol. Diolch i chi.
Wel, diolch yn fawr iawn, Peter Fox. Rwy'n gobeithio y bydd y cynllun treialu incwm sylfaenol hwn yn dangos eich bod chi'n anghywir. Mae ein hawdurdodau lleol ni i gyd yn gefnogol i hyn. Rwyf i wedi cyfarfod â'r gweithwyr cymdeithasol, ein cynghorwyr pobl ifanc, fel gwnaeth Julie Morgan, a'r Prif Weinidog a minnau wythnos diwethaf. Maen nhw o'r farn bod hwn yn gyfle iddyn nhw gyflawni eu cyfrifoldebau nhw fel rhieni corfforaethol i bobl ifanc sy'n gadael gofal. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol iddyn nhw, a chyda'r gefnogaeth sydd gennym ni, y cyllid yr ydym ni'n ei roi ar gyfer y pecyn cymorth drwy gydol y cynllun treialu, ac ar gyfer rhwydweithio mewn gwirionedd, ac fe hoffwn i ddweud fy mod i o'r farn y byddai pobl sy'n gadael gofal yng Nghymru yn falch o glywed eich bod chi'n awyddus i chwilio am yr elfennau cadarnhaol yn y cynllun treialu hwn. Fe fyddai hi'n ardderchog o beth pe byddai hynny'n dod o bob cwr o'r Siambr hon heddiw.
Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am y datganiad hwn heddiw? Rwy'n credu bod hyn unwaith eto yn amlygu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu cyfleoedd bywyd i blant sy'n derbyn gofal. Dau gwestiwn byr. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r holl gyngor a amlinellwyd gennych chi a fydd ar gael i'r rhai sy'n gadael gofal ynghylch materion ariannol. A wnewch chi roi sicrwydd i'r Aelodau mai'r cynghorwyr pobl ifanc fydd yn parhau i fod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer rhai sy'n gadael gofal, ac y byddan nhw'n gallu ymddiried yn y cynghorwyr hynny i gynnig y gwasanaeth cyfeirio sy'n fwyaf addas ar eu cyfer nhw, ac na fydd yn rhaid iddyn nhw gynnig rhestr faith o wasanaethau cynghori y dylai'r rhai sy'n gadael gofal fynd atyn nhw i gael cyngor ariannol? Mae hi'n gwbl hanfodol bod y rhai sy'n gadael gofal, gyda'u cynghorwyr nhw, yn dewis y ffordd orau o fynd ar drywydd hynny drwy gael cyngor a chymorth ynglŷn â materion ariannol.
Ac yn ail, Gweinidog, ar ôl cwblhau'r cynllun treialu hwn, pe byddai'r cynllun, yn sgil y gwerthusiad, yn cael ei ystyried o fudd sylweddol iawn i bobl ifanc o ran bod ag incwm sylfaenol cyffredinol i rai sy'n gadael gofal, a wnewch chi ymrwymo'r Llywodraeth i ystyried cynnal y gronfa benodol hon i rai sy'n gadael gofal yn y dyfodol, beth bynnag sy'n digwydd o ran y cynllun treialu hwn yn cael ei fabwysiadu neu beidio gan Lywodraeth y DU? Ac a gaf i hefyd—
Na, na. Diolch i chi, Ken.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd.
Diolch yn fawr, Ken Skates. Fe fydd y gwasanaeth yn rhoi cyngor uniongyrchol i bobl ifanc—y pecyn £2 filiwn hwnnw yr wyf i wedi ymateb i gwestiynau yn ei gylch eisoes, y pecyn cymorth, y cyngor ariannol a'r arweiniad, yn gyfochrog â'r cynghorwyr pobl ifanc hefyd, sy'n agweddau mwy eang efallai ar y cyngor a'r arweiniad angenrheidiol, ond ar sail un i un yn arbennig felly. Ond hefyd, mae hynny'n annibynnol, ac rwyf i o'r farn mai dyna sy'n bwysig—y bydd y pecyn hwn yn annibynnol, fel rydych chi'n dweud, Ken Skates. Mae'n rhaid iddo fod yn annibynnol, felly maen nhw'n teimlo y gallan nhw fod â ffydd ynddo, ochr yn ochr â chanllawiau eu hawdurdodau lleol nhw. Ac fe fydd hynny'n dod cyn y cynllun treialu a thrwy gydol y cynllun hefyd. Fe fydd hi'n bwysig i hynny fod oddi wrth gynghorwyr profiadol, yn enwedig o ran cyllid.
Bydd, fe fydd y gwerthusiad yn mynd â ni drwy'r ddwy flynedd a thu hwnt i weld effaith incwm sylfaenol ar fywydau'r bobl ifanc hyn. Rydym ni'n gobeithio y bydd y cynllun treialu yn profi i ni wneud y penderfyniad cywir o ran rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru, a hynny wedyn—. Dyletswydd y Llywodraethau, a'r pleidiau gwleidyddol eraill hefyd yn wir, rwy'n siŵr, fydd edrych ymlaen at y dyfodol o ran bwrw ymlaen â buddsoddiad fel hyn yn ein pobl ifanc ni. Rwy'n gwybod nad oes gennyf i amser i fynd dros hyn eto, ond mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ystyried hyn yn fuddsoddiad. Mae hyn yn ymwneud â'u bywydau ariannol nhw, eu dyfodol nhw, ac fe fydd ystyried hyn o ran sut y bydd hyn yn rhoi cychwyn iddyn nhw ar eu taith i fod yn ddinasyddion sy'n cyfrannu'n llawn, sy'n talu eu trethi ac yn eu galluogi nhw i fod â rhan yn y gymdeithas yn y ffordd y maen nhw'n dymuno—rhedeg busnesau, mynd i addysg bellach ac addysg uwch a swyddi—dyna'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w gael i rai sy'n gadael gofal yng Nghymru.
Diolch, Gweinidog. Rwyf i'n llwyr gefnogi'r cynllun treialu fel un cam ar y daith tuag at incwm sylfaenol cyffredinol parhaol. Ar 4 Mai, yn ystod cwestiynau llefarwyr cyfiawnder cymdeithasol, fe godais i gyda chi fod pobl ifanc sy'n gadael gofal yn aml yn cael cyfle i aros mewn llety lled annibynnol, megis fflatiau mewn cyfadeilad, lle mae gan unigolyn ifanc ei lety annibynnol ei hun ond ei fod yn gallu cael cymorth sylweddol i'w helpu i bontio i fywyd annibynnol. Eto i gyd, wrth gwrs, mae'r math hwn o lety yn ddrud i'w redeg ac, o'r herwydd, fe all y rhent fod yn uchel. Ond, yn flaenorol, i lawer o bobl ifanc yn gadael gofal, roedd eu rhent nhw mewn llety o'r fath yn cael ei dalu i landlordiaid yn uniongyrchol drwy fudd-dal tai. Gofynnais i a oedd Llywodraeth Cymru am sicrhau bod cyfranogwyr y cynllun treialu yn cael eu cefnogi'n ariannol er mwyn iddyn nhw gael mynediad at y cymorth a'r llety gorau posibl ac nad oeddynt yn cael eu datgymell rhag cael mynediad i dai â chymorth. Fe wnaethoch chi ymateb drwy ddweud y byddech chi'n ystyried y pwynt penodol hwn. Felly, tybed, Gweinidog, a wnewch chi amlinellu a yw Llywodraeth Cymru wedi gwerthuso'r mater hwn, o ystyried yr hyn a ddywedoch chi am yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac a wnewch chi egluro a fydd y rhain sydd ar y cynllun treialu incwm sylfaenol yn gallu parhau i gael mynediad i lety â chymorth.
Diolch. Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, a gallaf i ddweud 'ie'; Gallaf i ddweud 'ie' i'r yr holl bwyntiau. Hefyd, bydd cyfle i ystyried a ydyn nhw eisiau i'w rhent gael ei dalu'n uniongyrchol, yn ogystal ag edrych ar eu hanghenion o ran cyfleoedd tai â chymorth, nawr ac yn y dyfodol.
Ac yn olaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cynllun peilot hwn a'r datganiad heddiw yn fawr, gan ganolbwyntio fel y mae ar y rhai sy'n gadael gofal â'r incwm sylfaenol. Bydd yn ychwanegu, er gwaethaf rhai o'r amheuon heddiw, at y gronfa honno o dystiolaeth ryngwladol, o ran cynlluniau treialu incwm sylfaenol ond hefyd ar gymorth i'r rhai sy'n gadael gofal eu hunain tuag at fywyd annibynnol hefyd.
I ddatblygu'r pwyntiau a gafodd eu gwneud gan fy nghyd-Aelod Ken Skates, ac y cyfeiriodd eraill atyn nhw hefyd, o ran gwerthuso hyn, mae dau botensial diddorol. Wel, mae tri: un yw nad yw'n gweithio, a dywedwn ni, 'Wel, dyna ni. Nid oes gennym ni ddiddordeb ynddo.' Ond mae dau arall a allai fod yn fwy ffrwythlon. Un ohonyn nhw yw ehangu hyn i incwm sylfaenol sydd wir yn fwy cyffredinol; yr un arall yw parhau hyn.
Nawr, rwy'n tybio mai mater i bleidiau fydd edrych ar hyn, a llwyddiant hyn, a dweud a ydyn nhw eisiau rhoi hyn mewn maniffestos wrth symud ymlaen ar raddfa ehangach. Ond beth am barhad hyn i'r rhai sy'n gadael gofal eu hunain? A yw hynny'n rhywbeth y gallem ni yn wir wneud penderfyniad arno cyn y pwynt hwnnw?
Wel, rydym ni wedi nodi ac rydym ni wedi cytuno yn ein cyllideb ar yr £20 miliwn. Mae'n wir—. Roeddwn i eisiau dweud mai un o'r pwyntiau nad wyf i wedi gallu tynnu sylw ato yw mai dyma un o'r taliadau mwyaf hael yn y byd i gyd yr ydym ni'n ei wneud. Rydym ni'n ei wneud, mewn gwirionedd, yn rhannol oherwydd, pan wnaethom ni glywed bod Llywodraeth y DU yn mynd i'w drethu, roeddem ni'n gwybod bod yn rhaid inni ei gwneud yn ddigon i'w gwneud yn fuddiol i bobl ifanc ystyried y dewis hwn.
Rydym ni'n credu y bydd ein buddsoddiad yn hyn, a'r gwerthusiad—proses ddeinamig, barhaus ar gyfer oes y cynllun treialu—yn profi a fydd hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau'r bobl ifanc hynny. Felly, rwy'n hapus iawn i ddod yn ôl ac adrodd. Rwy'n credu y bydd llawer eisiau cwrdd â'r bobl ifanc; rwy'n siŵr y byddan nhw'n awyddus iawn i wneud hynny, i ddweud wrthych chi am effaith hyn a'r gwahaniaeth y mae wedi'i wneud i'w bywydau. Ac yna, mewn gwirionedd, i ddechrau costio'r hyn y mae hyn yn ei olygu o ran buddsoddi yn y bobl ifanc hyn—buddsoddi fel na fydd angen gwasanaethau cyhoeddus eraill yn eu bywydau, o ran tai, ac effaith efallai'r anawsterau hynny y mae llawer o bobl ifanc mewn gofal yn aml yn eu hwynebu, o ran digartrefedd, camddefnyddio sylweddau.
Ond rydym ni'n edrych ar hyn fel—. Y bobl ifanc hyn sydd wedi siarad â ni, gallwch chi weld, os darllenwch chi eu straeon, eu bod yn gwybod ar beth y maen nhw eisiau gwario'r arian hwn. Mae i wneud eu bywydau'n gadarn. Mae'n ymwneud â sicrhau eu bod wedi cael y cyfleoedd, a dweud, 'Mae gennym ni obaith nawr, ac rydym ni eisiau profi y gallwn ni ddefnyddio'r arian hwn a symud ymlaen yn ein bywydau mewn ffordd gadarnhaol, ragweithiol.' Dyna hanfod hyn i gyd.
Diolch i'r Gweinidog.